🗞️ Croeso I gylchlythyr mis Mawrth CWPS
Cafwyd dechrau gwych i 2024! Rydym wedi ennill £5 miliwn o gyllid ymchwil, wedi trefnu 6 digwyddiad, a dim ond megis dechrau yw hyn, am fod 7 digwyddiad arall ar y gweill yn y misoedd nesaf!
Rydym hefyd wedi cyhoeddi 3 fideo, 2 adroddiad, a phapurau. Mae pob diweddariad wedi’i gyflwyno yn y cylchlythyr hwn, er mwyn ichi wybod am yr ymchwil diweddaraf ar Gymru, trwy lygad byd-eang.
📅 Digwyddiadau
Dylunio’r Dyfodol
Oriel y Gweithwyr, Rhondda, 7-21 Mawrth, 10.30am-4.30pm dydd Iau – dydd Sadwrn
Casgliad o ffotograffau yw’r arddangosfa hon o’n prosiect sy’n defnyddio ffotograffiaeth i ddeall sut mae pobl yng Nghymru, yr Alban a Chatalwnia yn ystyried annibyniaeth. Mwy o wybodaeth.
Seminar Ymchwil CWPS/WISERD: ‘Exploring Lived Time and The Lifeworld as Analytical Frameworks to Understand Working-Class Student Experiences’
Ar-lein, 12 Mawrth, 12:00-13:00
Bydd Toni Beardmore yn cyflwyno peth o’i gwaith ymchwil doethurol ar brofiadau myfyrwyr dosbarth gweithiol o addysg uwch mewn seminar arlein. Mwy o wybodaeth.
‘Fractured Union’
Prifysgol Aberystwyth, 29 Ebrill, 6-7.30
Yn rhan o’n cyfres o ddigwyddiadau ar thema Dyfodol Cyfansoddiadol, croesewir yr Athro Michael Kenny, Cyfarwyddwr Sefydliad Polisi Cyhoeddus Bennett ym Mhrifysgol Caergrawnt. Bydd yn trafod ei lyfr, ‘Fractured Union’ sy’n holi a all y Deyrnas Unedig oroesi, mater amlwg iawn yng ngwleidyddiaeth gwledydd Prydain.Cofrestrwch fan hyn.
Creu Dyfodol Cyfansoddiadol Cymru
Y Senedd, 22 Mai
Rhwng 10-5 byddwn yn arddangos ffotograffau o’n prosiect sy’n defnyddio ffotograffiaeth i ddeall sut mae pobl yng Nghymru, yr Alban a Chatalwnia yn ystyried annibyniaeth. Dilynir hyn gyda’r nos gan banel trafod yng nghwmni tîm a ffotograffwyr y prosiect. Mwy o wybodaeth.
Gwedd Newydd ar Ddemocratiaeth
Gŵyl y Gelli, 28 Mai
Ymunwch â ni yn lansiad ‘Gwedd Newydd ar Ddemocratiaeth’ gan y Ganolfan Ddeialog a Dr. Anwen Elias. Prosiect blaengar sy’n adlewyrchu tueddiadau democratiaeth gyfranogol, ac yn ein hannog i harneisio creadigrwydd pobl. Dewch i weld sut y gall ffotograffiaeth, collage, a chelf roi ffurf ar bolisïau a sefydliadau. Mwy o wybodaeth.
Cynhadledd Flynyddol WISERD 2024
Prifysgol De Cymru, 3-4 Gorffennaf 2024
Thema’r gynhadledd eleni yw’r uchelgais i greu cymdeithas decach. Bydd y materion canlynol yn cael eu hystyried: Sut olwg fyddai ar gymdeithas sy’n decach? Sut y gall ymchwil yn y gwyddorau cymdeithasol ddyfnhau ein dealltwriaeth o’r peirianwaith sy’n arwain at anghydraddoldebau hirdymor a pharhaus? Mwy wybodaeth.
Cynhadledd ‘Dulliau ymchwil ac ymchwil i ieithoedd rhanbarthol neu leiafrifol’
Prifysgol Aberystwyth, 9-10 Gorffennaf Wrth i lunwyr polisi ac academyddion fel ei gilydd ddod yn fwyfwy ymwybodol o’r bygythiadau sy’n wynebu ieithoedd rhanbarthol neu leiafrifol, mae ymchwil i’r ieithoedd hyn yn hynod bwysig. Bydd y gweithdy hwn yn trafod ac yn rhannu arferion gorau o ran dulliau ymchwil ym maes polisi a chynllunio ac iaith. Mwy wybodaeth
🎬 Fideos
Dyfodol Cyfansoddiadol: Rhun ap Iorwerth AS
Amlinellodd adroddiad terfynol y Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru wahanol ddewisiadau ar gyfer dyfodol cyfansoddiadol Cymru. Bydd Rhun ap Iorwerth AS, arweinydd Plaid Cymru, yn ymateb i’r adroddiad ac yn ystyried y goblygiadau i bolisi Plaid Cymru o sicrhau annibyniaeth yn y cyntaf o gyfres newydd CWPS o ddigwyddiadau Dyfodol Cyfansoddiadol. Gwyliwch y fideo yma.
