Lansio MA newydd mewn Gwleidyddiaeth a Chymdeithas Cymru

Gyda Brexit yn hawlio’r sylw yn ystod cyfnod cynnar ymgyrchu etholiad cyffredinol San Steffan, mae Prifysgol Aberystwyth yn lansio gradd MA newydd fydd yn ystyried gwleidyddiaeth a chymdeithas Cymru gyfoes ar heriau wedi i Brydain adael yr Undeb Ewropeaidd.

Cafodd yr MA mewn Gwleidyddiaeth a Chymdeithas Cymru ei lansio heddiw (ddydd Gwener 5 Mai 2017) gan Ganolfan Gwleidyddiaeth a Chymdeithas Cymru a bydd yn croesawu’i myfyrwyr cyntaf ym mis Medi 2017.

Nod y radd MA newydd, sydd yn gwrs blwyddyn, yw hyrwyddo dealltwriaeth gadarn am gyd-destun hanesyddol, diwylliannol, economaidd-gymdeithasol a gwleidyddol Cymru gyfoes.

Mae pwyslais cryf hefyd ar gyflogadwyedd gyda chyfle gwerthfawr i ennill profiad gwaith yn y modiwlau a gynigir ar y cynllun.

Cydlynydd y cynllun yw Dr Elin Royles, sy’n uwch-ddarlithydd yn yr Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol ac un o sylfaenwyr Canolfan Gwleidyddiaeth a Chymdeithas Cymru ym Mhrifysgol Aberystwyth.

“Mae’n gwrs sydd yn anelu at feithrin graddedigion sy’n deall Cymru gyfoes o safbwynt amlddisgyblaethol sydd mor bwysig wrth i ddatganoli i Gymru ddyfnhau yn bellach ac wrth i ni wynebu’r newidiadau sylweddol a ddaw yn sgil Brexit.”

“Nodwedd arbennig y cwrs felly yw y bydd modiwlau ar draws tair adran uchel eu parch yn bwydo i’r rhaglen: Adran Ddaearyddiaeth a Gwyddorau Daear, Adran Hanes a Hanes Cymru ac Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol y Brifysgol.

“Gall y cwrs roi sail arbennig i’r rheiny sydd â diddordeb mewn dilyn gyrfaoedd yn gysylltiedig â gwleidyddiaeth a pholisi yng Nghymru a’r tu hwnt gan hefyd fod yn fan dechrau i astudio ar gyfer PhD.”

Dywedodd yr Athro Mike Woods, Cyd-Gyfarwyddwr Canolfan Gwleidyddiaeth a Chymdeithas Cymru: “Mae’r cynllun yn rhan ganolog o waith y Ganolfan ac rydym yn ymfalchïo y bydd yn galluogi myfyrwyr uwchraddedig i astudio mewn canolfan ymchwil sy’n arwain yn rhyngwladol ar faterion gwleidyddol, cymdeithasol ac economaidd sy’n berthnasol i Gymru.”

Cafodd Canolfan Gwleidyddiaeth a Chymdeithas Cymru ei lansio yn Ionawr 2017 ac mae’n adeiladu ar lwyddiant Sefydliad Gwleidyddiaeth Cymru yn yr Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol.

Mae’n dwyn ynghyd ddaearyddwyr, gwyddonwyr gwleidyddol, seicolegwyr a haneswyr o Athrofa Daearyddiaeth, Hanes, Gwleidyddiaeth a Seicoleg, yn ogystal â gwyddonwyr cymdeithasol o adrannau perthnasol sydd â diddordeb yng Nghymru.

Mae’r ganolfan hefyd yn chwarae rôl allweddol fel cangen Aberystwyth o Sefydliad Ymchwil Gymdeithasol ac Economaidd, Data a Dulliau Cymru (WISERD).