Bydd y bygythiadau sy’n wynebu ieithoedd rhanbarthol neu leiafrifol dan y chwyddwydr mewn cynhadledd ryngwladol sydd i’w chynnal ym Mhrifysgol Aberystwyth ym mis Gorffennaf. Bydd y digwyddiad yn denu academyddion ac ymarferwyr o bob rhan o Ewrop sy’n arbenigwyr ar y Gymraeg a thros deg o ieithoedd rhanbarthol a lleiafrifol eraill. Ystyriaeth allweddol i’r gynhadledd…
Defnyddio collage fel dull creadigol ar gyfer deialog
Mae Canolfan Ddeialog Prifysgol Aberystwyth a Chanolfan Gwleidyddiaeth a Chymdeithas Cymru (CWPS) wedi lansio pecyn cymorth unigryw yn dangos sut y gall gwneud collage helpu pobl i drafod materion pwysig yn fwriadol. Mae Deialog Mewn Collage: Dull Creadigol at Greu Sgyrsiau Cydystyried yn cynnig canllaw cam wrth gam ar gyfer cynnal gweithdy dwy awr lle mae gwneud collage yn cael ei…
Cyn-Brif Weinidog i drafod dyfodol cyfansoddiadol Cymru
Bydd cyn-Brif Weinidog Cymru yn trafod dyfodol cyfansoddiadol Cymru mewn sgwrs ym Mhrifysgol Aberystwyth yn ddiweddarach y mis hwn. Bydd Dr Anwen Elias a’r Gwir Anrhydeddus Carwyn Jones yn ystyried gwaith y Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru a’r argymhellion a nodir yn ei adroddiad terfynol. Bydd y sgwrs rhwng y ddau arbenigwr yn craffu…
Darlith gyhoeddus ar ddyfodol y Deyrnas Unedig
Fydd y Deyrnas Unedig yn goroesi?” yw’r pwnc llosg gwleidyddol a fydd yn destun darlith gyhoeddus ym Mhrifysgol Aberystwyth. Traddodir ‘Fractured Union’ gan yr Athro Michael Kenny, arbenigwr ar gyfansoddiad y DU, hunaniaeth genedlaethol a gwleidyddiaeth diriogaethol. Cynhelir y ddarlith gan Ganolfan Gwleidyddiaeth a Chymdeithas Cymru Prifysgol Aberystwyth, yn rhan o gyfres newydd o ddigwyddiadau…
Cyhoeddiad newydd ar effeithiolrwydd y bartneriaeth rhwng y trydydd sector a’r llywodraeth yng Nghymru
Mae Dr. Amy Sanders wedi cyhoeddi’r papur: ‘A Welsh Innovation in Inclusive Governance. Examining the Efficacy of the Statutory Third Sector-Government Partnership for Engaging the Third Sector in Policymaking.‘ Mae’r erthygl hon yn ystyried i ba raddau y mae partneriaeth Llywodraeth Cymru â’r trydydd sector yn gweithio. Datblygiad arloesol a ddeilliodd o ddatganoli yw’r bartneriaeth, sy’n…
Methiannau COVID-19 y wladwriaeth yn datgelu anghydraddoldebau sy’n seiliedig ar oedran mewn gofal iechyd: Galw am Newid Radical
Roedd penderfyniadau llywodraeth y Prif Weinidog Mark Drakeford yn ystod y pandemig dan sylw fis diwethaf yn yr Ymchwiliad Covid-19 yng Nghaerdydd. Mae’r papur sydd newydd ei gyhoeddi yn tynnu sylw at fethiannau penderfyniadau’r wladwriaeth wrth waethygu cyflyrau iechyd a gofal cymdeithasol pobl hŷn, a oedd cyn pandemig COVID-19 eisoes yn eu rhoi mewn perygl…
Adroddiad yn crynhoi gwersi o ymchwil cyfoes ym maes allfudo i gefnogi gwaith rhaglen ARFOR II
Mae Canolfan Gwleidyddiaeth a Chymdeithas Cymru, Prifysgol Aberystwyth wedi cyhoeddi adroddiad briffio sy’n crynhoi prif gasgliadau dau weithdy ymchwil ar bwnc allfudo a gynhaliwyd yn ystod mis Tachwedd 2023. Trefnwyd y gweithdai gan CWPS a chwmni ymchwil Wavehill, a hynny fel rhan o raglen waith tendr ymchwil 18 mis sydd â’r nod o adolygu a…
Defnyddio Deialog er mwyn i’ch Ymchwil gael Effaith
Mae Amy Sanders wedi bod yn treialu dulliau newydd er mwyn sicrhau y gall ei hymchwil gael effaith. Cyflwynodd ddiwrnod llawn o hyfforddiant i weithredwyr polisi o bob rhan o’r trydydd sector yng Nghymru. Y teitl oedd Ydy’ch llais yn cael ei glywed? Sut gall y trydydd sector ddylanwadu ar Lywodraeth Cymru’. Daeth arweinwyr polisi at ei gilydd o…
CWPS i arwain prosiect newydd mawr i gefnogi datblygiad cynaliadwy cynhwysol yng Nghymru Wledig
Mae tîm dan arweiniad Cyd-gyfarwyddwr CWPS Michael Woods wedi derbyn dros £5m gan UKRI i sefydlu Cymru Wledig LPIP Rural Wales, y Bartneriaeth Polisi ac Arloesi Lleol ar gyfer Cymru Wledig. Mae’r bartneriaeth yn cynnwys aelodau CWPS Lowri Cunnington Wynn a Rhys Jones yn ogystal ag ymchwilwyr ym mhrifysgolion Aberystwyth, Bangor, Caerdydd a Swydd Gaerloyw…
WISERD yn cyflwyno ymchwil cymdeithas sifil i lunwyr polisïau ym Mrwsel
Ar 25 Ionawr, cynhaliwyd gweithdy gan Sefydliad Ymchwil Cymdeithasol ac Economaidd a Data Cymru (WISERD) ac Addysg Uwch Cymru Brwsel (WHEB) ar gyfer llunwyr polisïau ym Mrwsel, ac fe gyflwynwyd achos dros roi ymchwil cymdeithas sifil wrth wraidd cynlluniau ar gyfer yr Undeb Ewropeaidd. Yn ddiweddarach eleni, bydd aelodau’r Cyngor Ewropeaidd yn cyfarfod i gytuno ar Agenda…