Yng nghyd-destun dadleuon am ddyfodol cyfansoddiadol, mae’r prosiect yma yn defnyddio ffotograffiaeth i ddeall sut mae pobl yn meddwl ac yn teimlo ynglŷn ag annibyniaeth yng Nghymru, yr Alban a Chatalonia. 

I’r cenhedloedd hyn, byddai annibyniaeth yn golygu gadael y wladwriaeth maen nhw’n perthyn iddi ar hyn o bryd (y Deyrnas Unedig a Sbaen) a dod yn wladwriaeth annibynnol.  

Mae gwaith academaidd blaenorol sydd wedi astudio agweddau pobl tuag at annibyniaeth wedi canolbwyntio ar geisio deall pam fod pobl yn penderfynu cefnogi neu wrthwynebu annibyniaeth. Mae’r gwaith yma gan amlaf yn defnyddio data o arolygon barn, lle gofynnwyd i bobl sut y byddent yn pleidleisio pe cynhelid refferendwm ar annibyniaeth, neu lle gofynnwyd am ddewisiadau unigol ar ôl cynnig rhestr o opsiynau cyfansoddiadol gwahanol, er enghraifft a fyddai’n well ganddynt ranbarth gyda phwerau cyfyngedig dros feysydd polisi penodol, rhanbarth gyda chryn dipyn o bwerau (e.e. dros blismona neu fewnfudo), neu wladwriaeth annibynnol. 

Mae’r astudiaethau hyn wedi canolbwyntio ar y ffordd mae nodweddion pobl (fel oedran, rhyw a dosbarth cymdeithasol) neu eu hagweddau (fel pa blaid wleidyddol maent yn eu cefnogi, neu sut maent yn diffinio eu hunaniaeth) yn llywio eu barn am annibyniaeth. Mae gwaith o’r fath yn arwain at gasgliadau ynghylch pa fath o nodweddion sy’n gwneud pobl yn fwy tebygol o gefnogi neu wrthwynebu annibyniaeth. Fodd bynnag, mae anghytundeb ynghylch y ffactorau sy’n ysgogi pobl i gefnogi neu wrthynebu annibyniaeth. Er enghraifft, ceir anghytuno am pa mor bwysig yw hunaniaeth genedlaethol, cwynion (grievances), rhagolygon economaidd, neu siarad iaith ranbarthol. Nid yw data’r yn gallu esbonio chwaith sut mae bywydau bob dydd dinasyddion yn effeithio ar eu profiad ac ar y ffordd y maent yn gwneud synnwyr o annibyniaeth.

Mae’r prosiect hwn yn mynd i’r afael â’r mater mewn ffordd wahanol. Mae’n ceisio mynd y tu hwnt i’r ystyriaeth ynglŷn ag annibyniaeth yn nhermau a fyddai pobl yn ei gefnogi neu’n ei wrthwynebu mewn refferendwm, drwy ymchwilio i feddyliau a theimladau pobl am y pwnc. Beth sy’n bwysig i bobl pan fyddant yn meddwl am annibyniaeth? Paagweddau o’u bywydau bob dydd a’u profiadau bywyd sy’n dylanwadu ar eu barn ynglŷn â’r ffordd y caiff eu gwlad ei llywodraethu yn y dyfodol? 

Er mwyn ceisio datblygu trafodaethau amgen ar y pwnc, mae’r prosiect yn defnyddio ffotograffiaeth fel sail i gychwyn sgyrsiau am annibyniaeth. Rydym wedi cydweithio â chlybiau ffotograffiaeth, myfyrwyr ar gyrsiau ffotograffiaeth, a pobl sy’n diddori mewn ffotograffiaeth, yn yr Alban, Catalonia a Chymru. 

Gofynnwyd i’r cyfranogwyr dynnu lluniau yn dangos y ffordd y maent yn meddwl ac yn teimlo am annibyniaeth.  Yna cynhaliwyd cyfarfod o’r grŵp lle’r oedd y cyfranogwyr yn rhannu eu lluniau ac yn egluro eu rhesymau dros dynnu’r lluniau hynny, yr hyn roeddent eisiau ei fynegi a’i ddal.  Yn olaf, gwahoddwyd y cyfranogwyr i gymryd rhan mewn cyfweliadau unigol manwl er mwyn manylu ar y syniadau a’r profiadau bywyd oedd yn dylanwadu ar y delweddau.

Tynnwyd y lluniau yn yr arddangosfa hon gan gyfranogwyr o wahanol leoliadau yng Cymru, yr Alban a Chatalonia.  

Mae’r prosiect yn un amhleidiol, ac nid yw’n hyrwyddo safbwynt penodol ar annibyniaeth. Mae’n cael ei ariannu gan y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol, fel rhan o Ganolfan Ymchwil Cymdeithas Sifil ESRC/WISERD.

Dyma’r ymchwilwyr o Brifysgol Aberystwyth sy’n arwain y prosiect: Anwen Elias, Elin Royles, Núria Franco-Guillén a Rhys Jones.

Logo Darlunio'r Dyfodol Framing The Future logo