Sut mae pobl yr Alban a Chatalonia gyfrannodd i’n prosiect yn meddwl am annibyniaeth?

Yn yr Alban, mae yna ymdeimlad cryf o hunaniaeth ymhlith y cyfranogwyr hefyd. Roedd rhai yn teimlo eu bod yn Albanwyr, tra nad oedd eraill yn teimlo eu bod yn perthyn i’r Deyrnas Unedig gyfan. Ymddengys bod yr ymdeimlad o fod yn wleidyddol wahanol i weddill y Deyrnas Unedig yn gryfach yma nag yng Nghymru: amlygwyd gwahaniaethau polisi rhwng yr Alban a gweddill y DU yn aml, a theimlai llawer o bobl yn rhwystredig bod potensial yr Alban yn cael ei gyfyngu mewn meysydd polisi hollbwysig, er enghraifft, ar ynni gwyrdd ac ail-ymuno â’r Undeb Ewropeaidd. Ond mynegodd eraill eu dymuniad i aros yn rhan o’r Deyrnas Unedig gan bwysleisio’r syniad o fod yn “well gyda’n gilydd”. Fodd bynnag, mae’r un ymdeimlad o ansicrwydd ynghylch y dyfodol. Roedd llawer o gyfranogwyr hefyd yn ansicr ynghylch sut y byddent yn pleidleisio mewn ail refferendwm ar annibyniaeth; teimlai rhai nad oedd ganddynt ddigon o wybodaeth i wneud penderfyniad, nid oedd gan eraill ddiddordeb yn y mater.

Yng Nghatalonia, fel yng Nghymru, mae iaith a diwylliant yn bwysig i gyfranogwyr ac yn effeithio ar eu teimladau ynglŷn ag annibyniaeth. Mae llawer yn poeni bod yr iaith Gatalaneg yn dod yn un lleiafrifol ac eisiau iddi gael ei hamddiffyn a’i hyrwyddo. Maent yn pryderu nad yw hawliau siaradwyr ieithoedd lleiafrifol wedi’u sicrhau o dan y trefniadau sefydliadol presennol ac mae rhai yn gweld annibyniaeth fel ffordd o fynd i’r afael â’r mater hwn.  Yng Nghatalonia, bu mwy o drafod ar y broses o sicrhau annibyniaeth gan fod y digwyddiadau o amgylch refferendwm 2017 wedi cael effaith ar farn pobl ar annibyniaeth a sut i gyflawni annibyniaeth. Roedd llawer o’r delweddau’n ymwneud â’r ymgais i gynnal refferendwm ar annibyniaeth yn 2017, a’r ffordd y ceisiodd heddlu Sbaen atal pobol rhag pleidleisio. Roedd rhai wedi eu dychryn a’u cythruddo gan yr ymateb hwn ac fe’u hanogwyd i gefnogi annibyniaeth. Roedd eraill yn teimlo’n rhwystredig iawn, yn enwedig gan y ffaith fod gwledydd tramor – a’r Undeb Ewropeaidd yn arbennig – wedi gwrthod rhoi pwysau ar wladwriaeth Sbaen i ganiatáu i’r refferendwm ddigwydd. Wrth fyfyrio ar y blynyddoedd ers yr ymgais i gynnal refferendwm, soniodd llawer o gyfranogwyr am eu siom gyda chyflwr presennol y ddadl, o ran strategaeth y pleidiau sydd o blaid annibyniaeth a’r diffyg cynnydd ar y trafodaethau ar gynnal refferendwm cyfreithiol newydd ar annibyniaeth. Mae’r profiad hwn wedi cael effaith wahanol ar wahanol bobl: mae rhai yn parhau i deimlo’n gryf o blaid annibyniaeth, mae eraill wedi penderfynu bellach nad oes ots ganddyn nhw.