Ymateb arweinydd Plaid Cymru i Adroddiad y Comisiwn Cyfansoddiadol

Rhun ap Iorwerth AS/MS
Rhun ap Iorwerth AS, arweinydd Plaid Cymru

Bydd arweinydd Plaid Cymru yn rhoi ei ymateb i adroddiad y Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru mewn digwyddiad a drefnir gan Brifysgol Aberystwyth ar ddiwedd y mis.

Cynhelir Ar ôl y Comisiwn Cyfansoddiadol – Mapio’r Ffordd i Annibyniaeth Cymru am 6.30yh ddydd Mercher 31 Ionawr yng Nghanolfan Gelfyddydau’r Eglwys Norwyaidd ym Mae Caerdydd.

Trefnir gan Ganolfan Gwleidyddiaeth a Chymdeithas Cymru Prifysgol Aberystwyth, ac yno bydd cyfle i glywed Rhun ap Iorwerth AS, arweinydd Plaid Cymru, yn ymateb i’r adroddiad ac yn ystyried y goblygiadau i bolisi Plaid Cymru, sef annibyniaeth i Gymru.

Cadeirir yr achlysur gan Dr Anwen Elias, Cyd-Gyfarwyddwr Canolfan Gwleidyddiaeth a Chymdeithas Cymru, ac aelod o’r Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru. Dywedodd hi:

“Mae’r Comisiwn Annibynnol wedi cychwyn sgwrs genedlaethol am ddyfodol cyfansoddiadol Cymru; bydd y digwyddiad hwn yn helpu i sicrhau parhad y sgwrs honno. Edrychaf ymlaen at glywed Mr ap Iorwerth yn ystyried y cyfleoedd a’r heriau y mae annibyniaeth yn eu cyflwyno i ddyfodol cyfansoddiadol Cymru.”

Bydd croeso i bobl o bob barn wleidyddol a phobl heb ymlyniad gwleidyddol penodol. Ar ôl yr anerchiad cynhelir sesiwn holi ac ateb, a bydd cyfle i drafod ymhellach.

Gellir cadw lle yn: www.tickettailor.com/events/cwpsaber/1106817     

Mae mynediad am ddim i’r digwyddiad, a hwn fydd y digwyddiad cyntaf mewn cyfres newydd a drefnir gan y Ganolfan i ystyried gwahanol agweddau ar lywodraethu Cymru a’r DU yn y dyfodol o wahanol safbwyntiau.

Canolfan ymchwil ryngddisgyblaethol ym Mhrifysgol Aberystwyth yw Canolfan Gwleidyddiaeth a Chymdeithas Cymru. Ei nod yw datblygu ein dealltwriaeth o wleidyddiaeth a chymdeithas gyfoes Cymru yng nghyd-destun byd cyd-gysylltiedig. Mae’n cefnogi a chyflawni gwaith ymchwil o safon fyd-eang yn y gwyddorau cymdeithasol, gan gyfrannu at wybodaeth a dadleuon cyhoeddus ac at ddatblygu polisi yng Nghymru.


Dolenni

Adroddiad terfynol y Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru (Cyhoeddwyd 18 Ionawr 2024)