Cynhadledd i drafod dyfodol ieithoedd yn y DU wedi Brexit

Wrth i’r dadlau a’r craffu  ar Fesur Gadael yr UE barhau, mae Prifysgol Aberystwyth yn cynnal cynhadledd ar oblygiadau Brexit i bolisïau iaith. Cynhelir y gynhadledd, Polisïau Iaith yn y DU Wedi Ymadael âr Undeb Ewropeaidd 2017: Dylanwad datganoli ar ddydd Iau 21 Medi, ac yn gefnlen iddi mae gostyngiad yn niferoedd y bobl ifainc…

Gweithdy Adfywio – Eisteddfod Genedlaethol 2017

Gweithdy ‘gofod agored’ i drafod dulliau o hybu’r Gymraeg 11.30-1.30, Mercher, 9 Awst 2017, Uned Prifysgol Aberystwyth, Maes Eisteddfod Genedlaethol Ynys Môn Beth? Yn dilyn cyhoeddi strategaeth iaith newydd Llywodraeth Cymru, Cymraeg 2050, bwriad y digwyddiad agored hwn, wedi ei drefnu ar sail arferion BarCamp, yw rhoi cyfle i unigolion sy’n arwain prosiectau ymarferol neu…

Barn pobl ifanc am Brexit

Flwyddyn wedi’r bleidlais i adael yr Undeb Ewropeaidd, bydd academyddion o Brifysgol Aberystwyth yn trafod ymateb pobl ifanc yng Nghymru mewn cynhadledd yn Llundain ar ddydd Iau 22 Mehefin 2017. Mae Dr Elin Royles a Dyfan Powel o Ganolfan Gwleidyddiaeth a Chymdeithas Cymru WISERD wedi bod yn siarad gyda myfyrwyr chweched dosbarth ar draws Cymru…

Galw am strategaeth iaith sy’n ymateb i amgylchiadau’r unfed ganrif ar hugain

Mae prosiect ymchwil arloesol sy’n cael ei arwain gan Brifysgol Aberystwyth yn holi a oes angen ail-ystyried tybiaethau traddodiadol ynglŷn â sut i hybu adfywiad ieithoedd lleiafrifol. Bydd Adfywio Iaith a Thrawsnewid Cymdeithasol (Adfywio), prosiect dwy flynedd sy’n cael ei ariannu gan Gyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau, yn cyfarfod am y tro cyntaf ym…

Canolfan Gwleidyddiaeth a Chymdeithas Cymru i gynnal hystings Etholiad Cyffredinol

Bydd Canolfan Gwleidyddiaeth a Chymdeithas Cymru Prifysgol Aberystwyth yn cynnal hystings etholiadol ar nos Lun 5 Mehefin 2017. Sara Gibson o’r BBC fydd yn cadeirio’r noson a fydd yn cael ei chynnal yng Nghanolfan y Morlan, Aberystwyth ac yn dechrau am 7.30 yr hwyr. Gwahoddwyd ymgeiswyr o’r prif bleidiau gwleidyddol sydd yn sefyll yng Ngheredigion…

Lansio MA newydd mewn Gwleidyddiaeth a Chymdeithas Cymru

Gyda Brexit yn hawlio’r sylw yn ystod cyfnod cynnar ymgyrchu etholiad cyffredinol San Steffan, mae Prifysgol Aberystwyth yn lansio gradd MA newydd fydd yn ystyried gwleidyddiaeth a chymdeithas Cymru gyfoes ar heriau wedi i Brydain adael yr Undeb Ewropeaidd. Cafodd yr MA mewn Gwleidyddiaeth a Chymdeithas Cymru ei lansio heddiw (ddydd Gwener 5 Mai 2017)…