Mae ymchwil newydd yn dadlau bod Plaid Cymru wedi gwneud ei galwadau am annibyniaeth i Gymru yn llai amlwg er mwyn er mwyn blaenoriaethu ceisio sicrhau pleidleisiau rhwng 2003 a 2015, ac wedi gwneud eu galwad am annibyniaeth yn fwy blaenllaw ar ôl 2019, gydag arweinyddiaeth newydd y blaid yn sbarduno hyn yng nghyd-destun y…
Deall y berthynas rhwng yr economi a’r Gymraeg yng Nghymru
Mae blog newydd sydd wedi’i gyhoeddi yn trafod amcanion Rhaglen ARFOR, sy’n ceisio deall y berthynas rhwng yr economi a’r Gymraeg yng Nghymru. Yn y blog hwn, mae Dr Huw Lewis yn tynnu sylw at yr angen am ddiffiniad cliriach o sut mae ffactorau economaidd ac ieithyddol yn rhyngweithio ac yn dylanwadu ar ei gilydd. …
Papur newydd yn galw am ddefnyddio cyfiawnder gofodol fel dull i fynd i’r afael ag argyfyngau lluosog yng nghefn gwlad Prydain
Mae papur newydd gan yr Athro Michael Woods wedi’i gyhoeddi yn The Geographical Journal. Mae’r papur hwn yn cynnig mabwysiadu cyfiawnder gofodol fel dull o ddeall yr argyfyngau lluosog sy’n wynebu cefn gwlad Prydain ac i ddatblygu ymatebion polisi. Mae’n amlinellu elfennau allweddol cyfiawnder gofodol gwledig ac yn ystyried ei ddefnydd wrth ddadansoddi heriau yng nghefn…
Podlediad newydd y SMC yn trafod Deialog, Trafodaeth ac Adnewyddiad Democrataidd
Gwrandewch ar bodlediad diweddaraf y SMC sy’n cynnwys Cyd-gyfarwyddwr CWPS WISERD, Dr. Anwen Elias a Dr. Jennifer Wolowic, Prif Arweinydd y Ganolfan Ddeialog ym Mhrifysgol Aberystwyth, wrth iddynt ymchwilio i fyd deialog, trafodaeth ac adnewyddiad democrataidd. Darganfyddwch sut mae dulliau arloesol o ymdrin â democratiaeth yn ymgysylltu â dinasyddion wrth lunio penderfyniadau sy’n effeithio ar…
Galw am Luniau o Annibyniaeth gan Ffotograffwyr Ardal Caernarfon
Mae ymchwilwyr yn chwilio am bobl o ardal Caernarfon sy’n mwynhau ffotograffiaeth i dynnu lluniau yn adlewyrchu sut maen nhw’n meddwl ac yn teimlo am annibynniaeth. Bydd gofyn i’r ffotograffwyr dynnu pedwar o luniau ac yna mynychu sesiwn yn Y Galeri yng Nghaernarfon ar ddydd Sadwrn 30 Medi i drafod sut a pham wnaethon nhw…
Dadansoddi Plaid Cymru yn y cyfryngau
Dadansoddiad o Blaid Cymru a’i harweinydd newydd gan gyd-gyfarwyddwr CWPS-WISERD, Dr Anwen Elias a Dr Elin Royles o Ganolfan Gwleidyddiaeth Cymru a The Conversation ar 17 Gorffennaf. Cafodd hefyd ei ailgyhoeddi yn Golwg ar 20 Gorffennaf a’r Western Mail ar 22 Gorffennaf.
Yr heriau’n wynebu Rhun ap Iorwerth cyn yr etholiadau nesaf
Anwen Elias, Aberystwyth University and Elin Royles, Aberystwyth University Ganol mis Mehefin, cadarnhawyd Rhun ap Iorwerth yn arweinydd newydd Plaid Cymru. Mae’n olynu Adam Price a ymddiswyddodd yn dilyn adroddiad niweidiol a dynnodd sylw at broblemau difrifol o ran diwylliant mewnol y blaid, yn arbennig aflonyddu rhywiol, bwlio a misogynistiaeth. Blaenoriaeth ddi-oed, sydd wedi ei…
Y cyhoedd yn galw am ddiwygio democrataidd 
Cynhaliwyd Darlith Flynyddol y Ganolfan Gwleidyddiaeth a Chymdeithas Cymru, Prifysgol Aberystwyth i drafod y gobaith o ddiwygio democrataidd yn y Deyrnas Unedig. Traddodwyd y ddarlith gan yr academydd blaenllaw, yr Athro Alan Renwick, Dirprwy Gyfarwyddwr Uned y Cyfansoddiad yng Ngholeg Prifysgol Llundain, ar y testun “Do the UK Public want Democratic Reform?”. Roedd canfyddiadau ymchwil…
Comisiynydd yn cefnogi dull trafod arloesol o fynd i’r afael â pholareiddio yn ein cymunedau
Cynhaliodd academyddion WISERD o Ganolfan Gwleidyddiaeth a Chymdeithas Cymru (CWPS) ym Mhrifysgol Aberystwyth symposiwm ar y cyd â phartneriaid o Rwydwaith Astudiaethau’r Sector Gwirfoddol (VSSN) ddydd Mercher 24 Mai yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Wedi’i hwyluso gan Dr Amy Sanders, gyda chefnogaeth gan Ganolfan Ddeialog Prifysgol Aberystwyth, gan ddefnyddio dull trafod arloesol, daeth y digwyddiad hwn…
Academydd blaenllaw i drafod diwygio democrataidd yn Aberystwyth
Bydd y rhagolygon ar gyfer diwygio gwleidyddol ym Mhrydain yn cael eu trafod ym Mhrifysgol Aberystwyth y mis hwn, pan fydd yr Athro Alan Renwick yn traddodi Darlith Flynyddol Gwleidyddiaeth a Chymdeithas Cymru. Bydd y ddarlith, ‘Do the UK Public want Democratic Reform?’, yn cael ei chynnal ddydd Iau 25 Mai am 6yh ym Mhrif…