Penodi academydd o Brifysgol Aberystwyth i Fwrdd Cyfoeth Naturiol Cymru

Mae’r Athro Rhys Jones o Brifysgol Aberystwyth wedi’i benodi i fwrdd Cyfoeth Naturiol Cymru gan y Gweinidog Newid Hinsawdd.

Cyfoeth Naturiol Cymru yw’r corff statudol sydd â chyfrifoldeb am reoli adnoddau naturiol Cymru yn gynaliadwy. Cyfrifoldeb y Bwrdd yw sefydlu gweledigaeth, cyfeiriad strategol a goruchwylio gwaith y corff.

Mae Rhys Jones FLSW FAcSS yn Athro Daearyddiaeth Ddynol yn Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear ym Mhrifysgol Aberystwyth. Wrth siarad am ei benodiad, dywedodd:

“Mae’n fraint cael fy mhenodi gan y Gweinidog i fwrdd corff mor bwysig i’n hamgylchedd. Wrth i ni fel cymdeithas wynebu’r heriau cynyddol amlwg a ddaw gyda newid hinsawdd a llygredd, mae rôl Cyfoeth Naturiol Cymru yn cael ei chydnabod yn eang fel un allweddol. Rwy’n edrych ymlaen at gyfrannu at waith y corff, sy’n hanfodol i gymunedau ar hyd a lled y wlad, ac yn wir, y blaned yn ei chyfanrwydd.”

Cafodd yr Athro Jones ei ethol yn Gymrawd Academi’r Gwyddorau Cymdeithasol yn gynharach eleni.

Ymddangosodd y newyddion hwn yn wreiddiol ar wefan Prifysgol Aberystwyth.


Cysylltiadau

Colin Nosworthy, Cyfathrebu a Materion Cyhoeddus, Prifysgol Aberystwyth  
ctn1@aber.ac.uk