Papur newydd yn amlygu effaith trawsnewid diwydiannol mewn ardaloedd gwledig

Mae papur newydd yn y Journal of Rural Studies yn adrodd ar ymchwil o brosiect Global-Rural yr ERC a arweiniwyd gan CWPS-WISERD i archwilio trawsnewidiad diwydiannol pentref yn nwyrain Tsieina yng nghyd-destun globaleiddio.

Cyd-awduron y papur yw Cyd-Gyfarwyddwr CWPS-WISERD, yr Athro Michael Woods, ynghyd â chyn-ôl-ddoethur CWPS-WISERD, Dr Francesa Fois (sydd bellach ym Mhrifysgol Salford), yr Athro Hualou Long o’r Academi Gwyddorau Tsieineaidd, a Dr Yongqiang Liu a Dr Lin Dai o Brifysgol Ningbo. Mae’r papur yn datgelu mecanweithiau mewnol y trawsnewidiad ym mhentref Tengtou.

Mae’n dangos sut mae globaleiddio yn Tsieina wedi newid siâp economaidd-gymdeithasol a gofodol pentrefi yn sylweddol wrth i ddiwydiannau newydd sy’n canolbwyntio ar allforio ddatblygu. Yn achos Tengtou, digwyddodd hyn yn sgil ffatri ddillad sy’n cyflenwi manwerthwyr yn y gorllewin fel Marks and Spencer. 

Mae’r ymchwil yn dangos sut mae trawsnewidiad diwydiannol Tengtou wedi amrywio’r economi leol ac adfywio’r gymuned, yn cynnwys moderneiddio tai a gwasanaethau cyhoeddus. Mae’r papur yn cyflwyno goblygiadau ehangach ar gyfer ailstrwythuro gwledig yn Tsieina.Gellir gweld y papur yn: https://www.sciencedirect.com/science/article/pii/S0743016722002170?dgcid=coauthor


Cysylltiadau

Yr Athro Michael Woods zzp@aber.ac.uk

Dr. Francesca Fois f.fois@salford.ac.uk

Academi Gwyddorau Tsieineaidd cas_en@cas.cn

Canolfan Gwleidyddiaeth a Chymdeithas Cymru (CWPS) cwps@aber.ac.uk

Sefydliad Ymchwil Cymdeithasol ac Economaidd a Data Cymru (WISERD) WISERD@cardiff.ac.uk