Encil Ysgrifennu Rhithwir i Ymchwilwyr Ôl-raddedig/Dechrau Gyrfa

Mae Canolfan Gwleidyddiaeth a Chymdeithas Cymru / WISERD@ Aberystwyth yn falch iawn o gyhoeddi ein Hencil Ysgrifennu Rhithwir cyntaf ar gyfer ymchwilwyr ôl-raddedig ac ymchwilwyr sydd ar ddechrau eu gyrfa.

Mae’r digwyddiad hwn yn rhoi cyfle i ymchwilwyr ôl-raddedig ac ymchwilwyr sydd ar ddechrau eu gyrfa sy’n astudio Cymru (diffiniad eang – mae croeso i bob disgyblaeth) gael rhywfaint o amser pwrpasol i ysgrifennu – gyda llond gwlad o gefnogaeth ac adnoddau i’ch sbarduno!

Mae’r encil yn rhad ac am ddim, a chaiff ei gynnal ar Zoom o 9 i 13 Ionawr 2023. Bydd yn para o 9am tan 5pm bob dydd, ac yn cynnwys cyfuniad o’r gweithgareddau canlynol:

  • Gweithdai ysgrifennu byr (i helpu i hybu ein creadigrwydd)
  • Sesiynau ysgrifennu chwim (i annog atebolrwydd a chael geiriau ar bapur)
  • Sesiynau datrys problemau (fel y gallwn helpu ein gilydd â’r darnau anodd hynny)
  • Ac, wrth gwrs, digon o seibiant ac amser i sgwrsio!

Darperir amserlen lawn ar gyfer pob diwrnod, felly mae croeso i chi gofrestru a galw heibio pan allwch chi, hyd yn oed os na allwch ymuno am y pum diwrnod ar eu hyd.

Os yw hyn yn swnio fel rhywbeth a fyddai’n ddefnyddiol i chi, gallwch gofrestru yma: https://forms.gle/fKijJ9vZNpukfk4s8.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu os hoffech ragor o wybodaeth, cysylltwch â Flossie Kingsbury ar fck@aber.ac.uk.

Date

Ion 09 - 13 2023
Expired!

Time

9:00 am - 5:00 pm

More Info

Register here
Register here

0 thoughts on “Encil Ysgrifennu Rhithwir i Ymchwilwyr Ôl-raddedig/Dechrau Gyrfa