Logo Darlunio'r Dyfodol Framing The Future logo

Darlunio’r Dyfodol

Arddangosfa gynhaliwyd yn Workers Gallery, Ynyshir, 7-23 Mawrth, 2024

10.30am-4.30pm dydd Iau – dydd Sadwrn

Mae’r arddangosfa hon yn dangos casgliad o ffotograffau o brosiect o’n prosiect sy’n defnyddio ffotograffiaeth i ddeall sut mae pobl yn meddwl am annibyniaeth yng Nghymru, yr Alban a Chatalwnia.  Dyma felly gyfrannu at ddeall sut mae dulliau gweledol yn ffordd o annog trafodaeth ymysg dinasyddion am faterion cyfansoddiadol.

Mae’r prosiect yn wahanol i waith blaenorol sydd wedi canolbwyntio ar sut mae nodweddion pobl (fel oedran, rhywedd a dosbarth cymdeithasol), ac agweddau a dewisiadau pleidleisio wedi effeithio ar eu barn am annibyniaeth.

Rydyn ni wedi gweithio gyda chlybiau ffotograffiaeth a myfyrwyr i ymchwilio i’r cwestiwn yma yn y tri achos. Gofynnwyd i gyfrannwyr dynnu lluniau yn ymwneud ag annibyniaeth. Fe fuon nhw’n trafod y delweddau ac yn cymryd rhan mewn cyfweliadau.

Dangoswyd gwaith gan ffotograffwyr yn gysylltiedig â’r mudiadau canlynol: Clwb Camera Aberystwyth; Workers Gallery, Ynyshir, y Rhondda; Foto-Cine Mataró d’UEC (Clwb Camera Mataró); IEFC: Institut d’Estudis Fotogràfics de Catalunya (Sefydliad Astudiaethau Ffotograffeg Catalonia), a ffotograffwyr o ardal Caernarfon.

A poster for the exhibition Framing the Future at the Workers G allery

Date

Maw 14 - 23 2024
Expired!

Time

10:30 am - 4:30 pm

0 thoughts on “Darlunio’r Dyfodol