Rydym yn falch o gyflwyno ein cylchlythyr cyn dathliadauâr ŵyl! Maeâr cylchlythyr yn cynnwys fideos, digwyddiadau ac uchafbwyntiau o’n hymchwil ar bolisi iaith, strategaethau plaid ymwahanol, a’r berthynas gymhleth rhwng yr economi a’r iaith yng Nghymru.
Anfonwyd y cylchlythyr hwn at ein rhestr bostio yn y lle cyntaf. I gael ein diweddariadau mae croeso i chi gofrestru trwy glicio yma.
Events
Y Comisiwn Cyfansoddiadol: Paratoiâr Ffordd at Annibyniaeth
Bydd arweinydd Plaid Cymru yn traddodiâr araith gyweirnod yn dilyn cyhoeddiâr adroddiad gan y Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru. Cadeirir y noson gan Gyd-Gyfarwyddwr CWPS-WISERD ac aelod oâr Comisiwn, Dr. Anwen Elias.
Canolfan Gelfyddydauâr Eglwys Norwyaidd, Rhodfaâr Harbwr, Bae Caerdydd, CF10 4PA Nodwch y dyddiad: Dydd Mercher 31 Ionawr 2024, 18:00 â 20:00
Cynhadledd Flynyddol WISERD 2024
Prifysgol De Cymru, Campws Trefforest
Dydd Mercher y 3ydd aâr 4ydd o Orffennaf 2024. Themaâr gynhadledd yw: âAnelu at gymdeithas decachâ ac maeâr alwad am bapurau ar agor. Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno crynodeb yw 9yb ddydd Gwener 19 Ionawr 2024. Mwy wybodaeth.
Fideos
âA yw Cyhoedd y DU eisiau Diwygio Democrataidd?â
Gwnaeth yr academydd blaenllaw, yr Athro Alan Renwick, Dirprwy Gyfarwyddwr Uned Cyfansoddiad Coleg Prifysgol Llundain, gyflwyno Darlith Flynyddol y Ganolfan Gwleidyddiaeth a Chymdeithas Cymru ar y gobaith o ddiwygio democrataidd yn y Deyrnas Unedig. Gwyliwch y fideo yma.
Fideo WISERD
Maeâr fideo WISERD newydd yn gyflwyniad newydd i WISERD, gan gynnwys ein rhwydweithiau ymchwil, prosiectau cydweithredol gyda phartneriaid a’n hymrwymiad i feithrin capasiti a hyfforddiant. Mae hefyd yn rhoi cipolwg byr ar rywfaint o’n hymchwil bresennol a’i heffaith ar gymdeithas, a’n gweledigaeth ar gyfer y dyfodol.Gwyliwch y fideo yma.
News
Aelodau Seneddol yn clywed am ymchwil CWPS ar ieuenctid yn mudo o gefn gwlad Cymru
Rhoddodd yr Athro Michael Woods dystiolaeth lafar i Bwyllgor Materion Cymreig TÅ·’r Cyffredin ddechrau Rhagfyr ar eu hymchwiliad ar Effaith Newid Poblogaeth yng Nghymru. Cyflwynodd ganfyddiadau’r Arolwg o Bobl Ifanc yng nghefn gwlad Cymru. Darllenwch adroddiad yr arolwg yma.
Dull Arloesol o Ddeall Datblygu Polisi Iaith
Mae Dr. Elin Royles a Dr. Huw Lewis wedi datblygu fframwaith i ddadansoddiâr ffactorau syân dylanwadu ar ddatblygu polisïau iaith. Darllen y erthygl yn llawn.
Goleuni ar ymreolaeth i Corsica
Cafodd syniadau Dr. Anwen Elias ar ymreolaeth i Corsica eu cynnwys yn Nation Cymru ar 30 Medi. Darllen y erthygl yn llawn.
âGalw am annibyniaethâ: ymchwil newydd yn esbonio strategaeth pleidiau o blaid annibyniaeth
Maeâr galwadau am annibyniaeth wedi cynyddu ar draws rhannau o Ewrop yn y degawd diwethaf. Maeâr ymchwil newydd hwn yn cynorthwyo i ddeall beth syân arwain pleidiau o blaid annibyniaeth i fod yn fwy amwys neu bendant ar y mater. Darllen y erthygl yn llawn.
Deall y berthynas rhwng yr economi aâr Gymraeg yng Nghymru
Mae Dr Huw Lewis yn tynnu sylw at yr angen am ddiffiniad cliriach o sut mae ffactorau economaidd ac ieithyddol yn rhyngweithio ac yn dylanwadu ar ei gilydd. Darllen y erthygl yn llawn.
Paradeimau Gweithredu Gwirfoddol yng Nghymru a Gogledd Iwerddon
Mae’r Panel yn cytuno bod Sectorau Gwirfoddol Cymru a Gogledd Iwerddon yn gweithredu mewn cyd-destunau sy’n sylfaenol wahanol i’r cyd-destun yn Lloegr. Darllenwch yr erthygl lawn yma.
Maeâr Gymraeg yn cael ei defnyddio i annog ymfudwyr i deimloân gartrefol
Erthygl newydd yn The Conversation gan Dr. Huw Lewis, Dr. Gwennan Higham a Dr Mike Chick, yn egluro sut mae’r Gymraeg yn cael ei defnyddio i helpu i integreiddio ffoaduriaid a cheiswyr lloches. Darllenwch yr erthygl lawn yma.
Papurau & Podcasts
Goblygiadau fframwaith cyfreithiol newydd i amddiffyn hawliau lleiafrifol
Mae adroddiad diweddaraf Dr Anwen Elias yn ystyried goblygiadau cael fframwaith cyfreithiol newydd i amddiffyn hawliau lleiafrifol ar arfer yr hawl i hunanbenderfyniad. Darllenwch yr adroddiad yma.
Papur newydd yn galw am ddefnyddio cyfiawnder gofodol fel dull i fynd i’r afael ag argyfyngau lluosog yng nghefn gwlad Prydain
Papur newydd gan yr Athro Michael Woods yn cynnig mabwysiadu cyfiawnder gofodol fel dull o ddeall yr argyfyngau lluosog sy’n wynebu cefn gwlad Prydain ac i ddatblygu ymatebion polisi. Darllen y papur yma.
Podlediad newydd y SMC yn trafod Deialog, Trafodaeth ac Adnewyddiad Democrataidd
Dr. Anwen Elias a Dr. Jennifer Wolowic, Prif Arweinydd y Ganolfan Ddeialog ym Mhrifysgol Aberystwyth, wrth iddynt ymchwilio i fyd deialog, trafodaeth ac adnewyddiad democrataidd. Gwrandewch yma.
Cysylltwch â ni
Anfonir y newyddlen nesaf atoch fis Mawrth. Os hoffech ragor o wybodaeth am yr eitemau a drafodir yn ein newyddlen, gallwch gysylltu â ni ar y llwyfannau canlynol:
Ebost: CWPS@aber.ac.uk
Facebook: @cwpsaber
Twitter: @cwpsaber
Instagram: @cwpsaber
Anfonwyd y cylchlythyr hwn at ein rhestr bostio yn y lle cyntaf. I gael ein diweddariadau mae croeso i chi gofrestru trwy glicio yma.