Mae pobl yng Nghymru yn dal i drafod sut y dylai’r wlad gael ei rhedeg. Mae’r sgyrsiau hyn yn adlewyrchu safbwyntiau gwahanol am y sefyllfa heddiw ac maen nhw’n cynnig gwahanol opsiynau ar gyfer y dyfodol. 

Hyd at 1999, yr Ysgrifennydd Gwladol, a oedd yn aelod o Gabinet Llywodraeth y DU ac yn atebol i Senedd San Steffan, oedd yn penderfynu ar y rhan fwyaf o bolisi domestig Cymru – ac felly hefyd yn yr Alban a Gogledd Iwerddon. Ym 1999, sefydlwyd Cynulliad Cenedlaethol Cymru, llywodraeth ranbarthol a etholwyd yn uniongyrchol gan bobl Cymru. Roedd hyn yn rhan o raglen ddatganoli ar gyfer y Deyrnas Unedig gyfan a gyflwynwyd gan y Blaid Lafur, a welodd hefyd greu senedd yn yr Alban a chynulliad yng Ngogledd Iwerddon. Rhoddwyd amrywiaeth o gyfrifoldebau polisi i’r cyrff hyn yng Nghymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon, heb newid sofraniaeth Senedd y Deyrnas Unedig.

Mae trefniadau cyfansoddiadol Cymru wedi esblygu’n eithaf sylweddol ers 1999. Mae sawl Comisiwn wedi’i sefydlu i archwilio’r trefniadau ar gyfer llywodraethu Cymru: mae’r rhain wedi ystyried a ddylid rhoi pwerau llunio penderfyniadau a phwerau deddfwriaethol i Gymru mewn mwy o feysydd polisi ac ystyried sut i wella’r berthynas rhwng y sefydliadau datganoledig a’r Deyrnas Unedig. O ganlyniad, dros y blynyddoedd mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi ennill pwerau newydd i ddeddfu mewn meysydd polisi datganoledig, i godi trethi ac i newid y dull o ethol. Newidiodd Cynulliad Cenedlaethol Cymru ei enw i Senedd Cymru yn 2020.

Erbyn heddiw, mae Llywodraeth Cymru yn gyfrifol am gynnig polisïau mewn meysydd sy’n cynnwys iechyd, addysg, iaith a diwylliant, yr amgylchedd a’r economi a gall gasglu rhai trethi. Mae Senedd Cymru yn deddfu ac yn dwyn y llywodraeth i gyfrif. Mae penderfyniadau eraill sy’n effeithio ar bobl sy’n byw yng Nghymru yn cael eu gwneud gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig ac yn San Steffan. Mae’r rhain yn cynnwys amddiffyn, pensiynau, budd-daliadau, cyfiawnder a phlismona, darlledu a’r rhan fwyaf o drethi.

Ond nid yw’r newidiadau hyn wedi rhoi diwedd ar drafodaethau ynglŷn â sut y dylid rhedeg Cymru. Mae digwyddiadau diweddar – fel Brexit, a phandemig Covid-19 – wedi rhoi pwysau cynyddol ar weithrediad setliad datganoli Cymru, ac wedi amlygu problemau. Daeth y datblygiadau hyn yn gefndir i rai newidiadau ym marn y cyhoedd wrth i wahanol arolygon ddangos mwy o gefnogaeth i annibyniaeth yng Nghymru.

Yn 2021, crëwyd Comisiwn Annibynnol newydd ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru i edrych ar wahanol ffyrdd o redeg Cymru. Mae’r Comisiwn yn y broses o gasglu barn pobl Cymru ar sut y dylid llywodraethu Cymru yn y dyfodol, a bydd yn gwneud ei argymhellion terfynol erbyn diwedd 2023. Yr opsiynau allweddol sy’n cael eu hystyried gan y Comisiwn yw:

Dewis 1: Atgyfnerthu datganoli: Byddai hyn yn rhoi mwy o amddiffyniad i bwerau’r Senedd, a gallai hefyd olygu trosglwyddo cyfrifoldebau polisi newydd i Gymru.

Dewis 2: Strwythur ffederal: Byddai hyn yn golygu ei gwneud yn gliriach pwy sy’n gyfrifol am ba bolisïau, naill ai senedd y Deyrnas Unedig neu sefydliadau datganoledig yng Nghymru, yr Alban, Gogledd Iwerddon a Lloegr. Byddai gallu’r sefydliadau datganoledig gyfrannu at benderfyniadau polisi sy’n effeithio ar y Deyrnas Unedig gyfan hefyd yn fwy eglur.

Dewis 3: Annibyniaeth: O dan yr opsiwn hwn, byddai Cymru yn dod yn wladwriaeth sofran a gallai wneud cais am fod yn aelod llawn o’r Cenhedloedd Unedig a sefydliadau rhyngwladol eraill.