Aelodau Seneddol yn clywed am ymchwil CWPS ar ieuenctid yn mudo o gefn gwlad

Professor Michael Woods speaking about research on youth migration from Rural Wales

Rhoddodd yr Athro Michael Woods dystiolaeth lafar i Bwyllgor Materion Cymreig Tŷ’r Cyffredin ddechrau Rhagfyr ar eu hymchwiliad ar Effaith Newid Poblogaeth yng Nghymru. Cyflwynodd ganfyddiadau’r Arolwg o Bobl Ifanc yng nghefn gwlad Cymru.

Gallwch wrando ar recordiad sain o’r cyflwyniad ar y chwaraewr cyfryngau hwn:

Darllenwch adroddiad yr arolwg yma

Arolwg Ieuenctid Cymru Wledig

Adroddiad ar arolwg o bobl ifanc yng Nghymru Wledig a gynhaliwyd gan CWPS gyda CLlLC yn y prosiect ROBUST, haf 2021.