Adroddiad yn crynhoi gwersi o ymchwil cyfoes ym maes allfudo i gefnogi gwaith rhaglen ARFOR II

A hill that has many fields lined with trees, with sheep and houses scattered amongst the countryside.

Mae Canolfan Gwleidyddiaeth a Chymdeithas Cymru, Prifysgol Aberystwyth wedi cyhoeddi adroddiad briffio sy’n crynhoi prif gasgliadau dau weithdy ymchwil ar bwnc allfudo a gynhaliwyd yn ystod mis Tachwedd 2023. 

Trefnwyd y gweithdai gan CWPS a chwmni ymchwil Wavehill, a hynny fel rhan o raglen waith tendr ymchwil 18 mis sydd â’r nod o adolygu a gwerthuso gwaith rhaglen ARFOR II.

Mae Rhaglen ARFOR yn dwyn ynghyd awdurdodau lleol Gwynedd, Môn, Ceredigion a Sir Gaerfyrddin i ddatblygu cynlluniau sydd â’r nod o hybu datblygiad economaidd ar draws siroedd y gorllewin, a thrwy hynny, rhoi hwb i ragolygon yr iaith Gymraeg. 

Cafodd ei sefydlu yn 2019, yn dilyn buddsoddiad cychwynnol o £2 filiwn gan Lywodraeth Cymru. Ym mis Hydref 2022 daeth cadarnhad bod y Llywodraeth yn bwriadu darparu £11 miliwn pellach er mwyn ariannu ail gam ARFOR a fydd yn rhedeg hyd fis Mawrth 2025.

Teitl y gweithdy cyntaf oedd ‘ARFOR, allfudo a’r Gymraeg’. Nod y digwyddiad oedd trafod ymchwil cyfoes o Gymru ar bwnc allfudo ac ystyried ei berthnasedd i waith rhaglen ARFOR II. Cafwyd cyflwyniadau gan Dr Huw Lloyd-Williams (Wavehill), yr Athro Mike Woods (Prifysgol Aberystwyth), Elen Bonner (Prifysgol Bangor) a Dr Lowri Cunnington Wynn (Prifysgol Aberystwyth).

Teitl yr ail weithdy oedd ‘ Aros, allfudo neu ddychwelyd? Gosod y profiad Cymreig mewn cyd-destun cymharol’. Bwriad y gweithdy hwn oedd ehangu gorwelion gan drafod ymchwil sydd wedi astudio allfudo mewn ystod o gyd-destunau Ewropeaidd eraill. O ganlyniad cafwyd cyflwyniadau gan Dr Caitríona Ni Laoire (Coleg Prifysgol Corc), Dr Rosie Alexander (Prifysgol Gorllewin yr Alban), yr Athro Tialda Haartsen (Prifysgol Groningen, yr Iseldiroedd) a Dr Annett Steinfuhrer (Sefydliad Materion Gwledig Thünen, yr Almaen).

Mae’r adroddiad yn crynhoi prif elfennau’r drafodaeth a gafwyd yn ystod y ddau weithdy, gan gyfeirio at gynnwys y cyflwyniadau ymchwil a draddodwyd, a hefyd y cwestiynau a’r sylwadau a gododd yn ystod y cyfnodau trafod dilynol. 

Trefnwyd yr adroddiad ar sail thematig, ac mae’n tynnu sylw at gyfres o themâu allweddol a gododd yn ystod y gweithdai:

  • Deall allfudo a mudo dychweliadol: ystyriaethau cyffredinol 
  • Tystiolaeth o agweddau pobl ifanc ynglŷn â bywyd yng nghefn gwlad Cymru
  • Creu teipolegau o agweddau pobl ifanc o Gymru ynglŷn â mudo
  • Ffactorau sy’n cymell allfudo
  • Ffactorau sy’n dylanwadu ar fudo dychweliadol
  • Deall cymhellion y sawl sy’n ‘aros’

Gallwch ddarllen yr adroddiad llawn ar ffurf PDF yma: https://cwps.aber.ac.uk/wp-content/uploads/sites/13/2024/02/Adroddiad-briffio-gweithdai-allfudo-TERFYNOL.pdf


Cysylltiadau

Dr Huw Lewis
Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol, 
Prifysgol Aberystwyth  
hhl@aber.ac.uk

Dr Lowri Cunnington Wynn

Adran Y Gyfraith a Throseddeg, Prifysgol Aberystwyth  

lac48@aber.ac.uk