Defnyddio Deialog er mwyn i’ch Ymchwil gael Effaith 

event participant feedback is written on paper. mae adborth y rhai a gymerodd ran wedi'i ysgrifennu ar bapur.

Mae Amy Sanders wedi bod yn treialu dulliau newydd er mwyn sicrhau y gall ei hymchwil gael effaith.  Cyflwynodd ddiwrnod llawn o hyfforddiant i weithredwyr polisi o bob rhan o’r trydydd sector yng Nghymru.  Y teitl oedd Ydy’ch llais yn cael ei glywed?  Sut gall y trydydd sector ddylanwadu ar Lywodraeth Cymru’.

Daeth arweinwyr polisi at ei gilydd o 35 o wahanol sefydliadau trydydd sector yng Nghymru i gymryd rhan yn y diwrnod hyfforddi. Roedd pynciau trafod y diwrnod yn ymdrin â nifer o feysydd gwahanol yn amrywio o sut i sicrhau dylanwad ar bolisi wrth ymdrin â Llywodraeth Cymru i strategaethau cydraddoldeb a chroestoriadedd wrth lunio polisïau. 

Roedd cyfle hefyd i’r rhai o’r trydydd sector oedd yn bresennol i roi sylwadau ar gyfres o ffilmiau byrion, dan y teitl Mwg Ymchwil (Mug of Research), a gynhyrchwyd ganddi er mwyn gwneud ymchwil yn hygyrch i weithredwyr polisi.  Peidiwch â dibynnu ar ei gair hi.  Dyma beth oedd gan y rhai oedd yno i’w ddweud yn eu geiriau eu hunain:  

“Diwrnod llawn gwybodaeth oedd yn ysgogi’r meddwl, ond mewn dull gwirioneddol ryngweithiol.  Mae’n dda gen i gwrdd â phobl eraill.” 

“Digwyddiad gwych.  Gafaelgar iawn.  Fel rhywun sy’n gweithio i ddylanwadu ar bolisi dysgais lawer o’r digwyddiad hwn ac oddi wrth Amy.  Dw i’n edrych ymlaen at wylio mwy o ‘fygiau ymchwil’!” 

“Trafodaethau gwerthfawr iawn ar draws ystod eang o bynciau.  Yn gadael â syniadau newydd ar gynlluniau i bwyso o boptu i Lywodraeth Cymru a’r Senedd… Dealltwriaeth o’r newydd am groestoriadedd. Diolch!” 

Ariannwyd y digwyddiad a’i gefnogi gan Ganolfan Ddeialog Prifysgol Aberystwyth ac fe’i cynhaliwyd yn Stadiwm Principality yng Nghaerdydd.  Roedd cefnogaeth cyfarwyddwr y Ganolfan Ddeialog, Dr Jen Wolowic, yn rhan bwysig o’r diwrnod.  Rhoddwyd deialog ar waith drwyddi draw i alluogi’r rhai oedd yn bresennol i drafod eu hymarfer eu hunain yng ngoleuni’r ymchwil ac i rwydweithio ag eraill oedd yno. 

Cydlynwyd y digwyddiad gan Sefydliad Bevan, gan gynnwys y marchnata, y gofal am y rhai oedd yn bresennol, a’r astudiaeth achos a gyflwynwyd o’u gwaith yn dylanwadu ar bolisi.  Mae eu staff mewn sefyllfa ragorol i barhau i gyflwyno hyfforddiant yn y dyfodol yn seiliedig ar yr ymchwil hon, sydd ymhell o fewn cwmpas eu gwaith.  

Dyma ateb lle’r oedd pawb ar eu hennill oherwydd gall yr holl sefydliadau a anfonodd gynrychiolwyr elwa o gymhwyso gwersi eu hymchwil i’w hymarfer, ac ar ben hynny, fe’n galluogwyd ni i fuddsoddi yn Sefydliad Bevan, sy’n sefydliad trydydd sector eithriadol, a fydd yn gallu cynnal a chyflymu effaith yr ymchwil hon fwyfwy ar draws sefydliadau’r trydydd sector yng Nghymru. 

Gwerthwyd pob tocyn o fewn wythnos gan fod dirfawr angen yr adnodd hwn ar y sector sy’n dioddef cyfyngiadau ariannol. 

Mae Amy yn aelod o bwyllgor Partneriaeth Ymchwil y Trydydd Sector ac yn un o ymddiriedolwr y Rhwydwaith Astudiaethau Sector Gwirfoddol, felly mae’n frwd dros sicrhau cyfnewid gwybodaeth sy’n fuddiol i’r trydydd sector.  

“Sesiwn ryngweithiol wych.  Mor brin yw gallu cael gafael ar gyrsiau datblygu proffesiynol o ansawdd da yn rhad ac am ddim yn y trydydd sector.” 

Cynhaliwyd y diwrnod hyfforddi hwn yn sgil digwyddiad awr ginio tebyg o’r enw “Datblygiadau arloesol wrth Sicrhau Effaith ar Bolisi” a drefnwyd gan Mwg Ymchwil (Mug of Research) ar gyfer ymchwilwyr Prifysgol Aberystwyth.  

Roedd yr Athro Colin McInnes yn bresennol yn y digwyddiad prifysgol hwn, ac ychwanegwyd yn sylweddol at y sesiwn gan ei adroddiad o’i ddatblygiadau arloesol ei hun ym maes polisi.  

Cafodd y rhai oedd yn bresennol yn y ddwy sesiwn hefyd ragolwg o ffilm fer arbennig Mwg Ymchwil am sicrhau effaith ar bolisi, a fydd ar gael i’r cyhoedd yn fuan unwaith y bydd argymhellion y gweithredwyr polisi wedi’u rhoi ar waith.  Fel y dywedodd dau berson a gymerodd ran o’r trydydd sector am y ffilmiau:   

Gwych.  Mae angen mwy o hyn.  Anaml y byddwn yn cael gwybod pa ymchwil sydd wedi digwydd.” 

“Mae’n ffordd dda o gyfathrebu, yn enwedig wrth gynnal sylw gweithwyr proffesiynol.” 


Cyswllt 

Dr Amy Sanders ams48@aber.ac.uk

Dr. Jen Wolowic jew51@aber.ac.uk

Dolenni:

Sefydliad Bevan

Y Ganolfan Ddeialog