Canolfan Wleidyddiaeth A Chymdeithas Cymru

Amdanom ni

Canolfan ymchwil ryngddisgyblaethol ym Mhrifysgol Aberystwyth yw Canolfan Wleidyddiaeth a Chymdeithas Cymru, gyda’r nod o ddatblygu ein dealltwriaeth o wleidyddiaeth a chymdeithas gyfoes yng Nghymru yng nghyd-destun byd cydgysylltiedig, gan gefnogi a chyflawni gwaith ymchwil o safon fyd-eang yn y gwyddorau cymdeithasol, a chyfrannu at wybodaeth gyhoeddus a dadleuon a datblygiad polisi yng Nghymru.

Mae’r Ganolfan yn adeiladu ar enw da Sefydliad Gwleidyddiaeth Cymru a Sefydliad Ymchwil, Data a Methodoleg Gymdeithasol ac Economaidd Cymru (WISERD) ym Mhrifysgol Aberystwyth, ac yn dwyn ynghyd ddaearyddwyr, gwyddonwyr gwleidyddol, seicolegwyr a haneswyr o’r Athrofa Daearyddiaeth, Hanes, Gwleidyddiaeth a Seicoleg yn ogystal â gwyddonwyr cymdeithasol o adrannau cysylltiedig sy’n ymddiddori yng Nghymru.

Mae Canolfan Gwleidyddiaeth a Chymdeithas Cymru hefyd yn gweithredu fel cangen Aberystwyth o WISERD, gan ddarparu cysylltiadau â gwyddonwyr cymdeithasol ym mhrifysgolion Bangor, Caerdydd, De Cymru ac Abertawe



Arhoswch ar flaen y gad o ran ymchwil yng Nghymru a thu hwnt drwy ymuno â’n rhestr bostio. Gallwch dderbyn cyfathrebiadau rheolaidd, gan gynnwys newyddion a digwyddiadau am wleidyddiaeth a chymdeithas Cymru.