Archwilio amser wedi ei fyw a’r Lifeworld fel fframwaith dadansoddiadol i ddeall profiadau myfyrwyr dosbarth gweithiol

Cyflwynir gan Toni Beardmore (Prifysgol Aberystwyth)

Yn y cyflwyniad hwn cyflwynaf y syniad o ddefnyddio ‘amser wedi ei fyw’ fel fframwaith dadansoddol i archwilio profiadau myfyrwyr dosbarth gweithiol mewn prifysgolion. Prin iawn yw ymchwil sy’n defnyddio lifeworld existentials i archwilio’r berthynas rhwng hunaniaethau dosbarth gweithiol ac addysg uwch, a cheisia’r ymchwil hwn i ddeall sut gellir ei ddefnyddio naratifau sy’n ymestyn tu hwnt i ddata ystadegol.

Drwy lens ffenomenolegol, archwilia’r ymchwil yr elfennau goddrychol, amserol, a dirfodol o brofiadau wedi’u byw myfyrwyr dosbarth gweithiol. Daw a dealltwriaeth sensitif o sut mae’r myfyrwyr hyn yn negodi heriau unigryw i’w habitws dosbarth gweithiol, yn deall a chystrawennu hunaniaeth, a dehongli eu lle ym maes addysg uwch, oll wrth ystyried yr elfen amserol yn rhan hanfodol o’u siwrne addysgiadol.

Dadleua’r ymchwil bod lifeworld existentials yn rhoi safbwynt holistig i ddeall y ffactorau sy’n lliwio siwrnai myfyrwyr dosbarth gweithiol, ac yn cyfrannu at well ddealltwriaeth o’u profiadau byw o addysg uwch a naratifau addysgiadol.

Os bydd gennych unrhyw gwestiynau, dylech ebostio: WISERD.events@cardiff.ac.uk neu ffonio 029 208 75260.

Date

Maw 12 2024
Expired!

Time

12:00 pm - 1:00 pm

More Info

Read More

Location

Ar-lein
Read More

0 thoughts on “Archwilio amser wedi ei fyw a’r Lifeworld fel fframwaith dadansoddiadol i ddeall profiadau myfyrwyr dosbarth gweithiol