Bygythiadau i ieithoedd lleiafrifol dan sylw arbenigwyr rhyngwladol

Bydd y bygythiadau sy’n wynebu ieithoedd rhanbarthol neu leiafrifol dan y chwyddwydr mewn cynhadledd ryngwladol sydd i’w chynnal ym Mhrifysgol Aberystwyth ym mis Gorffennaf. Bydd y digwyddiad yn denu academyddion ac ymarferwyr o bob rhan o Ewrop sy’n arbenigwyr ar y Gymraeg a thros deg o ieithoedd rhanbarthol a lleiafrifol eraill. Ystyriaeth allweddol i’r gynhadledd…

Defnyddio collage fel dull creadigol ar gyfer deialog

Mae Canolfan Ddeialog Prifysgol Aberystwyth a Chanolfan Gwleidyddiaeth a Chymdeithas Cymru (CWPS) wedi lansio pecyn cymorth unigryw yn dangos sut y gall gwneud collage helpu pobl i drafod materion pwysig yn fwriadol.  Mae Deialog Mewn Collage: Dull Creadigol at Greu Sgyrsiau Cydystyried yn cynnig canllaw cam wrth gam ar gyfer cynnal gweithdy dwy awr lle mae gwneud collage yn cael ei…

Cyn-Brif Weinidog i drafod dyfodol cyfansoddiadol Cymru

Bydd cyn-Brif Weinidog Cymru yn trafod dyfodol cyfansoddiadol Cymru mewn sgwrs ym Mhrifysgol Aberystwyth yn ddiweddarach y mis hwn. Bydd Dr Anwen Elias a’r Gwir Anrhydeddus Carwyn Jones yn ystyried gwaith y Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru a’r argymhellion a nodir yn ei adroddiad terfynol.  Bydd y sgwrs rhwng y ddau arbenigwr yn craffu…

Darlith gyhoeddus ar ddyfodol y Deyrnas Unedig

Fydd y Deyrnas Unedig yn goroesi?” yw’r pwnc llosg gwleidyddol a fydd yn destun darlith gyhoeddus ym Mhrifysgol Aberystwyth. Traddodir ‘Fractured Union’ gan yr Athro Michael Kenny, arbenigwr ar gyfansoddiad y DU, hunaniaeth genedlaethol a gwleidyddiaeth diriogaethol. Cynhelir y ddarlith gan Ganolfan Gwleidyddiaeth a Chymdeithas Cymru Prifysgol Aberystwyth, yn rhan o gyfres newydd o ddigwyddiadau…

Cyhoeddiad newydd ar effeithiolrwydd y bartneriaeth rhwng y trydydd sector a’r llywodraeth yng Nghymru

Mae Dr. Amy Sanders wedi cyhoeddi’r papur: ‘A Welsh Innovation in Inclusive Governance. Examining the Efficacy of the Statutory Third Sector-Government Partnership for Engaging the Third Sector in Policymaking.‘ Mae’r erthygl hon yn ystyried i ba raddau y mae partneriaeth Llywodraeth Cymru â’r trydydd sector yn gweithio. Datblygiad arloesol a ddeilliodd o ddatganoli yw’r bartneriaeth, sy’n…

Methiannau COVID-19 y wladwriaeth yn datgelu anghydraddoldebau sy’n seiliedig ar oedran mewn gofal iechyd: Galw am Newid Radical

Roedd penderfyniadau llywodraeth y Prif Weinidog Mark Drakeford yn ystod y pandemig dan sylw fis diwethaf yn yr Ymchwiliad Covid-19 yng Nghaerdydd. Mae’r papur sydd newydd ei gyhoeddi yn tynnu sylw at fethiannau penderfyniadau’r wladwriaeth wrth waethygu cyflyrau iechyd a gofal cymdeithasol pobl hŷn, a oedd cyn pandemig COVID-19 eisoes yn eu rhoi mewn perygl…

🗞️ Cylchlythyr mis Mawrth CWPS

🗞️ Croeso I gylchlythyr mis Mawrth CWPS Cafwyd dechrau gwych i 2024! Rydym wedi ennill £5 miliwn o gyllid ymchwil, wedi trefnu 6 digwyddiad, a dim ond megis dechrau yw hyn, am fod 7 digwyddiad arall ar y gweill yn y misoedd nesaf!  Rydym hefyd wedi cyhoeddi 3 fideo, 2 adroddiad, a phapurau. Mae pob diweddariad…

Y Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru yn cyhoeddi ei adroddiad terfynol

Ar 17 Ionawr, yn dilyn sgwrs genedlaethol ddwy flynedd o hyd, cyhoeddodd y Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru ei adroddiad. Roedd y cyhoeddiad yn amlinellu tri opsiwn posibl ar gyfer dyfodol cyfansoddiadol Cymru: rhagor o ddatganoli, DU ffederal a Chymru annibynnol. Mae Cyd-gyfarwyddwr WISERD, Dr Anwen Elias, yn aelod o’r Comisiwn ac yn rhan…

Adroddiad yn crynhoi gwersi o ymchwil cyfoes ym maes allfudo i gefnogi gwaith rhaglen ARFOR II

Mae Canolfan Gwleidyddiaeth a Chymdeithas Cymru, Prifysgol Aberystwyth wedi cyhoeddi adroddiad briffio sy’n crynhoi prif gasgliadau dau weithdy ymchwil ar bwnc allfudo a gynhaliwyd yn ystod mis Tachwedd 2023.  Trefnwyd y gweithdai gan CWPS a chwmni ymchwil Wavehill, a hynny fel rhan o raglen waith tendr ymchwil 18 mis sydd â’r nod o adolygu a…

Defnyddio Deialog er mwyn i’ch Ymchwil gael Effaith 

Mae Amy Sanders wedi bod yn treialu dulliau newydd er mwyn sicrhau y gall ei hymchwil gael effaith.  Cyflwynodd ddiwrnod llawn o hyfforddiant i weithredwyr polisi o bob rhan o’r trydydd sector yng Nghymru.  Y teitl oedd Ydy’ch llais yn cael ei glywed?  Sut gall y trydydd sector ddylanwadu ar Lywodraeth Cymru’. Daeth arweinwyr polisi at ei gilydd o…