Hyrwyddo Ieithoedd Lleiafrifol: Cloriannu Gwaith Llywodraethau Rhanbarthol

Fel rhan o ddathliadau nodi 20 mlynedd o ddatganoli, bydd Canolfan Gwleidyddiaeth a Chymdeithas Cymru, Prifysgol Aberystwyth mewn partneriaeth â’r Cynulliad Cenedlaethol yn cyflwyno sesiwn ar ‘Hyrwyddo Ieithoedd Lleiafrifol: Cloriannu Gwaith Llywodraethau Rhanbarthol’, ddydd Sadwrn 28 Medi 2019 rhwng 11.00 a 12.30pm. Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi cynnal nifer o ddigwyddiadau i ddathlu a thrafod…

Polisi Gwledig yng Nghymru ar ôl Brecsit

Mae’n bleser cyhoeddi gopi o’n hadroddiad,‘Ar Ôl Brecsit: 10 Cwestiwn Allweddol on ran Polisi Gwledig yng Nghymru’, a gynhyrchwyd gan y Ganolfan Gwleidyddiaeth a Chymdeithas Cymru / WISERD ym Mhrifysgol Aberystwyth a’r Ganolfan am Economi Wledig ym Mhrifysgol Newcastle. Mae’r adroddiad yn seiliedig ar weithdy gydag arbenigwyr academaidd ar bolisi gwledig, datblygu gwledig ac amaethyddiaeth…

Dinasyddiaeth yng nghysgod Brexit

  Wrth i’r dadlau gwleidyddol o amgylch ymadawiad y DU â’r Undeb Ewropeaidd barhau, mi fydd Darlith Flynyddol Canolfan Gwleidyddiaeth a Chymdeithas Cymru yn trafod dinasyddiaeth yng nghyfnod Brexit. ‘Citizenship, ‘Race’ and Class: Hannah Arendt and Raymond Williams in the age of Brexit’ fydd pwnc yr Athro Daniel G Williams, Cyfarwyddwr Canolfan Astudiaethau Cymreig Richard…

Adroddiad Briffio Gwerthuso, Effaith a Chanlyniadau: Beth mae’n ei olygu i ni?

Rydym wedi cyhoeddi adroddiad briffio ar ‘Werthuso Effaith a Chanlyniadau: Beth mae’n ei olygu i ni?’ sy’n adrodd ar drafodaethau gweithdai a drefnwyd ar y cyd gan Ganolfan Ymchwil Cymdeithas Sifil y Sefydliad Ymchwil Gymdeithasol ac Economaidd, Data a Dulliau Cymru (WISERD) sy’n cael ei hariannu gan yr ESRC, a Chyngor Gwasanaethau Ieuenctid Gwirfoddol Cymru (CWVYS).…

Ail-hysbysebiad Cyfleoedd Cyllido PhD i Ddechreuwyr yn 2018/19

https://www.aber.ac.uk/cy/interpol/study-with-us/postgraduate/phd/funding/manylionpellach-ysgoloriaethymchwilgydweithredolprosiectpenodol/  Ysgoloriaeth Ymchwil DTP Cymru yr ESRC Mae Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol Prifysgol Aberystwyth, gyda chefnogaeth Partneriaeth Hyfforddiant Doethurol Cymru yr ESRC (DTP Cymru), yn gwahodd ceisiadau am y canlynol: Ysgoloriaeth Ymchwil DTP Cymru yr ESRC Bwriad yr ysgoloriaeth yw cefnogi ymchwil a fydd yn datblygu astudiaeth gymharol o ymdrechion gan lywodraethau is-wladwriaethol i hyrwyddo integreiddio polisi,…

Creu Senedd i Gymru – Cyfle i ddweud eich dweud fel rhan o’n hymgynghoriad Diwygio Etholiadol

Fel rhan o ymgynghoriad Comisiwn y Cynulliad ar ddiwygio etholiadol, caiff tri digwyddiad eu cynnal ledled Cymru ym mis Mawrth er mwyn codi ymwybyddiaeth o’r ymgynghoriad a rhoi’r cyd-destun i waith y Panel Arbenigol ar Ddiwygio Etholiadol. Trefnwyd y digwyddiadau gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru mewn partneriaeth â Sefydliad Ymchwil, Data a Methodoleg Gymdeithasol ac Economaidd…

Cyfleoedd Cyllido PhD i Ddechreuwyr yn 2018/19

https://www.aber.ac.uk/cy/interpol/study-with-us/postgraduate/phd/funding/ Ysgoloriaeth Ymchwil DTP Cymru yr ESRC Mae Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol Prifysgol Aberystwyth, gyda chefnogaeth Partneriaeth Hyfforddiant Doethurol Cymru yr ESRC (DTP Cymru), yn gwahodd ceisiadau am y canlynol: Ysgoloriaeth Ymchwil DTP Cymru yr ESRC Caiff ymgeiswyr y cyfle i sicrhau ysgoloriaeth ymchwil DTP yr ESRC wedi’i chyllido’n llawn i ddechrau ym mis Hydref 2017.…

Derbyniad yng Nghaerdydd i Ganolfan Gwleidyddiaeth a Chymdeithas Cymru / WISERD@Aberystwyth

Bydd canolfan ymchwil newydd Prifysgol Aberystwyth sy’n ymroddedig i ddatblygu gwell dealltwriaeth o wleidyddiaeth gyfoes a chymdeithas yng Nghymru yn cwblhau ei blwyddyn lansio gyda derbyniad ym Mae Caerdydd ddydd Iau 14 Rhagfyr. Mae Canolfan Gwleidyddiaeth a Chymdeithas Cymru / WISERD@Aberystwyth (CWPS) yn dwyn ynghyd ddaearyddwyr, haneswyr modern, gwyddonwyr gwleidyddol a seicolegwyr i fynd i’r afael â…

Gwobr Cyflawniad Arbennig i academydd o Aberystwyth

Mae academydd blaenllaw o Gymru sydd yn gweithio ym maes gwleidyddiaeth iechyd byd wedi derbyn cydnabyddiaeth am gyfraniad oes i ymchwil gwyddor gymdeithasol yng Nghymru. Cyflwynwyd Gwobr Cyflawniad Arbennig i’r Athro Colin McInnes, Athro UNESCO Addysg a Diogelwch Iechyd HIV/AIDS yn Affrica ym Mhrifysgol Aberystwyth, yng Ngwobrau Ymchwil Cymdeithasol Cymru 2017 gafodd eu cynnal yn…