Arddangosfa gynhaliwyd yn Oriel Carn, Caernarfon (10-17 Chwefror 2024)
Mae’r arddangosfa hon yn dangos casgliad o ffotograffau o brosiect o’n prosiect sy’n defnyddio ffotograffiaeth i ddeall sut mae pobl yn meddwl am annibyniaeth yng Nghymru, yr Alban a Chatalwnia. Dyma felly gyfrannu at ddeall sut mae dulliau gweledol yn ffordd o annog trafodaeth ymysg dinasyddion am faterion cyfansoddiadol.
Mae’r prosiect yn wahanol i waith blaenorol sydd wedi canolbwyntio ar sut mae nodweddion pobl (fel oedran, rhywedd a dosbarth cymdeithasol), ac agweddau a dewisiadau pleidleisio wedi effeithio ar eu barn am annibyniaeth.
Rydyn ni wedi gweithio gyda chlybiau ffotograffiaeth a myfyrwyr i ymchwilio i’r cwestiwn yma yn y tri achos. Gofynnwyd i gyfrannwyr dynnu lluniau yn ymwneud ag annibyniaeth. Fe fuon nhw’n trafod y delweddau ac yn cymryd rhan mewn cyfweliadau.
Dangoswyd gwaith gan ffotograffwyr yn gysylltiedig â’r mudiadau canlynol: Clwb Camera Aberystwyth; Workers Gallery, Ynyshir, y Rhondda; Foto-Cine Mataró d’UEC (Clwb Camera Mataró); IEFC: Institut d’Estudis Fotogràfics de Catalunya (Sefydliad Astudiaethau Ffotograffeg Catalonia), a ffotograffwyr o ardal Caernarfon.
Mae’r prosiect yn amhleidiol, nid yw’n cefnogi’r un blaid wleidyddol, ac nid yw’n hyrwyddo safbwynt penodol am annibyniaeth. Mae’n cael ei ariannu gan y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol, yn rhan o Ganolfan Ymchwil Cymdeithas Sifil yr ESRC/WISERD. I gael rhagor o wybodaeth am yr arddangosfa, cliciwch ar y botymau isod i fynd i dudalennau gwybodaeth y prosiect:

