ESRC – Gŵyl Gwyddoniaeth Gymdeithasol Digwyddiad i Ysgolion: Dychmygu Dyfodol Amgen ar gyfer Canolbarth Cymru

ESRC – Gŵyl Gwyddoniaeth Gymdeithasol Digwyddiad i Ysgolion: Dychmygu Dyfodol Amgen ar gyfer Canolbarth Cymru

Dyddiad: Dydd Iau 9fed o Dachwedd 2017

Amser: 10y.b – 2y.p

Lleoliad – Medrus Mawr, Penbryn, Campws Penglais, Prifysgol Aberystwyth.

Bydd y digwyddiad rhyngweithiol hwn yn galluogi pobl ifanc i ddadansoddi data a gwybodaeth ynghylch yr heriau amrwyiol sy’n wynebu Canolbarth Cymru. Bydd hefyd yn eu hannog i lunio atebion i’r heriau hyn, fel ffordd o ddychmygu dyfodol amgen a chynaliadwy ar gyfer y rhanbarth. Mae’r digwyddiad wedi’i anelu at fyfyrwyr 16-18 oed (chweched dosbarth), a bydd yn helpu i ddatblygu sgiliau ymchwilio y myfyrwyr, rhai a fydd o fudd mewn sawl cyd-destun: Bagloriaeth Cymru, yn enwedig yr Ymchwiliad Unigol a chydran ‘Cymru, Ewrop a’r Byd’; Safon Uwch Daearyddiaeth, yn enwedig mewn perthynas ag AS Uned 2 ar ‘Lleoedd Newidiol’ ac fel ffordd o lunio cwestiynau ar gyfer yr Ymchwiliad Annibynnol; Safon Uwch Economeg, yn enwedig Uned A2 ar ‘Gwerthuso Modelau a Pholisïau Economaidd’; Safon Uwch Astudiaethau Busnes, yn bennaf mewn perthynas ag A2 Uned 4 ar ‘Busnes mewn Byd sy’n Newid’; Safon Uwch Llywodraeth a Gwleidyddiaeth, yn enwedig Unedau AS 1 a 2.

Os oes gennych ddiddordeb mewn mynychu’r digwyddiad hwn, cysylltwch â: Mrs Anwen McConochie

E-bost: anm69@aber.ac.uk

Yn ogystal â’r digwyddiad hwn yn ystod y dydd, bydd trafodaeth gyhoeddus gyda’r nos, unwaith eto yn Medrus Mawr, Penbryn, Campws Penglais, Prifysgol Aberystwyth:

19:00 Derbyniad;

19:30 Cychwyn – cyflwyniadau gan siaradwyr gwâdd a thrafodaeth;

21:00 Terfyn.

Cofiwch gysylltu os ydych eisiau mwy o fanylion