Cefnogir ein hymchwil gan brif gyrff ariannu ymchwil gan gynnwys Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol (ESRC) Cyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau (AHRC), y Cyngor Ymchwil Ewropeaidd a Rhaglen Horizon 2020 yr Undeb Ewropeaidd. Mae’r ganolfan yn cynnal y prosiectau ymchwil canlynol.

Dyfodol Cyfansoddiadol
Lleolir prosiect ‘Dyfodol Cyfansoddiadol’ ym Mhrifysgol Aberystwyth o dan arweiniad Dr Anwen Elias yn yr Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol.
Dau aelod arall o’r tîm yw’r Athro Matthew Jarvis o’r Adran Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol, a’r bardd Eurig Salisbury o Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd. Darllenwch fwy am Dyfodol Cyfansoddiadol fan hyn.

WISERD/Civil Society
Mae WISERD/Cymdeithas Sifil yn rhaglen ymchwil rhyngddisgyblaethol a rhyng-sefydliadol a ariennir gan ESRC. Mae’n ceisio trawsnewid ein dealltwriaeth o sut mae ffurfiau o allgáu ac ehangu dinesig, a cholledion ac enillion dinesig, yn effeithio ar gymdeithas ddinesig a’r potensial i sefydliadau cymdeithas sifil chwarae rôl allweddol ym maes atgyweirio sifil. Drwy gynhyrchu tystiolaeth empirig newydd a dadansoddiadau, bydd y rhaglen yn mynd i’r afael â nifer o’r prif heriau sy’n wynebu cymdeithas, fel anghydraddoldeb cymdeithasol ac economaidd, polareiddio ac ymddieithrio gwleidyddol, mudo ac amlddiwylliannaeth, deinameg newidiol gwaith a’r economi ‘gig’, ac effaith arloesiadau technolegol newydd. I gael rhagor o wybodaeth gweler: https://wiserd.ac.uk/cy/newid-safbwyntiau-ar-haenu-dinesig-ac-atgyweirio-sifil/
Mae ymchwilwyr CGChC yn arwain ar brosiectau ymchwil penodol yn y meysydd canlynol:

IMAJINE
Mae IMAJINE yn brosiect ymchwil newydd o bwys a arweinir gan ymchwilwyr yn CWPS i ymchwilio mewn i batrymau o anghydraddoldeb tiriogaethol yn Ewrop, sut mae’r rhain yn cael eu hadlewyrchu mewn canfyddiadau’r cyhoedd, llif mudo a’r defnydd gwleidyddol o fudiadau hunanreolaeth ranbarthol, abe all polisi ei wneud i hyrwyddo ‘cyfiawnder lleoliadol ‘. Mae’r prosiect 5 mlynedd yn cael ei ariannu fel rhan o’r Rhaglen Horizon 2020 yr UE ac yn cynnwys cydweithio gyda 15 o bartneriaid ar draws Ewrop. Darllenwch fwy am IMAJINE fan hyn.