Cyfarchion y tymor a phob hwyl ichi dros y gwyliau gan dîm CWPS-WISERD!
Mae ein hacademyddion wedi bod yn gweithio’n brysur trwy gydol y tymor newydd ac mae’n bleser gennym allu rhannu ein newyddlen gyda chi. Mae’n llawn anrhegion difyr ar drothwy’r gwyliau, gan gynnwys adroddiad CWPS ar gyfer 2021, digwyddiadau sydd ar y gweill, newyddion a dolenni i bapurau a gyhoeddwyd.
Digwyddiadau
Encil Ysgrifennu Rhithwir i Ymchwilwyr Ôl-raddedig/Dechrau Gyrfa
9-13 Ionawr 2023
Mae’r digwyddiad hwn yn gyfle i ymchwilwyr ôl-raddedig ac ymchwilwyr sydd ar ddechrau eu gyrfa sy’n astudio Cymru (ar ystyr eang – mae croeso i bob disgyblaeth) gael amser pwrpasol i ysgrifennu – ynghyd â llond gwlad o gefnogaeth ac adnoddau i’ch sbarduno!
![](https://cwps.aber.ac.uk/wp-content/uploads/sites/13/2022/12/CWPS-ECR-PGR-graphic-1024x576.jpg)
Adroddiad CWPS 2021
Nod yr Adroddiad Blynyddol yw rhoi blas ichi ar weithgareddau’r Ganolfan yn ystod 2021. Mae’n cynnwys dolenni i bapurau a gyhoeddwyd, recordiadau o seminarau a’r wybodaeth ddiweddaraf am ein hymchwil.
Paned Ymchwil
Dr Amy Sanders wedi creu cyfres o fideos byr ar gyfer ymarferwyr sy’n rhannu ei hymchwil ynglŷn â’r berthynas rhwng y sector gwirfoddol a Llywodraeth Cymru, a phob fideo yr un hyd â phaned. Gallwch eu gwylio i gyd yma.
![](https://cwps.aber.ac.uk/wp-content/uploads/sites/13/2022/12/Screenshot-2022-12-12-at-15.32.19-1024x549.png)
Papurau a gyhoeddwyd
Woods, M. (2022) Refugees, race and the limits of rural cosmopolitanism: Perspectives from Ireland and Wales, Journal of Rural Studies, Cyfrol 95, Hydref 2022 tt 316-325. (Mynediad agored)
![](https://cwps.aber.ac.uk/wp-content/uploads/sites/13/2022/12/Journal-of-Rural-Studies.jpg)
Llongyfarchiadau
Llongyfarchiadau i Dr Anwen Elias ar gael ei phenodi’n Gymrawd y Sefydliad Materion Cymreig.
Mae angen llongyfarch Dr Amy Sanders ddwywaith am ennill Gwobr Goffa Campbell Adamson am y Papur Gorau yng Nghynhadledd Flynyddol y Sector Gwirfoddol ac Ymchwil Wirfoddol a hefyd am fod ymhlith y rhai a dderbyniodd Wobr Goffa Audrey Jones am ei hymchwil PhD.
![](https://cwps.aber.ac.uk/wp-content/uploads/sites/13/2022/12/dr-anwen-elias-600-x-400-e1671189228155.jpg)
![](https://cwps.aber.ac.uk/wp-content/uploads/sites/13/2022/12/Screenshot-2022-12-13-at-10.21.28.png)
Newyddion
Sefyllfaoedd IMAJINE yn cael eu cyflwyno mewn Cynhadledd ar Bolisi Cydlyniant yr UE. Darllenwch y stori lawn yma.
Trafod cryfhau democratiaeth yng Nghymru mewn cynhadledd am y cyfryngau. Darllenwch y stori lawn yma.
Penodau newydd i academydd CWPS-WISERD ar bolisi a chynllunio iaith. Darllenwch y stori lawn yma.
Digwyddiad Panel a rhwydweithio – Reimagining Welshness: New & Emerging Research. Darllenwch y stori lawn yma.
Papur newydd yn amlygu effaith trawsnewid diwydiannol mewn ardaloedd gwledig. Darllenwch y stori lawn yma.
Papur newydd ar ffoaduriaid, hil a chyfyngiadau cosmopolitaniaeth wledig yng Nghymru ac Iwerddon. Darllenwch y stori lawn yma.
![](https://cwps.aber.ac.uk/wp-content/uploads/sites/13/2022/11/AE-IWA-article-social-media-2537391-1-1024x456.jpg)
![](https://cwps.aber.ac.uk/wp-content/uploads/sites/13/2022/11/FoR-FB-post-navy.png)
![](https://cwps.aber.ac.uk/wp-content/uploads/sites/13/2022/12/Cohesion-Policy-Conference-768x1024.jpeg)
Ymunwch â’n rhestr bostio i dderbyn negeseuon rheolaidd gan GRRaIN, gan gynnwys digwyddiadau, newyddion a’r e-gylchlythyr.
Cysylltwch â ni
Anfonir y newyddlen nesaf atoch fis Mawrth. Os hoffech ragor o wybodaeth am yr eitemau a drafodir yn ein newyddlen, ebostiwch ni ar CWPS@aber.ac.uk neu anfonwch neges drydar atom ar @CWPSAber.