Mae’r arddangosfa hon yn ffocysu ar y dadleuon ynghylch annibyniaeth yn yr Alban, Catalonia ac yma yng Nghymru. Ceir dadleuon tebyg ar draws y byd.
Nid yw dadleuon o’r fath yn newydd. Ers 1945, mae galwadau am annibyniaeth wedi arwain at greu llawer o wladwriaethau newydd ledled y byd, ac mae galwadau o’r fath wedi cynyddu yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Adlewyrchir hyn yn y nifer cynyddol o refferenda a gynhaliwyd ar annibyniaeth yn y degawdau diwethaf. Yn y 2010au, er enghraifft, cynhaliwyd 15 o refferenda annibyniaeth mewn lleoedd mor amrywiol â Puerto Rico a Veneto, De Brasil a Bougainville, Caledonia Newydd ac Irac. Roedd rhai refferenda yn swyddogol ac yn gyfreithiol rwymol, a rhai eraill ddim.
Mae refferenda ar annibyniaeth hefyd wedi cael eu cynnal yn yr Alban a Chatalonia yn y degawd diwethaf.
Y brif blaid wleidyddol sy’n ymgyrchu dros annibyniaeth yn yr Alban yw Plaid Genedlaethol yr Alban (yr SNP). Mae’r blaid yn gweld datganoli fel cam ar y llwybr tuag at eu nod yn y pen draw o Alban annibynnol. Daeth yr SNP yn blaid lywodraethol yn Senedd yr Alban yn 2007, ac ar ôl etholiad Senedd yr Alban yn 2011 sicrhaodd gytundeb gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig i gynnal refferendwm ar annibyniaeth i’r Alban. Cynhaliwyd y refferendwm hwn yn 2014, gyda 55% yn pleidleisio yn erbyn a 45% yn pleidleisio o blaid annibyniaeth yno. Ond ni ddaeth y canlyniad hwn â’r ddadl ynglŷn ag annibyniaeth yn yr Alban i ben. Yn refferendwm Brexit a gynhaliwyd yn 2016, roedd mwyafrif y pleidleiswyr yn yr Alban eisiau aros yn yr Undeb Ewropeaidd. Arweiniodd hyn yr SNP i ddadlau bod gadael yr UE yn erbyn ewyllys pobl yr Alban a bod angen ail refferendwm ar annibyniaeth. Hyd yn hyn, mae’r galwadau am ail refferendwm wedi’u gwrthod gan lywodraeth San Steffan.
Daeth y don bresennol o alwadau am annibyniaeth yng Nghatalonia i’r amlwg yng nghanol y 2000au, o ganlyniad i ymdrechion aflwyddiannus i roi pwerau newydd sylweddol i senedd ranbarthol Catalonia. Ar ôl cyfres o wrthdystiadau enfawr o blaid annibyniaeth, ceisiodd llywodraeth Catalonia gynnal refferendwm ar annibyniaeth yn 2017. Fodd bynnag, datganwyd hyn yn anghyfreithlon gan wladwriaeth Sbaen. Fe wnaeth llywodraeth Sbaen hefyd atal gweithrediad y senedd ranbarthol dros dro, ac erlyn yr arweinwyr oedd o blaid annibyniaeth oedd yn ymwneud â threfnu’r refferendwm. Heddiw, mae adain chwith weriniaethol Catalonia sydd o blaid annibyniaeth yn rhedeg y llywodraeth ranbarthol ac yn awyddus i gael trafodaeth gyda llywodraeth Sbaen ar gynnal refferendwm cyfreithiol newydd ar annibyniaeth Catalonia.
Yng Nghymru, y brif blaid wleidyddol sy’n galw am annibyniaeth i Gymru yw Plaid Cymru ac yn y blynyddoedd diwethaf mae’r blaid wedi galw am gynnal refferendwm ar annibyniaeth. Mae galwadau am annibyniaeth hefyd wedi’u hybu gan fudiad Yes Cymru ers canol y 2010au, sy’n dod â phobl ynghyd o wahanol sefydliadau a phleidiau gwleidyddol yng Nghymru.