CWPS-WISERD Newyddlen Rhagfyr 2022

Cyfarchion y tymor a phob hwyl ichi dros y gwyliau gan dîm CWPS-WISERD!

Mae ein hacademyddion wedi bod yn gweithio’n brysur trwy gydol y tymor newydd ac mae’n bleser gennym allu rhannu ein newyddlen gyda chi. Mae’n llawn anrhegion difyr ar drothwy’r gwyliau, gan gynnwys adroddiad CWPS ar gyfer 2021, digwyddiadau sydd ar y gweill, newyddion a dolenni i bapurau a gyhoeddwyd.


Digwyddiadau 

Encil Ysgrifennu Rhithwir i Ymchwilwyr Ôl-raddedig/Dechrau Gyrfa
9-13 Ionawr 2023
Mae’r digwyddiad hwn yn gyfle i ymchwilwyr ôl-raddedig ac ymchwilwyr sydd ar ddechrau eu gyrfa sy’n astudio Cymru (ar ystyr eang – mae croeso i bob disgyblaeth) gael amser pwrpasol i ysgrifennu – ynghyd â llond gwlad o gefnogaeth ac adnoddau i’ch sbarduno!

Darllenwch fwy yma.


Adroddiad CWPS 2021

Nod yr Adroddiad Blynyddol yw rhoi blas ichi ar weithgareddau’r Ganolfan yn ystod 2021. Mae’n cynnwys dolenni i bapurau a gyhoeddwyd, recordiadau o seminarau a’r wybodaeth ddiweddaraf am ein hymchwil.


Paned Ymchwil

Dr Amy Sanders wedi creu cyfres o fideos byr ar gyfer ymarferwyr sy’n rhannu ei hymchwil ynglŷn â’r berthynas rhwng y sector gwirfoddol a Llywodraeth Cymru, a phob fideo yr un hyd â phaned. Gallwch eu gwylio i gyd yma.


Papurau a gyhoeddwyd

Woods, M. (2022) Refugees, race and the limits of rural cosmopolitanism: Perspectives from Ireland and WalesJournal of Rural StudiesCyfrol 95, Hydref 2022 tt 316-325. (Mynediad agored)


Llongyfarchiadau

Llongyfarchiadau i Dr Anwen Elias ar gael ei phenodi’n Gymrawd y Sefydliad Materion Cymreig. 

Mae angen llongyfarch Dr Amy Sanders ddwywaith am ennill Gwobr Goffa Campbell Adamson am y Papur Gorau yng Nghynhadledd Flynyddol y Sector Gwirfoddol ac Ymchwil Wirfoddol a hefyd am fod ymhlith y rhai a dderbyniodd Wobr Goffa Audrey Jones am ei hymchwil PhD. 


Newyddion

Sefyllfaoedd IMAJINE yn cael eu cyflwyno mewn Cynhadledd ar Bolisi Cydlyniant yr UE. Darllenwch y stori lawn yma.

Trafod cryfhau democratiaeth yng Nghymru mewn cynhadledd am y cyfryngau. Darllenwch y stori lawn yma.

Penodau newydd i academydd CWPS-WISERD ar bolisi a chynllunio iaith. Darllenwch y stori lawn yma.

Digwyddiad Panel a rhwydweithio – Reimagining Welshness: New & Emerging Research. Darllenwch y stori lawn yma.

Papur newydd yn amlygu effaith trawsnewid diwydiannol mewn ardaloedd gwledig. Darllenwch y stori lawn yma.

Papur newydd ar ffoaduriaid, hil a chyfyngiadau cosmopolitaniaeth wledig yng Nghymru ac Iwerddon. Darllenwch y stori lawn yma.


Ymunwch â’n rhestr bostio i dderbyn negeseuon rheolaidd gan GRRaIN, gan gynnwys digwyddiadau, newyddion a’r e-gylchlythyr.


Cysylltwch â ni

Anfonir y newyddlen nesaf atoch fis Mawrth. Os hoffech ragor o wybodaeth am yr eitemau a drafodir yn ein newyddlen, ebostiwch ni ar CWPS@aber.ac.uk neu anfonwch neges drydar atom ar @CWPSAber.