Rhun ap Iorwerth AS/MS

Ymateb arweinydd Plaid Cymru i Adroddiad y Comisiwn Cyfansoddiadol

Bydd arweinydd Plaid Cymru yn rhoi ei ymateb i adroddiad y Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru mewn digwyddiad a drefnir gan Brifysgol Aberystwyth ar ddiwedd y mis. Cynhelir Ar ôl y Comisiwn Cyfansoddiadol – Mapio’r Ffordd i Annibyniaeth Cymru am 6.30yh ddydd Mercher 31 Ionawr yng Nghanolfan Gelfyddydau’r Eglwys Norwyaidd ym Mae Caerdydd. Trefnir gan Ganolfan…

🎁 Croeso i gylchlythyr mis Rhagfyr CWPS

Rydym yn falch o gyflwyno ein cylchlythyr cyn dathliadau’r ŵyl! Mae’r cylchlythyr yn cynnwys fideos, digwyddiadau ac uchafbwyntiau o’n hymchwil ar bolisi iaith, strategaethau plaid ymwahanol, a’r berthynas gymhleth rhwng yr economi a’r iaith yng Nghymru. Anfonwyd y cylchlythyr hwn at ein rhestr bostio yn y lle cyntaf. I gael ein diweddariadau mae croeso i…

Patrymau Gweithredu Gwirfoddol yng Nghymru a Gogledd Iwerddon 

Ar ddydd Iau 16 Tachwedd 2023, cynhaliodd y Rhwydwaith Astudiaethau Sector Gwirfoddol ddigwyddiad i ystyried y ffordd y mae Sectorau Gwirfoddol Cymru a Gogledd Iwerddon yn cael eu trafod a’u hymchwilio, ac a oedd hynny’n wahanol o’i gymharu â gweddill y DU.  Roedd Dr Amy Sanders yn un o’r panelwyr.  Mae Dr Sanders yn academydd o…

Dull Arloesol o Ddeall Datblygu Polisi Iaith 

Mae Dr. Elin Royles a Dr. Huw Lewis wedi datblygu fframwaith i ddadansoddi’r ffactorau sy’n dylanwadu ar ddatblygu polisïau iaith.   Yn eu cyfraniad i’r llawlyfr ar bolisi a chynllunio iaith, The Routledge Handbook of Language Policy and Planning, maent yn mynd i’r afael â dau ddull o bolisi cyhoeddus sef llywodraethu aml-lefel a sefydliadaeth newydd.  Mae eu pennod…

Dr Anwen Elias yn taflu goleuni ar ymreolaeth i Corsica

Cafodd syniadau Dr. Anwen Elias ar ymreolaeth i Corsica eu cynnwys yn Nation Cymru ar 30 Medi.   Bu trafodaethau am ymreolaeth Corsica yn cael eu cynnal ers 18 mis, ac mewn araith yn ddiweddar mynegodd Arlywydd Ffrainc, Emmanuel Macron ei gefnogaeth unwaith eto i gytundeb ymreolaeth newydd.  Mae Dr. Elias yn dadlau serch hynny bod y trafodaethau…
Logo Plaid Cymru, Plaid Cymru logo

‘Galw am annibyniaeth’: ymchwil newydd yn esbonio strategaeth pleidiau o blaid annibyniaeth

Mae ymchwil newydd yn dadlau bod Plaid Cymru wedi gwneud ei galwadau am annibyniaeth i Gymru yn llai amlwg er mwyn er mwyn blaenoriaethu ceisio sicrhau pleidleisiau rhwng 2003 a 2015, ac wedi gwneud eu galwad am annibyniaeth yn fwy blaenllaw ar ôl 2019, gydag arweinyddiaeth newydd y blaid yn sbarduno hyn yng nghyd-destun y…
Hills and trees in the Welsh Countryside.jpg Hills and trees in the Welsh Countryside

Papur newydd yn galw am ddefnyddio cyfiawnder gofodol fel dull i fynd i’r afael ag argyfyngau lluosog yng nghefn gwlad Prydain 

Mae papur newydd gan yr Athro Michael Woods wedi’i gyhoeddi yn The Geographical Journal.   Mae’r papur hwn yn cynnig mabwysiadu cyfiawnder gofodol fel dull o ddeall yr argyfyngau lluosog sy’n wynebu cefn gwlad Prydain ac i ddatblygu ymatebion polisi.   Mae’n amlinellu elfennau allweddol cyfiawnder gofodol gwledig ac yn ystyried ei ddefnydd wrth ddadansoddi heriau yng nghefn…

Podlediad newydd y SMC yn trafod Deialog, Trafodaeth ac Adnewyddiad Democrataidd

Gwrandewch ar bodlediad diweddaraf y SMC sy’n cynnwys Cyd-gyfarwyddwr CWPS WISERD, Dr. Anwen Elias a Dr. Jennifer Wolowic, Prif Arweinydd y Ganolfan Ddeialog ym Mhrifysgol Aberystwyth, wrth iddynt ymchwilio i fyd deialog, trafodaeth ac adnewyddiad democrataidd. Darganfyddwch sut mae dulliau arloesol o ymdrin â democratiaeth yn ymgysylltu â dinasyddion wrth lunio penderfyniadau sy’n effeithio ar…
The project held a photography exhibition in Aberystwyth in April 2023, displaying images of ‘Independence’ taken by local photographers.

Galw am Luniau o Annibyniaeth gan Ffotograffwyr Ardal Caernarfon

Mae ymchwilwyr yn chwilio am bobl o ardal Caernarfon sy’n mwynhau ffotograffiaeth i dynnu lluniau yn adlewyrchu sut maen nhw’n meddwl ac yn teimlo am annibynniaeth. Bydd gofyn i’r ffotograffwyr dynnu pedwar o luniau ac yna mynychu sesiwn yn Y Galeri yng Nghaernarfon ar ddydd Sadwrn 30 Medi i drafod sut a pham wnaethon nhw…