Mae pobl yng Nghymru yn dal i drafod sut y dylai’r wlad gael ei rhedeg. Mae’r sgyrsiau hyn yn adlewyrchu safbwyntiau gwahanol am y sefyllfa heddiw ac maen nhw’n cynnig gwahanol opsiynau ar gyfer y dyfodol.  

Hyd at 1999, yr Ysgrifennydd Gwladol, a oedd yn aelod o Gabinet Llywodraeth y DU ac yn atebol i Senedd San Steffan, oedd yn penderfynu ar y rhan fwyaf o bolisi domestig Cymru – ac felly hefyd yn yr Alban a Gogledd Iwerddon. Ym 1999, sefydlwyd Cynulliad Cenedlaethol Cymru, llywodraeth ranbarthol a etholwyd yn uniongyrchol gan bobl Cymru. Roedd hyn yn rhan o raglen ddatganoli ar gyfer y Deyrnas Unedig gyfan a gyflwynwyd gan y Blaid Lafur, a welodd hefyd greu senedd yn yr Alban a chynulliad yng Ngogledd Iwerddon. Rhoddwyd amrywiaeth o gyfrifoldebau polisi i’r cyrff hyn yng Nghymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon, heb newid sofraniaeth Senedd y Deyrnas Unedig.

Mae trefniadau cyfansoddiadol Cymru wedi esblygu’n eithaf sylweddol ers 1999. Mae sawl Comisiwn wedi’i sefydlu i archwilio’r trefniadau ar gyfer llywodraethu Cymru: mae’r rhain wedi ystyried a ddylid rhoi pwerau llunio penderfyniadau a phwerau deddfwriaethol i Gymru mewn mwy o feysydd polisi ac ystyried sut i wella’r berthynas rhwng y sefydliadau datganoledig a’r Deyrnas Unedig. O ganlyniad, dros y blynyddoedd mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi ennill pwerau newydd i ddeddfu mewn meysydd polisi datganoledig, i godi trethi ac i newid y dull o ethol. Newidiodd Cynulliad Cenedlaethol Cymru ei enw i Senedd Cymru yn 2020. 

Erbyn heddiw, mae Llywodraeth Cymru yn gyfrifol am gynnig polisïau mewn meysydd sy’n cynnwys iechyd, addysg, iaith a diwylliant, yr amgylchedd a’r economi a gall gasglu rhai trethi. Mae Senedd Cymru yn deddfu ac yn dwyn y llywodraeth i gyfrif. Mae penderfyniadau eraill sy’n effeithio ar bobl sy’n byw yng Nghymru yn cael eu gwneud gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig ac yn San Steffan. Mae’r rhain yn cynnwys amddiffyn, pensiynau, budd-daliadau, cyfiawnder a phlismona, darlledu a’r rhan fwyaf o drethi.

Ond nid yw’r newidiadau hyn wedi rhoi diwedd ar drafodaethau ynglŷn â sut y dylid rhedeg Cymru. Mae digwyddiadau diweddar – fel Brexit, a phandemig Covid-19 – wedi rhoi pwysau cynyddol ar weithrediad setliad datganoli Cymru, ac wedi amlygu problemau. Daeth y datblygiadau hyn yn gefndir i rai newidiadau ym marn y cyhoedd wrth i wahanol arolygon ddangos mwy o gefnogaeth i annibyniaeth yng Nghymru.

Yn 2021, crëwyd Comisiwn Annibynnol newydd ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru i edrych ar wahanol ffyrdd o redeg Cymru. Fe gasglodd y Comisiwn dystiolaeth wrth wleidyddion, arbennigwyr, a dinasyddion ar sut y dylid llywodraethu Cymru yn y dyfodol. Gwerthuswyd tri opsiwn cyfansoddiadol mewn manylder: atgyfnerthu datganoli (cynyddu ac amddiffyn pwerau Senedd Cymru), Cymru’n rhan o Deyrnas Unedig ffederal, ac annibyniaeth. Daeth y Comisiwn i’r casgliad fod y tri opsiwn yma yn hyfyw, ond fod gan bob un gryfderau a gwendidau. 

Gwnaeth y Comisiwn hefyd nifer o argymhellion ar gyfer cryfhau democratiaeth yng Nghymru ac amddiffyn datganoli yn y tymor byr. 

Logo Darlunio'r Dyfodol Framing The Future logo