Trafodaeth Genedlaethol am Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru

Yn y rhifyn diweddaraf o The Welsh Agenda  mae Dr Anwen Alias, Cyd-Gyfarwyddwr CWPS-WISERD, Matthew Jarvis,  aelod o Fwrdd Gweithredol CWPS, a Mike Corcoran a Noreen Blanluet yn trafod ar ba ffurf y dylid cynnal trafodaeth genedlaethol ynglŷn â dyfodol cyfansoddiadol Cymru. Mae’r drafodaeth yn seiliedig ar y prosiect ‘Dyfodol Cyfansoddiadol’ sydd wedi’i leoli ym…

Hen lawysgrifau yn ysbrydoli cerddi cyfoes am newid hinsawdd

Mae tri bardd o Brifysgol Aberystwyth wedi cyfansoddi cerddi newydd mewn ymateb i hen lawysgrifau o Lyfrgell Genedlaethol Cymru sy’n ymdrin â’r tywydd a newid hinsawdd. Bydd y cerddi a’r llawsygrifau’n cael eu rhannu arlein a’u harddangos mewn ffenest siop wag yng nghanol tref Aberystwyth fel rhan o Ŵyl Ymchwil y Brifysgol sy’n dechrau heddiw…
Cloud coverage in Machynlleth Valley

‘Nawr yw’r amser cywir i ddechrau trafod dyfodol Cymru yn y Deyrnas Unedig’

Mae cynnal sgwrs genedlaethol o’r fath yn dod â’i heriau, meddai Dr Anwen Elias, yn enwedig gan fod “lefelau gwybodaeth am ddatganoli yn isel iawn”. Mae  Dr. Anwen Elias, Cyd-Gyfarwyddwr Canolfan Gwleidyddiaeth a Chymdeithas Cymru a Phrif Ymchwiliwr y prosiect Dyfodol Cyfansoddiadol yn cael ei chyfweld gan Golwg360 ynglŷn â dyfodol Cymru.  Darllenwch y cyfweliad…
Welsh Flag displayed above the top of a Classic car with another car and St Georges Cross in background at a Classic Car Show

Wales is having a rethink about its place in the UK – could it lead the way for everyone else?

Wales is having a rethink about its place in the UK – could it lead the way for everyone else? Anwen Elias, Aberystwyth University and Matt Wall, Swansea University Can the United Kingdom survive Brexit? This remains one of the great unanswered questions of our time. Politically, two major narratives have dominated. The first is that…

Dangos gwir liwiau: gwleidyddiaeth newidiol cydraddoldeb hiliol yng Nghymru

Cydraddoldeb hiliol yng Nghymru oedd ffocws Darlith Flynyddol Canolfan Gwleidyddiaeth a Chymdeithas Cymru 2021 y bu dros 200 o bobl yn ei gwylio’n fyw ar Zoom yr wythnos hon. Cyflwynwyd y ddarlith, Dangos gwir liwiau: gwleidyddiaeth newidiol cydraddoldeb hiliol yng Nghymru, gan yr Athro Charlotte Williams OBE, Cadeirydd Gweithgor diweddar Llywodraeth Cymru, ‘Cymunedau, Cyfraniadau a Chynefin:…

Hyrwyddo Ieithoedd Lleiafrifol: Cloriannu Gwaith Llywodraethau Rhanbarthol

Fel rhan o ddathliadau nodi 20 mlynedd o ddatganoli, bydd Canolfan Gwleidyddiaeth a Chymdeithas Cymru, Prifysgol Aberystwyth mewn partneriaeth â’r Cynulliad Cenedlaethol yn cyflwyno sesiwn ar ‘Hyrwyddo Ieithoedd Lleiafrifol: Cloriannu Gwaith Llywodraethau Rhanbarthol’, ddydd Sadwrn 28 Medi 2019 rhwng 11.00 a 12.30pm. Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi cynnal nifer o ddigwyddiadau i ddathlu a thrafod…

Polisi Gwledig yng Nghymru ar ôl Brecsit

Mae’n bleser cyhoeddi gopi o’n hadroddiad,‘Ar Ôl Brecsit: 10 Cwestiwn Allweddol on ran Polisi Gwledig yng Nghymru’, a gynhyrchwyd gan y Ganolfan Gwleidyddiaeth a Chymdeithas Cymru / WISERD ym Mhrifysgol Aberystwyth a’r Ganolfan am Economi Wledig ym Mhrifysgol Newcastle. Mae’r adroddiad yn seiliedig ar weithdy gydag arbenigwyr academaidd ar bolisi gwledig, datblygu gwledig ac amaethyddiaeth…

Dinasyddiaeth yng nghysgod Brexit

  Wrth i’r dadlau gwleidyddol o amgylch ymadawiad y DU â’r Undeb Ewropeaidd barhau, mi fydd Darlith Flynyddol Canolfan Gwleidyddiaeth a Chymdeithas Cymru yn trafod dinasyddiaeth yng nghyfnod Brexit. ‘Citizenship, ‘Race’ and Class: Hannah Arendt and Raymond Williams in the age of Brexit’ fydd pwnc yr Athro Daniel G Williams, Cyfarwyddwr Canolfan Astudiaethau Cymreig Richard…

Adroddiad Briffio Gwerthuso, Effaith a Chanlyniadau: Beth mae’n ei olygu i ni?

Rydym wedi cyhoeddi adroddiad briffio ar ‘Werthuso Effaith a Chanlyniadau: Beth mae’n ei olygu i ni?’ sy’n adrodd ar drafodaethau gweithdai a drefnwyd ar y cyd gan Ganolfan Ymchwil Cymdeithas Sifil y Sefydliad Ymchwil Gymdeithasol ac Economaidd, Data a Dulliau Cymru (WISERD) sy’n cael ei hariannu gan yr ESRC, a Chyngor Gwasanaethau Ieuenctid Gwirfoddol Cymru (CWVYS).…