Yn y tri achos, soniodd pobl am eu profiadau o drafod dyfodol cyfansoddiadol eu gwlad. Yn yr Alban a Chatalwnia yn arbennig, cyfeiriwyd at yr anhawster trafod y pwnc gyda theulu a ffrindiau: roedd hyn yn anodd o ganlyniad i wahaniaethau barn, ac yn aml fe osgowyd y pwnc yn gyfangwbl.
Eglurodd eraill eu bod yn rhwystredig nad oedd modd cael dadl agored a chytbwys am annibyniaeth. Roedd rhai yn beio’r gwleidyddion a’r cyfryngau am hyn: roeddent yn teimlo fod y pwnc yn cael ei gam-gyflwyno, a bod tuedd i or-symleiddio o blaid neu yn erbyn annibyniaeth.
Un broblem yw’r diffyg gwybodaeth gwrthrychol am annibyniaeth, y manteision a’r anfanteision. Pwy gellid ymddyried ynddynt i rannu gwybodaeth niwtral am y goblygiadau i’r dyfodol?
Yng Nghatalonia, bu tipyn o drafod ar y broses o gynnal refferendwm yn 2017. Roedd rhai yn rhwystredig gydag ymateb gwladwriaeth Sbaen i’r refferendwm, ac yn benderfynol o barhau i ymgyrchu dros annibynniaeth. Ond roedd eraill wedi’u siomi gyda’r broses – ac yn arbennig gydag ymwrthod gwladwriaethau eraill a’r Undeb Ewropaidd i roi pwysau ar wladwriaeth Sbaen i ganiatau’r refferendwm. Soniodd nifer eu bod wedi laru gyda chyflwr y drafodaeth erbyn hyn, yn ogystal a strategaeth y pleidiau gwleidyddol o blaid annibynniaeth.
Cafodd y profiad yma ddylanwad wahanol ar wahanol bobl: roedd rhai yn parhau i fod yn gefnogwyr brwd dros annibynniaeth i Gatalonia, ond roedd eraill wedi cael digon o’r pwnc. Cafwyd teimladau tebyg yn yr Alban. Mae rhai yn glir fod angen parhau i ymgyrchu am ail refferendwm ar annibyniaeth; nid yw eraill yn teimlo fod hyn bellach yn flaenoriaeth.