Cynhadledd i drafod dyfodol ieithoedd yn y DU wedi Brexit

Wrth i’r dadlau a’r craffu  ar Fesur Gadael yr UE barhau, mae Prifysgol Aberystwyth yn cynnal cynhadledd ar oblygiadau Brexit i bolisïau iaith.

Cynhelir y gynhadledd, Polisïau Iaith yn y DU Wedi Ymadael âr Undeb Ewropeaidd 2017: Dylanwad datganoli ar ddydd Iau 21 Medi, ac yn gefnlen iddi mae gostyngiad yn niferoedd y bobl ifainc sy’n dewis astudio Ieithoedd Modern mewn ysgolion a phrifysgolion.

Yn 2016 yn unig, gwelwyd cwymp o 6.4%, 4.2% a 2.7% yn niferoedd ymgeiswyr Lefel A Ffrangeg, Almaeneg a Sbaeneg.

Gyda hyn mewn golwg, bydd academyddion o bob cwr o’r DU yn ymgynnull yn Aberystwyth i ofyn beth yw’r dyfodol i Ieithoedd Modern yn y DU ar ôl Brexit.

Yn ogystal, byddant yn trafod effeithiau posib Brexit ar bolisïau yn ymwneud ag ieithoedd rhanbarthol a lleiafrifol yn y DU.

Bydd y rhain yn cynnwys strategaethau a pholisïau a fabwysiadwyd gan Lywodraethau Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon i adfywio’r Gymraeg, Gaeleg yr Alban a’r Wyddeleg.

Prif siaradwraig y gynhadledd fydd yr Athro Sue Wright o Brifysgol Portsmouth a fydd yn trafod ‘Beth sy’n gwneud i bolisi iaith weithio?’.

Trefnir a noddir y gynhadledd gan Rwydwaith Ymchwil Iaith, Diwylliant a Hunaniaeth, Sefydliad Ymchwil Gymdeithasol ac Economaidd, Data a Dulliau Cymru (WISERD) a Chanolfan Gwleidyddiaeth a Chymdeithas Cymru  WISERD Prifysgol Aberystwyth.

Un o brif drefnwyr y gynhadledd yw Dr Elin Royles, cyd-sefydlydd Canolfan Gwleidyddiaeth a Chymdeithas Cymru ac Uwch Ddarlithydd yn Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol Prifysgol Aberystwyth.

Dywedodd Dr Royles: “Rhai o’r cwestiynau allweddol y byddwn yn eu holi fydd beth yw arwyddocâd Brexit i’r strategaethau a’r polisïau a fabwysiadwyd gan wledydd y DU i hyrwyddo ieithoedd lleiafrifol, o ystyried ein bod yn gadael y cyd-destun a grëwyd gan ymrwymiadau’r UE i barchu amrywiaeth ddiwylliannol ac ieithyddol a diogelu a gwella treftadaeth Ewrop?

“Yn yr un modd, o ystyried bod addysg wedi’i ddatganoli, sut y gellid addysgu ieithoedd tramor modern yn wahanol ar draws y DU ar ôl Brexit?

“Mae’r gynhadledd yn ymwneud yn gryf â’n hymgysylltiad rhyngddisgyblaethol gweithredol mewn trafodaethau polisi a’r ddadl ar bolisi iaith, yn enwedig yng nghyd-destun Cymru. Drwy gyd-drefnu a chynnal y digwyddiad hwn, croesawn y cyfle i roi ystyriaeth fanwl i archwilio goblygiadau Brexit am bolisi iaith o wahanol safbwyntiau yn y DU.”

Nod Canolfan Wleidyddiaeth a Chymdeithas Cymru – WISERD ym Mhrifysgol Aberystwyth yw datblygu dealltwriaeth o wleidyddiaeth gyfoes a chymdeithasol yng Nghymru yng nghyd-destun byd rhyng-gysylltiedig, cefnogi a chyflwyno ymchwil o’r radd flaenaf yn y gwyddorau cymdeithasol, a chyfrannu at wybodaeth gyhoeddus, dadleuon a datblygu polisi yng Nghymru.

Cynhelir y gynhadledd yng Nghanolfan Medrus (Penbryn) ar gampws Penglais Prifysgol Aberystwyth a bydd yr anerchiad agoriadol yn dechrau am 10:00 y bore, ddydd Iau 21 Medi 2017.

Mae’r gynhadledd yn rhad ac am ddim i bawb fynychu (cinio wedi’i gynnwys) ac fe’i noddir yn hael gan Rwydwaith Ymchwil Iaith, Diwylliant a Hunaniaeth, Sefydliad Ymchwil, Data a Dulliau Cymdeithasol ac Economaidd Cymru a Phrifysgol Aberystwyth.

Dolenni: Polisïau Iaith yn y DU Wedi Ymadael â’r Undeb Ewropeaidd 2017: Dylanwad datganoli

https://sites.google.com/view/uklpab/2017

Canolfan Gwleidyddiaeth a Chymdeithas Cymru WISERD@Aberystwyth

http://cwps.aber.ac.uk/cy/

Sefydliad Ymchwil Gymdeithasol ac Economaidd, Data a Dulliau Cymru
http://www.wiserd.ac.uk/