Adroddiad yn crynhoi gwersi o ymchwil cyfoes ym maes allfudo i gefnogi gwaith rhaglen ARFOR II

Mae Canolfan Gwleidyddiaeth a Chymdeithas Cymru, Prifysgol Aberystwyth wedi cyhoeddi adroddiad briffio sy’n crynhoi prif gasgliadau dau weithdy ymchwil ar bwnc allfudo a gynhaliwyd yn ystod mis Tachwedd 2023.  Trefnwyd y gweithdai gan CWPS a chwmni ymchwil Wavehill, a hynny fel rhan o raglen waith tendr ymchwil 18 mis sydd â’r nod o adolygu a…

Defnyddio Deialog er mwyn i’ch Ymchwil gael Effaith 

Mae Amy Sanders wedi bod yn treialu dulliau newydd er mwyn sicrhau y gall ei hymchwil gael effaith.  Cyflwynodd ddiwrnod llawn o hyfforddiant i weithredwyr polisi o bob rhan o’r trydydd sector yng Nghymru.  Y teitl oedd Ydy’ch llais yn cael ei glywed?  Sut gall y trydydd sector ddylanwadu ar Lywodraeth Cymru’. Daeth arweinwyr polisi at ei gilydd o…

CWPS i arwain prosiect newydd mawr i gefnogi datblygiad cynaliadwy cynhwysol yng Nghymru Wledig

Mae tîm dan arweiniad Cyd-gyfarwyddwr CWPS Michael Woods wedi derbyn dros £5m gan UKRI i sefydlu Cymru Wledig LPIP Rural Wales, y Bartneriaeth Polisi ac Arloesi Lleol ar gyfer Cymru Wledig. Mae’r bartneriaeth yn cynnwys aelodau CWPS Lowri Cunnington Wynn a Rhys Jones yn ogystal ag ymchwilwyr ym mhrifysgolion Aberystwyth, Bangor, Caerdydd a Swydd Gaerloyw…

WISERD yn cyflwyno ymchwil cymdeithas sifil i lunwyr polisïau ym Mrwsel

Ar 25 Ionawr, cynhaliwyd gweithdy gan Sefydliad Ymchwil Cymdeithasol ac Economaidd a Data Cymru (WISERD) ac Addysg Uwch Cymru Brwsel (WHEB) ar gyfer llunwyr polisïau ym Mrwsel, ac fe gyflwynwyd achos dros roi ymchwil cymdeithas sifil wrth wraidd cynlluniau ar gyfer yr Undeb Ewropeaidd. Yn ddiweddarach eleni, bydd aelodau’r Cyngor Ewropeaidd yn cyfarfod i gytuno ar Agenda…
Rhun ap Iorwerth AS/MS

Ymateb arweinydd Plaid Cymru i Adroddiad y Comisiwn Cyfansoddiadol

Bydd arweinydd Plaid Cymru yn rhoi ei ymateb i adroddiad y Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru mewn digwyddiad a drefnir gan Brifysgol Aberystwyth ar ddiwedd y mis. Cynhelir Ar ôl y Comisiwn Cyfansoddiadol – Mapio’r Ffordd i Annibyniaeth Cymru am 6.30yh ddydd Mercher 31 Ionawr yng Nghanolfan Gelfyddydau’r Eglwys Norwyaidd ym Mae Caerdydd. Trefnir gan Ganolfan…

🎁 Croeso i gylchlythyr mis Rhagfyr CWPS

Rydym yn falch o gyflwyno ein cylchlythyr cyn dathliadau’r ŵyl! Mae’r cylchlythyr yn cynnwys fideos, digwyddiadau ac uchafbwyntiau o’n hymchwil ar bolisi iaith, strategaethau plaid ymwahanol, a’r berthynas gymhleth rhwng yr economi a’r iaith yng Nghymru. Anfonwyd y cylchlythyr hwn at ein rhestr bostio yn y lle cyntaf. I gael ein diweddariadau mae croeso i…

Patrymau Gweithredu Gwirfoddol yng Nghymru a Gogledd Iwerddon 

Ar ddydd Iau 16 Tachwedd 2023, cynhaliodd y Rhwydwaith Astudiaethau Sector Gwirfoddol ddigwyddiad i ystyried y ffordd y mae Sectorau Gwirfoddol Cymru a Gogledd Iwerddon yn cael eu trafod a’u hymchwilio, ac a oedd hynny’n wahanol o’i gymharu â gweddill y DU.  Roedd Dr Amy Sanders yn un o’r panelwyr.  Mae Dr Sanders yn academydd o…

Dull Arloesol o Ddeall Datblygu Polisi Iaith 

Mae Dr. Elin Royles a Dr. Huw Lewis wedi datblygu fframwaith i ddadansoddi’r ffactorau sy’n dylanwadu ar ddatblygu polisïau iaith.   Yn eu cyfraniad i’r llawlyfr ar bolisi a chynllunio iaith, The Routledge Handbook of Language Policy and Planning, maent yn mynd i’r afael â dau ddull o bolisi cyhoeddus sef llywodraethu aml-lefel a sefydliadaeth newydd.  Mae eu pennod…

Dr Anwen Elias yn taflu goleuni ar ymreolaeth i Corsica

Cafodd syniadau Dr. Anwen Elias ar ymreolaeth i Corsica eu cynnwys yn Nation Cymru ar 30 Medi.   Bu trafodaethau am ymreolaeth Corsica yn cael eu cynnal ers 18 mis, ac mewn araith yn ddiweddar mynegodd Arlywydd Ffrainc, Emmanuel Macron ei gefnogaeth unwaith eto i gytundeb ymreolaeth newydd.  Mae Dr. Elias yn dadlau serch hynny bod y trafodaethau…
Logo Plaid Cymru, Plaid Cymru logo

‘Galw am annibyniaeth’: ymchwil newydd yn esbonio strategaeth pleidiau o blaid annibyniaeth

Mae ymchwil newydd yn dadlau bod Plaid Cymru wedi gwneud ei galwadau am annibyniaeth i Gymru yn llai amlwg er mwyn er mwyn blaenoriaethu ceisio sicrhau pleidleisiau rhwng 2003 a 2015, ac wedi gwneud eu galwad am annibyniaeth yn fwy blaenllaw ar ôl 2019, gydag arweinyddiaeth newydd y blaid yn sbarduno hyn yng nghyd-destun y…