Galw am Luniau o Annibyniaeth gan Ffotograffwyr Ardal Caernarfon

Fel rhan o’r prosiect, cynhaliwyd arddangosfa ffotograffiaeth yn Aberystwyth ym mis Ebrill 2023, yn dangos delweddau o o Annibyniaeth gan ffotograffwyr lleol.

Mae ymchwilwyr yn chwilio am bobl o ardal Caernarfon sy’n mwynhau ffotograffiaeth i dynnu lluniau yn adlewyrchu sut maen nhw’n meddwl ac yn teimlo am annibynniaeth.

Bydd gofyn i’r ffotograffwyr dynnu pedwar o luniau ac yna mynychu sesiwn yn Y Galeri yng Nghaernarfon ar ddydd Sadwrn 30 Medi i drafod sut a pham wnaethon nhw ddewis eu delweddau. 

Mae’r alwad yn rhan o brosiect ymchwil rhyngwladol dan arweiniad Dr Anwen Elias a Dr Elin Royles o Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol Prifysgol Aberystwyth.

Nod y prosiect yw archwilio sut mae profiadau bywyd pobl yn effeithio ar eu hagweddau at annibyniaeth yng Nghatalwnia, Cymru, a’r Alban.

Dywedodd Dr Anwen Elias o Brifysgol Aberystwyth: 

“Yng Nghymru, fel rhan o’n prosiect ymchwil, rydym eisoes wedi bod yn gweithio gyda ffotograffwyr yn ardal Aberystwyth ac mae’r gwaith yn ehangu i gymoedd y De hefyd. Gan ein bod yn awyddus i sicrhau bod gennym ddelweddau o bob rhan o Gymru, rydyn ni’n gobeithio bydd ffotograffwyr ardal Caernarfon eisiau bod yn rhan o’r astudiaeth ddiddorol yma. Y bwriad yw adlewyrchu ystod barn eang ac ry’n ni’n croesawu cyfraniadau gan unigolion sydd â safbwyntiau gwahanol ar annibyniaeth, yn ogystal â rhai sydd heb feddwl am y mater o gwbl.” 

Dywedodd Dr Elin Royles o Brifysgol Aberystwyth:

“Mae’r prosiect yma yn datblygu dull newydd sbon o ymchwilio i ‘Annibyniaeth’. Hyd yma, mae’r rhan fwyaf o’r gwaith ymchwil yn y maes wedi canolbwyntio ar ymatebion i arolygon barn ac i ffactorau demograffig, fel oedran, rhyw, dosbarth cymdeithasol ac incwm, ond ry’n ni’n cloddio’n ddyfnach ac â diddordeb mewn dysgu sut y gallwn esbonio’r ffordd mae pobl yn meddwl ac yn teimlo am ddyfodol cyfansoddiadol eu gwledydd gan ddechrau gyda ffotograffau. 

“Drwy weithio yng Nghymru, yr Alban a Chatalwnia, y nod yw ychwanegu lliw a chysgod at yr hyn sy’n hysbys hyd yma am farn pobl mewn perthynas ag Annibyniaeth. Yn bwysicaf oll, gall arwain at drafodaeth fwy cynnil, yn enwedig yng Nghatalwnia a’r Alban, lle mae’r dadlau’n ddwys ac wedi’i begynnu ymhlith pleidiau gwleidyddol a’r cyfryngau.”

Gall ffotograffwyr o ardal Caernarfon sydd â diddordeb yn y prosiect gofrestru ar-lein neu gysylltu’n uniongyrchol gydag Elin Royles ar ear@aber.ac.uk am fwy o wybodaeth.

Bydd detholiad o’r lluniau o ardal Caernarfon yn cael eu cynnwys mewn arddangosfeydd ffotograffiaeth sy’n cael eu cynllunio gan y prosiect yng Nghymru a Chatalwnia.

Ariennir y prosiect gan Gyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol (ESRC) fel rhan o’i raglen WISERD (Sefydliad Ymchwil a Data Cymdeithasol ac Economaidd Cymru).


Cysylltiadau

Dr Elin Royles
Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol, 
Prifysgol Aberystwyth  
ear@aber.ac.uk

Dolenni

Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol Prifysgol Aberystwyth