Mae’r Gymraeg yn cael ei defnyddio i annog ymfudwyr i deimlo’n gartrefol

Llywodraeth y Deyrnas Gyfunol yn unig sydd â’r grym i benderfynu pwy all gael mynediad i’r wlad, a hi sy’n gyfrifol am lunio polisïau mudo a lloches. Ond mae gan lywodraethau datganoledig y gallu i ddefnyddio’u grymoedd hwy mewn meysydd fel tai, addysg, iechyd a gwasanaethau cymdeithasol er mwyn dylanwadu ar natur y cymorth a gynigir i newydd-ddyfodiaid.

Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae llywodraeth Cymru wedi edrych am ffyrdd gwahanol o defnyddio’i grymoedd datganoledig er mwyn cynorthwyo ffoaduriaid a mewnfudwyr i integreiddio yng Cymru. Ac fel rhan o hyn rhoddwyd pwyslais cynyddol ar rôl yr iaith Gymraeg. 

At ei gilydd, yr amcan fu ceisio datblygu amgylchedd croesawgar a chefnogol yng Nghymru. Mae hyn yn cyferbynnu â’r pwyslais mae llywodraeth y Deyrnas Gyfunol wedi’i roi ar yr angen i leihau mudo net, ac ar geisio creu “amgylchedd gelyniaethus” i ffoaduriaid a cheiswyr lloches.

Y cam mwyaf arwyddocaol a gymerwyd hyd yma gan lywodraeth Cymru oedd cyhoeddi cynllun yn 2019 yn amlinellu camau ar gyfer troi Cymru yn “genedl noddfa”.

Fodd bynnag, elfen arwyddocaol arall –- ond llai amlwg –- o waith llywodraeth Cymru fu’r camau a gymerwyd i sicrhau bod y Gymraeg yn chwarae rhan mwy blaenllaw yn y broses o groesawu mewnfudwyr a cheiswyr lloches.

Wrth drafod pwysigrwydd y gwaith hwn, dadleuodd Jane Hutt, gweinidog cyfiawnder cymdeithasol Cymru, y gallai’r iaith Gymraeg fod yn “arf integreiddio pwerus iawn”.

Lletygarwch ac integreiddio

Gellir gweld sut mae’r sylw a roddir i’r Gymraeg fel rhan o’r broses integreiddio wedi datblygu wrth olrhain esblygiad y ddarpariaeth ESOL (Saesneg i siaradwyr ieithoedd eraill) yng Nghymru.

Yn 2013, torrwyd y cyswllt traddodiadol rhwng y ddarpariaeth ESOL a’r broses o sicrhau dinasyddiaeth yn y Deyrnas Gyfunol yn sgil newidiadau polisi a gyflwynwyd gan glymblaid y Ceidwadwyr a’r Democratiaid Rhyddfrydol. 

Un o ganlyniadau annisgwyl y newid hwn oedd creu cyfle i ddatblygu dull neilltuol yng Nghymru ar gyfer darparu addysg ieithyddol i ymfudwyr. O ganlyniad, flwyddyn yn ddiweddarach cyhoeddodd llywodraeth Cymru ei bolisi ESOL cyntaf. Hwn oedd y polisi cyntaf o’i fath i gael ei gyhoeddi gan unrhyw lywodraeth yn y Deyrnas Gyfunol. 

Nid oedd y polisi ESOL gwreiddiol yn gwneud cysylltiad rhwng y Gymraeg ac integreiddio ieithyddol. Ond roedd fersiwn ddiweddarach, a gyhoeddwyd yn 2019, yn galw ar ddarparwyr ESOL yng Nghymru i “gynnwys y Gymraeg yn eu gwersi”.

Ystyriwyd bod hyn yn angenrheidiol gan y “gall yr iaith Gymraeg fod yn sgil werthfawr yn y gweithle”. Yn ogystal, nodwyd bod dysgu Cymraeg yn medru hwyluso “integreiddio cymdeithasol”, yn enwedig mewn “ardaloedd lle mae’r rhan fwyaf o bobl yn siarad Cymraeg”.

Ochr yn ochr a hyn, bu’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol yn gweithio mewn partneriaeth ag Addysg Oedolion Cymru, er mwyn datblygu darpariaeth arloesol fyddai’n cyflwyno’r Gymraeg i siaradwyr ieithoedd eraill (WSOL). Mae Croeso i Bawb, a gafodd ei gyflwyno am y tro cyntaf yn 2019, yn gwrs pwrpasol sy’n rhoi cyfle i fewnfudwyr a ffoaduriaid ddechrau dysgu Cymraeg.

Ategwyd y syniad y gall y Gymraeg hybu integreiddio ac ymdeimlad o berthyn unwaith eto eleni mewn adolygiad o’r ddarpariaeth ESOL yng Nghymru a gomisiynwyd gan lywodraeth Cymru. Galwodd yr adolygiad hefyd am gynnwys y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol yn llawn yn y rhwydweithiau addysgol sy’n gweithio i gefnogi mewnfudwyr yng Nghymru.

Goblygiadau

Mae’n bwysig peidio gorliwio maint y newidiadau a welwyd hyd yn hyn. Yn gyffredinol, y Saesneg sy’n parhau’n gyfrwng integreiddio ar gyfer y mwyafrif o fewnfudwyr a ffoaduriaid sy’n ymgartrefu yng Nghymru.

Serch hynny, mae’r pwyslais cynyddol a roddwyd ar y Gymraeg fel rhan o’r broses integreiddio yn atgyfnerthu’r argraff bod dull unigryw Gymreig o groesawu mewnfudwyr a ffoaduriaid yn cael ei ddatblygu. Mae’r ddarpariaeth WSOL newydd yn herio’rddelwedd uniaith draddodiadol o fywyd ar draws y Deyrnas Gyfunol ac yn hybu persbectif amlieithog ac amlddiwylliannol.

Gwybodaeth ar ddysgu Cymraeg i bobl sy’n ymgartrefu yng Nghymru.

Mae gwaith ymchwil diweddar hefyd yn awgrymu bod dysgu Cymraeg yn medru gwella cyfleoedd cyflogaeth mewnfudwyr a ffoaduriaid. Gall hefyd hwyluso’r broses o ddatblygu rhwydweithiau cymdeithasol newydd. 

Ond os oes bwriad i drin y Gymraeg fel elfen mwyfwy canolog o’r broses integreiddio, bydd angen gwneud mwy na dim ond cynnig cyfleodd ffurfiol i ddysgu’r iaith, er mor bwysig yw hynny.

Dylai llunwyr polisi ac ymgyrchwyr ystyried ffyrdd eraill o wneud dysgu Cymraeg yn fwy hygyrch. Mae darparu cyfleoedd i ddysgwyr ryngweithio’n gymdeithasol trwy gyfrwng y Gymraeg hefyd yn allweddol.

Tra’i bod yn ymddangos y bydd llywodraeth y Deyrnas Gyfunol yn parhau i bwysleisio’r Saesneg fel yr unig gyfrwng ar gyfer integreiddio llwyddiannus, mae’r dystiolaeth bresennol yn awgrymu bod Cymru yn datblygu gweledigaeth wahanol, fwy amlieithog.

Ymddangosodd y newyddion hwn yn wreiddiol ar The Conversation


Cysylltiadau

Dr. Huw Lewis hhl@aber.ac.uk