Gweithdy Adfywio – Eisteddfod Genedlaethol 2017

Gweithdy ‘gofod agored’ i drafod dulliau o hybu’r Gymraeg

11.30-1.30, Mercher, 9 Awst 2017, Uned Prifysgol Aberystwyth, Maes Eisteddfod Genedlaethol Ynys Môn

Beth?

Yn dilyn cyhoeddi strategaeth iaith newydd Llywodraeth Cymru, Cymraeg 2050, bwriad y digwyddiad agored hwn, wedi ei drefnu ar sail arferion BarCamp, yw rhoi cyfle i unigolion sy’n arwain prosiectau ymarferol neu brosiectau ymchwil sy’n ymwneud â hybu rhagolygon yr iaith Gymraeg gyflwyno eu gwaith er mwyn rhannu gwybodaeth a derbyn adborth.

Trefn?

Gan bod hwn yn ddigwyddiad agored, nid oes rhaglen wedi’i threfnu o flaen llaw! Mae croeso i unrhyw un fynychu a chynnig cyflwyniad ar bwnc o’u dewis, cyhyd â’i fod yn trafod prosiect ymarferol neu brosiect ymchwil sy’n ymwneud â hyrwyddo’r Gymraeg. Bydd cyfres o slotiau 30 munud yr un (wedi’u rhannu’n fras i tua 15 munud o gyflwyno a 15 munud o drafod) ar gael rhwng 11.30 a 1.30 a bydd modd i unrhyw un sydd am wneud cyflwyniad hawlio slot i’w hunain.  Byddwn hefyd yn darparu cinio i fynychwyr yn ystod y gweithdy.

Sut i gymryd rhan?

Mae croeso i unrhyw un sydd â diddordeb fynychu, ond mae angen bod yn barod i gyfrannu mewn rhyw fodd. Gellir cyfrannu naill ai trwy roi cyflwyniad yn ystod un o’r slotiau, neu trwy ddod yn barod i drafod ac i holi cwestiynau. Os am wneud cyflwyniad, rydym yn gyfraniadau byr a bachog  sy’n cyflwyno’r prosiect, yn codi cwestiynau ac yn sbarduno trafodaeth. Er mwyn trefnu slot ar gyfer cyflwyniad, gellir naill ai cysylltu o flaen llaw trwy e-bostio hhl@aber.ac.uk, neu gellir nodi’r manylion perthnasol ar yr amserlen a fydd ar gael ar uned Prifysgol Aberystwyth o 9.30 ar fore Mercher 9 Awst.

Cofrestru

Mae’n bwysig bod pawb sy’n bwriadu mynychu’r digwyddiad – boed er mwyn cyflwyno neu drafod – yn cofrestru o flaen llaw. Bydd hyn yn caniatau i ni drefnu bod digon o seddi a byrddau ar gael i bawb ar y diwrnod, a hefyd sicrhau bod digon o fwyd ar gael i bawb dros amser cinio! Gellir cofrestru trwy e-bostio hhl@aber.ac.uk.

Cwestiynau pellach?

Os oes gennych unrhyw gwestiynau pellach ynglŷn â’r digwyddiad hwn, cysylltwch a Huw Lewis (hhl@aber.ac.uk) neu Elin Royles (ear@aber.ac.uk).