Canolfan Gwleidyddiaeth a Chymdeithas Cymru

Mae Canolfan Gwleidyddiaeth a Chymdeithas Cymru yn ganolfan ymchwil ryngddisgyblaethol ym Mhrifysgol Aberystwyth sydd â’r nod o ddatblygu ein dealltwriaeth o wleidyddiaeth a chymdeithas gyfoes yng Nghymru.

Amdanom Ni

Canolfan ymchwil ryngddisgyblaethol ym Mhrifysgol Aberystwyth yw Canolfan Wleidyddiaeth a Chymdeithas Cymru, gyda’r nod o ddatblygu ein dealltwriaeth o wleidyddiaeth a chymdeithas gyfoes yng Nghymru yng nghyd-destun byd cydgysylltiedig, gan gefnogi a chyflawni gwaith ymchwil o safon fyd-eang yn y gwyddorau cymdeithasol, a chyfrannu at wybodaeth gyhoeddus a dadleuon a datblygiad polisi yng Nghymru.

Mae’r Ganolfan yn adeiladu ar enw da Sefydliad Gwleidyddiaeth Cymru a Sefydliad Ymchwil, Data a Methodoleg Gymdeithasol ac Economaidd Cymru (WISERD) ym Mhrifysgol Aberystwyth, ac yn dwyn ynghyd ddaearyddwyr, gwyddonwyr gwleidyddol, seicolegwyr a haneswyr o’r Athrofa Daearyddiaeth, Hanes, Gwleidyddiaeth a Seicoleg yn ogystal â gwyddonwyr cymdeithasol o adrannau cysylltiedig sy’n ymddiddori yng Nghymru.

Mae Canolfan Gwleidyddiaeth a Chymdeithas Cymru hefyd yn gweithredu fel cangen Aberystwyth o WISERD, gan ddarparu cysylltiadau â gwyddonwyr cymdeithasol ym mhrifysgolion Bangor, Caerdydd, De Cymru ac Abertawe

Newyddion

Bygythiadau i ieithoedd lleiafrifol dan sylw arbenigwyr rhyngwladol

Bydd y bygythiadau sy’n wynebu ieithoedd rhanbarthol neu leiafrifol dan y chwyddwydr mewn cynhadledd ryngwladol sydd i’w chynnal ym Mhrifysgol Aberystwyth ym mis Gorffennaf. Bydd y digwyddiad yn denu academyddion ac ymarferwyr o bob rhan o Ewrop sy’n arbenigwyr ar y...

Defnyddio collage fel dull creadigol ar gyfer deialog

Mae Canolfan Ddeialog Prifysgol Aberystwyth a Chanolfan Gwleidyddiaeth a Chymdeithas Cymru (CWPS) wedi lansio pecyn cymorth unigryw yn dangos sut y gall gwneud collage helpu pobl i drafod materion pwysig yn fwriadol.  Mae Deialog Mewn Collage: Dull...

Cyn-Brif Weinidog i drafod dyfodol cyfansoddiadol Cymru

Bydd cyn-Brif Weinidog Cymru yn trafod dyfodol cyfansoddiadol Cymru mewn sgwrs ym Mhrifysgol Aberystwyth yn ddiweddarach y mis hwn. Bydd Dr Anwen Elias a'r Gwir Anrhydeddus Carwyn Jones yn ystyried gwaith y Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru a'r...

Darlith gyhoeddus ar ddyfodol y Deyrnas Unedig

Fydd y Deyrnas Unedig yn goroesi?” yw’r pwnc llosg gwleidyddol a fydd yn destun darlith gyhoeddus ym Mhrifysgol Aberystwyth. Traddodir ‘Fractured Union’ gan yr Athro Michael Kenny, arbenigwr ar gyfansoddiad y DU, hunaniaeth genedlaethol a gwleidyddiaeth diriogaethol....

Cyhoeddiad newydd ar effeithiolrwydd y bartneriaeth rhwng y trydydd sector a’r llywodraeth yng Nghymru

Mae Dr. Amy Sanders wedi cyhoeddi’r papur: 'A Welsh Innovation in Inclusive Governance. Examining the Efficacy of the Statutory Third Sector-Government Partnership for Engaging the Third Sector in Policymaking.' Mae'r erthygl hon yn ystyried i ba raddau y mae...

Methiannau COVID-19 y wladwriaeth yn datgelu anghydraddoldebau sy’n seiliedig ar oedran mewn gofal iechyd: Galw am Newid Radical

Roedd penderfyniadau llywodraeth y Prif Weinidog Mark Drakeford yn ystod y pandemig dan sylw fis diwethaf yn yr Ymchwiliad Covid-19 yng Nghaerdydd. Mae'r papur sydd newydd ei gyhoeddi yn tynnu sylw at fethiannau penderfyniadau'r wladwriaeth wrth waethygu cyflyrau...

🗞️ Cylchlythyr mis Mawrth CWPS

🗞️ Croeso I gylchlythyr mis Mawrth CWPS Cafwyd dechrau gwych i 2024! Rydym wedi ennill £5 miliwn o gyllid ymchwil, wedi trefnu 6 digwyddiad, a dim ond megis dechrau yw hyn, am fod 7 digwyddiad arall ar y gweill yn y misoedd nesaf!  Rydym hefyd wedi cyhoeddi 3...

Y Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru yn cyhoeddi ei adroddiad terfynol

Ar 17 Ionawr, yn dilyn sgwrs genedlaethol ddwy flynedd o hyd, cyhoeddodd y Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru ei adroddiad. Roedd y cyhoeddiad yn amlinellu tri opsiwn posibl ar gyfer dyfodol cyfansoddiadol Cymru: rhagor o ddatganoli, DU ffederal a...

Adroddiad yn crynhoi gwersi o ymchwil cyfoes ym maes allfudo i gefnogi gwaith rhaglen ARFOR II

Mae Canolfan Gwleidyddiaeth a Chymdeithas Cymru, Prifysgol Aberystwyth wedi cyhoeddi adroddiad briffio sy’n crynhoi prif gasgliadau dau weithdy ymchwil ar bwnc allfudo a gynhaliwyd yn ystod mis Tachwedd 2023.  Trefnwyd y gweithdai gan CWPS a chwmni ymchwil...

Defnyddio Deialog er mwyn i’ch Ymchwil gael Effaith 

Mae Amy Sanders wedi bod yn treialu dulliau newydd er mwyn sicrhau y gall ei hymchwil gael effaith.  Cyflwynodd ddiwrnod llawn o hyfforddiant i weithredwyr polisi o bob rhan o'r trydydd sector yng Nghymru.  Y teitl oedd Ydy’ch llais yn cael ei...