🎁 Croeso i gylchlythyr mis Rhagfyr CWPS

Rydym yn falch o gyflwyno ein cylchlythyr cyn dathliadau’r ŵyl! Mae’r cylchlythyr yn cynnwys fideos, digwyddiadau ac uchafbwyntiau o’n hymchwil ar bolisi iaith, strategaethau plaid ymwahanol, a’r berthynas gymhleth rhwng yr economi a’r iaith yng Nghymru.

Anfonwyd y cylchlythyr hwn at ein rhestr bostio yn y lle cyntaf. I gael ein diweddariadau mae croeso i chi gofrestru trwy glicio yma.


Events

Y Comisiwn Cyfansoddiadol: Paratoi’r Ffordd at Annibyniaeth
Bydd arweinydd Plaid Cymru yn traddodi’r araith gyweirnod yn dilyn cyhoeddi’r adroddiad gan y Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru. Cadeirir y noson gan Gyd-Gyfarwyddwr CWPS-WISERD ac aelod o’r Comisiwn, Dr. Anwen Elias. 
Canolfan Gelfyddydau’r Eglwys Norwyaidd, Rhodfa’r Harbwr, Bae Caerdydd, CF10 4PA Nodwch y dyddiad: Dydd Mercher 31 Ionawr 2024, 18:00 – 20:00


Cynhadledd Flynyddol WISERD 2024
Prifysgol De Cymru, Campws Trefforest
Dydd Mercher y 3ydd a’r 4ydd o Orffennaf 2024. Thema’r gynhadledd yw: ‘Anelu at gymdeithas decach’ ac mae’r alwad am bapurau ar agor. Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno crynodeb yw 9yb ddydd Gwener 19 Ionawr 2024. Mwy wybodaeth.


Fideos

“A yw Cyhoedd y DU eisiau Diwygio Democrataidd?”

Gwnaeth yr academydd blaenllaw, yr Athro Alan Renwick, Dirprwy Gyfarwyddwr Uned Cyfansoddiad Coleg Prifysgol Llundain, gyflwyno Darlith Flynyddol y Ganolfan Gwleidyddiaeth a Chymdeithas Cymru ar y gobaith o ddiwygio democrataidd yn y Deyrnas Unedig. Gwyliwch y fideo yma.

Fideo WISERD

Mae’r fideo WISERD newydd yn gyflwyniad newydd i WISERD, gan gynnwys ein rhwydweithiau ymchwil, prosiectau cydweithredol gyda phartneriaid a’n hymrwymiad i feithrin capasiti a hyfforddiant. Mae hefyd yn rhoi cipolwg byr ar rywfaint o’n hymchwil bresennol a’i heffaith ar gymdeithas, a’n gweledigaeth ar gyfer y dyfodol.Gwyliwch y fideo yma.


News

Aelodau Seneddol yn clywed am ymchwil CWPS ar ieuenctid yn mudo o gefn gwlad Cymru

Rhoddodd yr Athro Michael Woods dystiolaeth lafar i Bwyllgor Materion Cymreig TÅ·’r Cyffredin ddechrau Rhagfyr ar eu hymchwiliad ar Effaith Newid Poblogaeth yng Nghymru. Cyflwynodd ganfyddiadau’r Arolwg o Bobl Ifanc yng nghefn gwlad Cymru. Darllenwch adroddiad yr arolwg yma.

Dull Arloesol o Ddeall Datblygu Polisi Iaith 

Mae Dr. Elin Royles a Dr. Huw Lewis wedi datblygu fframwaith i ddadansoddi’r ffactorau sy’n dylanwadu ar ddatblygu polisïau iaith. Darllen y erthygl yn llawn.

Goleuni ar ymreolaeth i Corsica

Cafodd syniadau Dr. Anwen Elias ar ymreolaeth i Corsica eu cynnwys yn Nation Cymru ar 30 Medi.  Darllen y erthygl yn llawn.

Logo Plaid Cymru, Plaid Cymru logo

‘Galw am annibyniaeth’: ymchwil newydd yn esbonio strategaeth pleidiau o blaid annibyniaeth

Mae’r galwadau am annibyniaeth wedi cynyddu ar draws rhannau o Ewrop yn y degawd diwethaf. Mae’r ymchwil newydd hwn yn cynorthwyo i ddeall beth sy’n arwain pleidiau o blaid annibyniaeth i fod yn fwy amwys neu bendant ar y mater. Darllen y erthygl yn llawn.

Deall y berthynas rhwng yr economi a’r Gymraeg yng Nghymru

Mae Dr Huw Lewis yn tynnu sylw at yr angen am ddiffiniad cliriach o sut mae ffactorau economaidd ac ieithyddol yn rhyngweithio ac yn dylanwadu ar ei gilydd. Darllen y erthygl yn llawn. 

Paradeimau Gweithredu Gwirfoddol yng Nghymru a Gogledd Iwerddon

Mae’r Panel yn cytuno bod Sectorau Gwirfoddol Cymru a Gogledd Iwerddon yn gweithredu mewn cyd-destunau sy’n sylfaenol wahanol i’r cyd-destun yn Lloegr. Darllenwch yr erthygl lawn yma.

Mae’r Gymraeg yn cael ei defnyddio i annog ymfudwyr i deimlo’n gartrefol

Erthygl newydd yn The Conversation gan Dr. Huw Lewis, Dr. Gwennan Higham a Dr Mike Chick, yn egluro sut mae’r Gymraeg yn cael ei defnyddio i helpu i integreiddio ffoaduriaid a cheiswyr lloches. Darllenwch yr erthygl lawn yma.


Papurau & Podcasts

Goblygiadau fframwaith cyfreithiol newydd i amddiffyn hawliau lleiafrifol 

Mae adroddiad diweddaraf Dr Anwen Elias yn ystyried goblygiadau cael fframwaith cyfreithiol newydd i amddiffyn hawliau lleiafrifol ar arfer yr hawl i hunanbenderfyniad.  Darllenwch yr adroddiad yma.

Panel board members including Anwel Elias with Fernand de Varennes, Iñaki Irazabalbeitia and Jordi Garrell

Papur newydd yn galw am ddefnyddio cyfiawnder gofodol fel dull i fynd i’r afael ag argyfyngau lluosog yng nghefn gwlad Prydain 

Papur newydd gan yr Athro Michael Woods yn cynnig mabwysiadu cyfiawnder gofodol fel dull o ddeall yr argyfyngau lluosog sy’n wynebu cefn gwlad Prydain ac i ddatblygu ymatebion polisi. Darllen y papur yma.

Hills and trees in the Welsh Countryside.jpg Hills and trees in the Welsh Countryside

Podlediad newydd y SMC yn trafod Deialog, Trafodaeth ac Adnewyddiad Democrataidd

Dr. Anwen Elias a Dr. Jennifer Wolowic, Prif Arweinydd y Ganolfan Ddeialog ym Mhrifysgol Aberystwyth, wrth iddynt ymchwilio i fyd deialog, trafodaeth ac adnewyddiad democrataidd. Gwrandewch yma.


Cysylltwch â ni

Anfonir y newyddlen nesaf atoch fis Mawrth. Os hoffech ragor o wybodaeth am yr eitemau a drafodir yn ein newyddlen, gallwch gysylltu â ni ar y llwyfannau canlynol:

Ebost:  CWPS@aber.ac.uk

Facebook: @cwpsaber

Twitter: @cwpsaber

Instagram: @cwpsaber


Anfonwyd y cylchlythyr hwn at ein rhestr bostio yn y lle cyntaf. I gael ein diweddariadau mae croeso i chi gofrestru trwy glicio yma.