Dull Arloesol o Ddeall Datblygu Polisi Iaith 

Dr Elin Royles a Dr Huw Lewis

Mae Dr. Elin Royles a Dr. Huw Lewis wedi datblygu fframwaith i ddadansoddi’r ffactorau sy’n dylanwadu ar ddatblygu polisïau iaith.  

Yn eu cyfraniad i’r llawlyfr ar bolisi a chynllunio iaith, The Routledge Handbook of Language Policy and Planning, maent yn mynd i’r afael â dau ddull o bolisi cyhoeddus sef llywodraethu aml-lefel a sefydliadaeth newydd.  Mae eu pennod ‘Governance, complexity and multi-level LPP’ yn datblygu fframwaith sefydliadol aml-lefel i ddadansoddi’n systematig y ffactorau sy’n dylanwadu ar ddatblygu polisïau iaith penodol. 

Mae’r bennod yn mynd ymlaen i esbonio sut y gall y fframwaith egluro polisïau diweddar ynghylch ieithoedd rhanbarthol neu leiafrifol Ewropeaidd a’i botensial i ddadansoddi polisïau iaith eraill, fel dysgu ieithoedd tramor neu helpu mewnfudwyr i integreiddio iaith.  

Dyma arolwg cynhwysfawr ac awdurdodol, yn cynnwys cyfraniadau gwreiddiol gan uwch ysgolheigion blaenllaw a sêr y dyfodol, sy’n rhoi sail ar gyfer ymchwil yn y dyfodol i bolisi a chynllunio iaith mewn cyd-destunau rhyngwladol, cenedlaethol, rhanbarthol a lleol. 

Darllenwch y bennod gyfan yma:  The Routledge Handbook of Language Policy and Planning | Michele Gazzo (taylorfrancis.com)


Cysylltiadau

Dr Huw Lewis
Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol, 
Prifysgol Aberystwyth  
hhl@aber.ac.uk

Dr Elin Royles
Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol, 
Prifysgol Aberystwyth  
ear@aber.ac.uk