Sefyllfaoedd IMAJINE yn cael eu cyflwyno mewn Cynhadledd ar Bolisi Cydlyniant yr UE

Mae’r cynnwys hwn ar gael yn Saesneg yn unig. Professor Michael Woods presented findings from the CWPS-WISERD-led Horizon 2020 project IMAJINE to the Third Joint EU Cohesion Policy Conference in Zagreb in November. Jointly organized by the European Commission Directorate-General for Regional and Urban Policy (DG-Regio), the Regional Studies Association and the Croatian Government, the…

Papur newydd ar ffoaduriaid, hil a chyfyngiadau cosmopolitaniaeth wledig yng Nghymru ac Iwerddon

Mae Cyd-Gyfarwyddwr CWPS-WISERD, yr Athro Michael Woods, wedi cyhoeddi papur mynediad agored yn y Journal of Rural Studies sy’n edrych ar ffoaduriaid a cheiswyr lloches yn ymgartrefu mewn tair tref fechan yng Nghymru ac Iwerddon, yn cynnwys Aberystwyth a’r Drenewydd.  Mae’r papur yn adeiladu ar erthygl gynharach a oedd yn cyflwyno’r syniad o gosmopolitaniaeth wledig…

Papur newydd yn amlygu effaith trawsnewid diwydiannol mewn ardaloedd gwledig

Mae papur newydd yn y Journal of Rural Studies yn adrodd ar ymchwil o brosiect Global-Rural yr ERC a arweiniwyd gan CWPS-WISERD i archwilio trawsnewidiad diwydiannol pentref yn nwyrain Tsieina yng nghyd-destun globaleiddio. Cyd-awduron y papur yw Cyd-Gyfarwyddwr CWPS-WISERD, yr Athro Michael Woods, ynghyd â chyn-ôl-ddoethur CWPS-WISERD, Dr Francesa Fois (sydd bellach ym Mhrifysgol Salford), yr Athro Hualou Long…

Paned a 7 fideo blasus ynglŷn â’r sector gwirfoddol

Mae Dr Amy Sanders o Brifysgol Aberystwyth & Sefydliad Ymchwil Cymdeithasol ac Economaidd a Data Cymru (WISERD) wedi creu cyfres fideo o fân gyflwyniadau, wedi’u hanelu at ymarferwyr sy’n rhannu ei hymchwil, ynglŷn â’r berthynas rhwng y sector gwirfoddol a Llywodraeth Cymru yn yr amser mae’n gymryd i gael paned o de.  Bu cefndir Amy…

Digwyddiad Panel a rhwydweithio – Reimagining Welshness: New & Emerging Research

Bydd cyn Archesgob Caergaint Dr Rowan Williams a Phennaeth BBC Radio 1 Aled Haydn Jones ymysg y cyfranwyr yng Ngŵyl Ymchwil Prifysgol Aberystwyth yn ddiweddarach y mis hwn.  Yn rhan o’r ŵyl, mae Canolfan Gwleidyddiaeth a Chymdeithas Cymru  wedi trefnu trafodaeth banel sy’n dwyn y teitl ‘Reimagining Welshness: New & Emerging Research’. Bydd y digwyddiad yn dangos…

Penodau newydd i academydd CWPS-WISERD ar bolisi a chynllunio iaith

Mae tri academydd o Brifysgol Aberystwyth wedi ysgrifennu penodau mewn llyfr newydd sy’n dathlu cyfraniad yr Athro Colin Williams i faes polisi a chynllunio iaith. Mae Language, Policy and Territory yn cynnwys 18 pennod gan gyn-fyfyrwyr a chyn-gydweithwyr Williams yn fewnol ac allanol, gan gynnwys yr Athro Rhys Jones, Dr Huw Lewis a Dr Elin Royles, sy’n gweithio yng Nghanolfan Gwleidyddiaeth a…

Penodi Cyd-Gyfarwyddwr CWPS & WISERD i’r Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru

Mae arbenigwraig ar wleidyddiaeth diriogaethol a chyfansoddiadol ym Mhrifysgol Aberystwyth wedi’i phenodi’n Gomisiynydd ar gomisiwn newydd, y Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru. Roedd y Dr Anwen Elias, Darllenydd mewn Gwleidyddiaeth yn yr Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol, ymhlith y naw unigolyn a benodwyd yn y cyhoeddiad a wnaed yn y Senedd heddiw gan y Cwnsler Cyffredinol…

Trafodaeth Genedlaethol am Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru

Yn y rhifyn diweddaraf o The Welsh Agenda  mae Dr Anwen Alias, Cyd-Gyfarwyddwr CWPS-WISERD, Matthew Jarvis,  aelod o Fwrdd Gweithredol CWPS, a Mike Corcoran a Noreen Blanluet yn trafod ar ba ffurf y dylid cynnal trafodaeth genedlaethol ynglŷn â dyfodol cyfansoddiadol Cymru. Mae’r drafodaeth yn seiliedig ar y prosiect ‘Dyfodol Cyfansoddiadol’ sydd wedi’i leoli ym…

Hen lawysgrifau yn ysbrydoli cerddi cyfoes am newid hinsawdd

Mae tri bardd o Brifysgol Aberystwyth wedi cyfansoddi cerddi newydd mewn ymateb i hen lawysgrifau o Lyfrgell Genedlaethol Cymru sy’n ymdrin â’r tywydd a newid hinsawdd. Bydd y cerddi a’r llawsygrifau’n cael eu rhannu arlein a’u harddangos mewn ffenest siop wag yng nghanol tref Aberystwyth fel rhan o Ŵyl Ymchwil y Brifysgol sy’n dechrau heddiw…
Cloud coverage in Machynlleth Valley

‘Nawr yw’r amser cywir i ddechrau trafod dyfodol Cymru yn y Deyrnas Unedig’

Mae cynnal sgwrs genedlaethol o’r fath yn dod â’i heriau, meddai Dr Anwen Elias, yn enwedig gan fod “lefelau gwybodaeth am ddatganoli yn isel iawn”. Mae  Dr. Anwen Elias, Cyd-Gyfarwyddwr Canolfan Gwleidyddiaeth a Chymdeithas Cymru a Phrif Ymchwiliwr y prosiect Dyfodol Cyfansoddiadol yn cael ei chyfweld gan Golwg360 ynglŷn â dyfodol Cymru.  Darllenwch y cyfweliad…