Creu Dyfodol Cyfansoddiadol Cymru – Arddangosfa & panel trafod

Rhwng 10-5 byddwn yn arddangos ffotograffau o’n prosiect sy’n defnyddio ffotograffiaeth i ddeall sut mae pobl yng Nghymru, yr Alban a Chatalwnia yn ystyried annibyniaeth. 

Panel trafod

Dilynir hyn gyda’r nos rhwng 6-8 gan banel trafod yng nghwmni tîm a ffotograffwyr y prosiect. Cliciwch fan hyn i gofrestru am y drafodaeth.

Arddangosfa Ffotograffiaeth

Mae mynediad i’r Senedd ac i’r arddangosfa hon yn rhad ac am ddim ac nid oes angen archebu ymlaen llaw. Ond mae angen archebu ar gyfer y drafodaeth gyda’r nos, felly cliciwch fan hyn i wneud hynny.

Mae’r arddangosfa hon yn dangos casgliad o ffotograffau o’n prosiect sy’n defnyddio ffotograffiaeth i ddeall sut mae pobl yn meddwl am annibyniaeth yng Nghymru, yr Alban a Chatalwnia. Dyma felly gyfrannu at ddeall sut mae dulliau gweledol yn ffordd o annog trafodaeth ymhlith dinasyddion am faterion cyfansoddiadol.

Mae’r prosiect yn wahanol i waith blaenorol sydd wedi canolbwyntio ar y ffordd mae nodweddion pobl (fel oedran, rhywedd a dosbarth cymdeithasol), ac agweddau a dewisiadau pleidleisio wedi effeithio ar eu barn am annibyniaeth.

Rydyn ni wedi gweithio gyda chlybiau ffotograffiaeth a myfyrwyr i ymchwilio i’r cwestiwn yma yn y tri achos. Gofynnwyd i gyfranwyr dynnu lluniau yn ymwneud ag annibyniaeth. Fe fuon nhw’n trafod y delweddau ac yn cymryd rhan mewn cyfweliadau.

Dangoswyd gwaith gan ffotograffwyr yn gysylltiedig â’r mudiadau canlynol: Clwb Camera Aberystwyth; Workers Gallery, Ynyshir, y Rhondda; Foto-Cine Mataró d’UEC (Clwb Camera Mataró); IEFC: Institut d’Estudis Fotogràfics de Catalunya (Sefydliad Astudiaethau Ffotograffig Catalonia), a ffotograffwyr o ardal Caernarfon.

Mae’r prosiect yn amhleidiol, nid yw’n cefnogi’r un blaid wleidyddol, ac nid yw’n hyrwyddo safbwynt penodol am annibyniaeth. Mae’n cael ei ariannu gan y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol, yn rhan o Ganolfan Ymchwil Cymdeithas Sifil yr ESRC/WISERD.

  • 00

    days

  • 00

    hours

  • 00

    minutes

  • 00

    seconds

Date

Mai 22 2024

Time

10:00 am - 8:00 pm
Register - Panel Discussion

0 thoughts on “Creu Dyfodol Cyfansoddiadol Cymru – Arddangosfa & panel trafod