Themâu Ymchwil

Mae’r Ganolfan Gwleidyddiaeth a Chymdeithas Cymru / WISERD@Aberystwyth yn anelu at ddefnyddio ymchwil ar wleidyddiaeth a chymdeithas Cymru, astudiethau cymharol o Gymru a gwletdydd a rhanbarthau eraill, a dadansoddiadau o gysylltiadau byd-eang Cymru, i wneud cyfraniadau arloesol sy’n rhyngwladol-sylweddol i ddamcaniaethau gwyddorau cymdeithasol, dadleuon a llenyddiaeth. Trefnir ein hymchwil o amgylch y themâu allweddol canlynol.

Your Title Goes Here

Your content goes here. Edit or remove this text inline or in the module Content settings. You can also style every aspect of this content in the module Design settings and even apply custom CSS to this text in the module Advanced settings.

Llywodraethu, Cyfranogiad a Chymdeithas Sifil

Mae Llywodraethu fel syniad ac ymarfer wedi dod i’r amlwg yn lle’r dull mwy traddodiadol o llywodraethu awdurdodol dros cenedl a’i phobl. Mae’n cyfeirio at y ffyrdd lluosog a lefelau (lleol, rhanbarthol, cenedlaethol, byd-eang) lle mae grym yn cael ei weithredu a’i arfer.

Darganfyddwch fwy ar y dudalen Llywodraethu, Cyfranogiad a Chymdeithas Sifil.

Ieithoedd Rhanbarthol neu Leiafrifol

Bwriad ein gwaith yw manteisio ar gryfderau ac arbenigedd ymchwil ac ymarfer ym maes ieithoedd rhanbarthol neu leiafrifol sydd eisoes yn bodoli ym Mhrifysgol Aberystwyth wedi ei wasgaru ar draws adrannau academaidd, drwy eu tynnu ynghyd dan un faner. Y nod yw ein sefydlu fel canolfan ragoriaeth aml-ddisgyblaethol gydnabyddedig yn rhyngwladol ym maes ieithoedd rhanbarthol neu leiafrifol.

Darganfyddwch fwy am y Regional or Minority Lnaguages page.

Lleoli Cymru / Placing Wales

Mae’r thema ymchwil hon yn edrych ar y ffyrdd y mae Cymru wedi’i lleoli: mewn amser, mewn gofod, mewn cynrychiolaeth ac yn y cyd-destun byd-eang. Mae’n dwyn ynghyd academyddion sy’n gweithio yn y Celfyddydau a’r Dyniaethau, yn ogystal â’r Gwyddorau Cymdeithasol, a’i nod yw hybu ymchwil rhyngddisgyblaethol ac arloesol. O ganlyniad, mae’r thema’n rhychwantu ystod o wahanol ddulliau ymchwil, o astudiaethau archifol i fynegiadau creadigol, ac mae’n cwmpasu astudiaethau o gyflyrau materol, arferion a theori.

Darganfyddwch fwy am y Lleoli Cymru / Placing Wales page.