Rhoddodd yr Athro Michael Woods dystiolaeth lafar i Bwyllgor Materion Cymreig Tŷ’r Cyffredin ddechrau Rhagfyr ar eu hymchwiliad ar Effaith Newid Poblogaeth yng Nghymru. Cyflwynodd ganfyddiadau’r Arolwg o Bobl Ifanc yng nghefn gwlad Cymru. Gallwch wrando ar recordiad sain o’r cyflwyniad ar y chwaraewr cyfryngau hwn: Darllenwch adroddiad yr arolwg yma Arolwg Ieuenctid Cymru Wledig…
CWPS i arwain prosiect newydd mawr i gefnogi datblygiad cynaliadwy cynhwysol yng Nghymru Wledig
Mae tîm dan arweiniad Cyd-gyfarwyddwr CWPS Michael Woods wedi derbyn dros £5m gan UKRI i sefydlu Cymru Wledig LPIP Rural Wales, y Bartneriaeth Polisi ac Arloesi Lleol ar gyfer Cymru Wledig. Mae’r bartneriaeth yn cynnwys aelodau CWPS Lowri Cunnington Wynn a Rhys Jones yn ogystal ag ymchwilwyr ym mhrifysgolion Aberystwyth, Bangor, Caerdydd a Swydd Gaerloyw…
WISERD yn cyflwyno ymchwil cymdeithas sifil i lunwyr polisïau ym Mrwsel
Ar 25 Ionawr, cynhaliwyd gweithdy gan Sefydliad Ymchwil Cymdeithasol ac Economaidd a Data Cymru (WISERD) ac Addysg Uwch Cymru Brwsel (WHEB) ar gyfer llunwyr polisïau ym Mrwsel, ac fe gyflwynwyd achos dros roi ymchwil cymdeithas sifil wrth wraidd cynlluniau ar gyfer yr Undeb Ewropeaidd. Yn ddiweddarach eleni, bydd aelodau’r Cyngor Ewropeaidd yn cyfarfod i gytuno ar Agenda…
Ymateb arweinydd Plaid Cymru i Adroddiad y Comisiwn Cyfansoddiadol
Bydd arweinydd Plaid Cymru yn rhoi ei ymateb i adroddiad y Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru mewn digwyddiad a drefnir gan Brifysgol Aberystwyth ar ddiwedd y mis. Cynhelir Ar ôl y Comisiwn Cyfansoddiadol – Mapio’r Ffordd i Annibyniaeth Cymru am 6.30yh ddydd Mercher 31 Ionawr yng Nghanolfan Gelfyddydau’r Eglwys Norwyaidd ym Mae Caerdydd. Trefnir gan Ganolfan…
🎁 Croeso i gylchlythyr mis Rhagfyr CWPS
Rydym yn falch o gyflwyno ein cylchlythyr cyn dathliadau’r ŵyl! Mae’r cylchlythyr yn cynnwys fideos, digwyddiadau ac uchafbwyntiau o’n hymchwil ar bolisi iaith, strategaethau plaid ymwahanol, a’r berthynas gymhleth rhwng yr economi a’r iaith yng Nghymru. Anfonwyd y cylchlythyr hwn at ein rhestr bostio yn y lle cyntaf. I gael ein diweddariadau mae croeso i…
Adroddiad | Goblygiadau fframwaith cyfreithiol newydd i amddiffyn hawliau lleiafrifol
Y llynedd, 30 mlynedd ers i’r Cenhedloedd Unedig wneud datganiad ar Hawliau Personau sy’n Perthyn i Leiafrifoedd Cenedlaethol neu Ethnig, Crefyddol ac Ieithyddol,galwodd y Rapporteur Arbennig ar Hawliau Lleiafrifol, Fernand de Varennes, am gytundeb newydd i gydnabod a diogelu hawliau lleiafrifoedd yn well. Ar ran Sefydliad Coppieters, mae Dr Anwen Elias wedi ysgrifennu adroddiad sy’n ystyried…
Mae’r Gymraeg yn cael ei defnyddio i annog ymfudwyr i deimlo’n gartrefol
Llywodraeth y Deyrnas Gyfunol yn unig sydd â’r grym i benderfynu pwy all gael mynediad i’r wlad, a hi sy’n gyfrifol am lunio polisïau mudo a lloches. Ond mae gan lywodraethau datganoledig y gallu i ddefnyddio’u grymoedd hwy mewn meysydd fel tai, addysg, iechyd a gwasanaethau cymdeithasol er mwyn dylanwadu ar natur y cymorth a gynigir i…
‘Galw am annibyniaeth’: ymchwil newydd yn esbonio strategaeth pleidiau o blaid annibyniaeth
Mae ymchwil newydd yn dadlau bod Plaid Cymru wedi gwneud ei galwadau am annibyniaeth i Gymru yn llai amlwg er mwyn er mwyn blaenoriaethu ceisio sicrhau pleidleisiau rhwng 2003 a 2015, ac wedi gwneud eu galwad am annibyniaeth yn fwy blaenllaw ar ôl 2019, gydag arweinyddiaeth newydd y blaid yn sbarduno hyn yng nghyd-destun y…
Deall y berthynas rhwng yr economi a’r Gymraeg yng Nghymru
Mae blog newydd sydd wedi’i gyhoeddi yn trafod amcanion Rhaglen ARFOR, sy’n ceisio deall y berthynas rhwng yr economi a’r Gymraeg yng Nghymru. Yn y blog hwn, mae Dr Huw Lewis yn tynnu sylw at yr angen am ddiffiniad cliriach o sut mae ffactorau economaidd ac ieithyddol yn rhyngweithio ac yn dylanwadu ar ei gilydd. …
Galw am Luniau o Annibyniaeth gan Ffotograffwyr Ardal Caernarfon
Mae ymchwilwyr yn chwilio am bobl o ardal Caernarfon sy’n mwynhau ffotograffiaeth i dynnu lluniau yn adlewyrchu sut maen nhw’n meddwl ac yn teimlo am annibynniaeth. Bydd gofyn i’r ffotograffwyr dynnu pedwar o luniau ac yna mynychu sesiwn yn Y Galeri yng Nghaernarfon ar ddydd Sadwrn 30 Medi i drafod sut a pham wnaethon nhw…