Swyddogaeth Sefydliadau Cymunedol a Gwirfoddol yn y Polareiddio mewn Cymunedau Lleol
Mae’n bleser gennym rannu tri fideo o’r gynhadledd hon.
Dewch i gwrdd â’r sefydliadau cymunedol a gwirfoddol o’n digwyddiad hybrid diweddar, lle buom yn mynd i’r afael â phrofiadau o bolareiddio gan sefydliadau cymunedol a gwirfoddol lleol ac, yn bwysicaf oll, y strategaethau y maent yn eu defnyddio i fynd i’r afael â hyn. Gwyliwch y fideo yma.
Yr Athro Marjorie Mayo yn trafod datblygu cymunedol ac addysg boblogaidd mewn oes poblyddol ac Amanda Morris yn trafod addysgu a grymuso cymunedau i herio cynrychiolaeth broblematig o Fwslimiaid ac Islam yn y cyfryngau. Gwyliwch y fideo yma.
Anthony Ince yn trafod ‘Gwirfoddoliaeth asgell dde eithafol a ffigwr y ‘dinesydd da’ ac Ali Abdi yn rhannu ei arbenigedd ar Drefnu Cymunedol, Pafiliwn Grange a’r Great Get Together. Y prif siaradwr Derek Walker, yn arwain sesiwn holi ac ateb ar ‘Sut mae Cymru mewn sefyllfa dda i wrthsefyll ymraniad o fyd mwyfwy pegynol’. Gwyliwch y fideo yma.
🗞️ Newyddion
CWPS i arwain prosiect newydd mawr i gefnogi datblygiad cynaliadwy cynhwysol yng Nghymru Wledig
Mae tîm dan arweiniad Cyd-gyfarwyddwr CWPS Michael Woods wedi derbyn dros £5m gan UKRI i sefydlu Cymru Wledig LPIP Rural Wales, y Bartneriaeth Polisi ac Arloesi Lleol ar gyfer Cymru Wledig. Darllenwch fwy yma.
Adroddiad yn crynhoi gwersi o ymchwil cyfoes ym maes allfudo i gefnogi gwaith rhaglen ARFOR II
Cyhoeddwyd adroddiad sy’n crynhoi prif gasgliadau dau weithdy ymchwil ar bwnc allfudo a gynhaliwyd yn ystod mis Tachwedd 2023. Darllenwch yr erthygl gyfan yma.
Y Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru yn cyhoeddi ei adroddiad terfynol
Ar 17 Ionawr, yn dilyn sgwrs genedlaethol ddwy flynedd o hyd, cyhoeddodd y Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru ei adroddiad. Mae Cyd-gyfarwyddwr CWPS-WISERD, Dr Anwen Elias, yn aelod o’r Comisiwn. Darllenwch yr erthygl gyfan yma.
WISERD yn cyflwyno ymchwil cymdeithas sifil i lunwyr polisïau ym Mrwsel
Cafodd gweithdy ar gyfer llunwyr polisïau ym Mrwsel ei gynnal gan Sefydliad Ymchwil Cymdeithasol ac Economaidd a Data Cymru (WISERD) ac Addysg Uwch Cymru Brwsel (WHEB), lle cyflwynwyd achos dros roi ymchwil cymdeithas sifil wrth wraidd cynlluniau i’r Undeb Ewropeaidd. Darllenwch yr erthygl gyfan yma.
Defnyddio Deialog i gael Effaith gyda’ch Ymchwil
Cafodd dulliau newydd eu treialu i sicrhau y gall ymchwil gael effaith yn ystod hyfforddiant i weithredwyr polisi o bob rhan o’r trydydd sector yng Nghymru. Darllenwch yr erthygl gyfan yma.
📚 Papurau a Phodlediadau
Sanders A. (2023) A Welsh Innovation in Inclusive Governance. Examining the Efficacy of the Statutory Third Sector-Government Partnership for Engaging the Third Sector in Policymaking, Revue Française de Civilisation Britannique, 28(3).
Michael Woods: Ieuenctid Cefn Gwlad yn Allfudo a Newid i’r Boblogaeth yng Nghymru, Darn Meddwl Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru, Rhagfyr 2023.
Flossie Caerwynt: Migration, Community and IdentityCountercultural Lifestyle Migration to Rural Wales, 1965-1980, Hydref 2023.
Ymunwch â’n rhestr bostio i dderbyn negeseuon rheolaidd gan GRRaIN, gan gynnwys digwyddiadau, newyddion a’r e-gylchlythyr.
Cysylltwch â ni
Anfonir y newyddlen nesaf atoch fis Mehefin. Os hoffech ragor o wybodaeth am yr eitemau a drafodir yn ein newyddlen, gallwch gysylltu â ni drwy’r llwyfannau canlynol:
E-bost: CWPS@aber.ac.uk
Facebook: @cwpsaber
X / Twitter: @cwpsaber
Instagram: @cwpsaber