Wrth i’r cyfrannwyr yng Nghymru, yr Alban a Chatalwnia  bwyso a mesur eu teimladau am annibyniaeth, soniodd rhai am eu hamheuon neu eu hofnau am beth fyddai hyn yn ei olygu i ddyfodol eu gwlad.

Soniodd eraill am eu hymdeimlad cryf o hunaniaeth a sut roedd hyn yn eu gwneud iddyn nhw gefnogi annibyniaeth fwy fyth.

Yng Nghymru, roedd tensiwn yn aml rhwng y ddwy farn yma, a’r pen a’r galon yn gwthio yn erbyn ei gilydd. 

Mae’r tensiwn hwn yn creu llawer o ansicrwydd wrth drafod annibyniaeth. Mae’n aml yn gwneud i bobl feddwl nad annibyniaeth yw’r ateb.