Comisiynydd yn cefnogi dull trafod arloesol o fynd i’r afael â pholareiddio yn ein cymunedau

Cynhaliodd academyddion WISERD o Ganolfan Gwleidyddiaeth a Chymdeithas Cymru (CWPS) ym Mhrifysgol Aberystwyth symposiwm ar y cyd â phartneriaid o Rwydwaith Astudiaethau’r Sector Gwirfoddol (VSSN) ddydd Mercher 24 Mai yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

Wedi’i hwyluso gan Dr Amy Sanders, gyda chefnogaeth gan Ganolfan Ddeialog Prifysgol Aberystwyth, gan ddefnyddio dull trafod arloesol, daeth y digwyddiad hwn ag ymarferwyr cymunedol a gwirfoddol at ei gilydd er mwyn ceisio goresgyn y polareiddio rhwng arbenigedd academaidd a’r gymuned ehangach. Fel yr esboniodd Jurgen Grotz, VSSN: “Mae’r drafodaeth hon yn berthnasol ym mhob un o bedair gwlad y DU, sy’n rhywbeth yr ydym am ei ddilyn fel rhwydwaith.”

Dangosodd Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru, Derek Walker, sut y gellir rhoi Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015 a’r ‘Pum Ffordd o Weithio’ ar waith drwy gyflwyno apêl am sgwrs yn ystod ei brif araith. Arhosodd tan y diwedd i gymryd rhan yn y gweithgareddau trafod amrywiol ochr yn ochr ag aelodau’r gymuned, sefydliadau gwirfoddol ac academyddion.

Future Generations Commissioner for Wales, Derek Walker
Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru, Derek Walker

Ymunodd Ali Goldsworthy, arbenigwr ym maes dad-bolareiddio a chyd-awdur Poles Apart: Why people turn against each other and how to bring them together yn y digwyddiad yn rhithwir i drafod y camau nesaf wrth gyflwyno cyfleoedd yn y dyfodol i fynd i’r afael â pholareiddio cymunedol yng Nghymru. 

Amlygodd yr Athro Marjorie Mayo, a arweiniodd y drafodaeth ar ‘Ddatblygiad cymunedol ac addysg boblogaidd yn yr oes boblyddol’, rôl tlodi cynyddol ac ansicrwydd economaidd wrth hybu polareiddio a phoblyddiaeth mewn cymunedau. 

Dywedodd yr Athro Mayo: “Roedd hwn yn ddigwyddiad mor amserol, gan ddod ag academyddion ac ymgyrchwyr yn y sector gwirfoddol a chymunedol at ei gilydd i archwilio heriau polareiddio cynyddol a thwf y dde eithafol. Sut i ddatblygu strategaethau cynhwysol mewn ymateb er mwyn i leisiau gwahanol gael eu clywed? Trefnwyd y gynhadledd mor dda, gan ein galluogi ni i gyd i rannu ein profiadau a’n syniadau am ffyrdd o symud ymlaen.”

Pwysleisiodd Amanda Morris o Gyngor Mwslimiaid Prydain hefyd yr angen i addysgu a grymuso cymunedau i herio cynrychiolaethau problemus o Fwslimiaid ac Islam yn y cyfryngau. Mae Mwslimiaid yn cyfrif am 6.5% o boblogaeth Cymru a Lloegr, ond roedd 59% o 10,931 o erthyglau yn y cyfryngau yn cysylltu Mwslimiaid ag ymddygiad negyddol. Rhaid herio stereoteipiau o’r fath os ydym am fynd i’r afael â pholareiddio mewn cymunedau lleol.

Siaradodd Anthony Ince o Brifysgol Caerdydd am y wirfoddoliaeh asgell dde eithafol a rhannodd Ali Abdi o Bafiliwn Grange gipolwg ar ddeinameg trefnu cymunedol, gan ganolbwyntio ar brofiadau byw yn Grangetown a phartneru â Sefydliad Jo Cox. Cafwyd cyfraniadau bywiog am newidiadau i ddemocratiaeth gan bobl ifanc o Planed a phrosiect Doing Democracy Differently Aberystwyth. Cynigiwyd camau ymarferol ar gyfer hyrwyddo cymunedau cynhwysol yng Nghymru gyda ffocws ar ffoaduriaid gan Aberaid ac iaith gan y Groes Goch Brydeinig. 

Dywedodd Jen Wolowic o’r Ganolfan Ddeialog ym Mhrifysgol Aberystwyth: “Fel rhywun sydd wedi symud yn ddiweddar o Ogledd America i Aberystwyth, mae polareiddio yn brofiad personol i mi. Rwyf wedi gweld pa mor hawdd y mae’n dod yn heintus ac yn ddinistriol. Mae deialog yn pwysleisio bod gennym ni i gyd ddarnau o’r atebion a bod angen i ni greu pontydd rhwng ein seilos. Heddiw, rhaid trafod ymchwil, profiad byw, y trydydd sector a pholisi gyda’i gilydd, ac mae’r ddeialog honno mor bwysig ar gyfer newid trawsnewidiol. Roeddwn yn gwerthfawrogi’n fawr sut y creodd y trefnwyr y cyfleoedd hyn trwy strwythur eu cynhadledd ac ymgysylltu â’r rhai yn yr ystafell a’r rhai a ymunodd yn rhithwir.”


Cyswllt

Dr Amy Sanders ams48@aber.ac.uk

CWPS CWPS@aber.ac.uk