Y Bandstand, Aberystwyth
Dydd Iau 13 – Dydd Sadwrn 15 Ebrill 2023, 10:00 – 17:00

Mae’r prosiect hwn yn defnyddio ffotograffiaeth i ddeall sut mae pobl yn meddwl am annibyniaeth yng Nghymru, yr Alban a Chatalwnia.  

I’r cenhedloedd hyn, byddai annibyniaeth yn golygu gadael y wladwriaeth maen nhw’n perthyn iddi ar hyn o bryd (y Deyrnas Unedig a Sbaen) a dod yn wladwriaeth annibynnol.  

Mae gwaith blaenorol wedi canolbwyntio ar sut mae nodweddion pobl (fel oedran, rhywedd a dosbarth cymdeithasol) wedi effeithio ar eu barn am annibyniaeth. 

Mae’r prosiect hwn yn wahanol gan ei fod yn ystyried meddyliau a theimladau pobl ynglŷn ag annibyniaeth. A sut mae eu profiadau yn dylanwadu ar eu barn. 

Rydyn ni wedi gweithio gyda chlybiau ffotograffiaeth a myfyrwyr i ymchwilio i’r cwestiwn yma. Gofynnwyd i gyfrannwyr dynnu lluniau ytn ymwneud ag  annibyniaeth. Fe fuon nhw’n trafod y delweddau ac yn cymryd rhan mewn cyfweliadau.  

Clwb Camera Aberystwyth dynnodd y lluniau ar gyfer yr arddangosfa hon. Rydyn ni’n ddiolchgar iddyn nhw am eu cyfraniad.

Mae’r prosiect yn amhleidiol,  nid yw’n cefnogi’r un blaid wleidyddol, ac nid yw’n hyrwyddo safbwynt penodol am annibyniaeth. Mae’n cael ei ariannu gan y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol, yn rhan o Ganolfan Ymchwil Cymdeithas Sifil yr ESRC/WISERD.

Posteri Pen rheswm / gwrando’r galon: Darlunio Dyfodol Cymru

Yr ymchwilwyr o Brifysgol Aberystwyth sy’n arwain y prosiec yma ywt: Anwen Elias, Elin Royles, Núria Franco-Guillén a Rhys Jones.