Mae ein hymchwil hyd yn hyn wedi adnabod rhai themâu allweddol o ran sut mae pobl yn meddwl ac yn teimlo am annibyniaeth:

Mae Cymru’n wahanol

Ar draws y tri achos, roedd cyfranogwyr yn aml yn sôn am yr ymdeimlad o arwahanrwydd diwylliannol (hunaniaethau, iaith, hanes) oddi wrth weddill y wladwriaeth (y Deyrnas Unedig neu Sbaen).

Yng Nghymru, roedd yr hunaniaeth hon yn cael ei mynegi trwy gyfeiriadau at symbolau diwylliannol, hanes Cymru a’r dirwedd, ac roedd ymdeimlad clir o berthyn i’r wlad a chariad tuag ati. Ategwyd y teimladau hyn gan ystod o wahanol brofiadau bywyd: roedd rhai wedi’u geni yng Nghymru ac wedi byw yma am y rhan fwyaf o’u hoes, eraill wedi’u geni y tu allan i Gymru neu wedi byw dramor. Soniodd y cyfranogwyr hefyd am yr iaith Gymraeg, a oedd yn cael ei gweld fel rhywbeth i’w ddathlu a’i warchod.

Roedd y gwerthfawrogiad hwn o hunaniaeth Gymreig yn aml yn gwneud cyfranogwyr yn ymwybodol o wahaniaethau rhwng Cymru a gweddill y Deyrnas Unedig (a Lloegr yn arbennig). I rai, roedd teimlad o ddicter bod Cymru’n cael ei phortreadu’n aml fel gwlad sy’n ddibynnol ar Loegr, neu’n israddol iddi. Pwysleisiodd eraill fod hanes Cymru fel rhan o’r Deyrnas Unedig yn un cadarnhaol, ac yn rhywbeth y dylid ei gynnal.

Ydy hunaniaeth benodol yn effeithio ar sut mae pobl yn meddwl am annibyniaeth? 

Mae ein hymchwil hyd yma yn dangos nad yw’r ffaith bod yr ymwybyddiaeth o wahaniaeth yn golygu bod gan bobl yr un farn ynglŷn ag annibyniaeth i Gymru. I lawer, nid yw’r ffaith eu bod yn teimlo bod Cymru’n wahanol iawn yn bwysig wrth feddwl neu deimlo am y pwnc.  I rai, mae bod yn Gymro yn golygu eu bod yn dymuno annibyniaeth; daeth ystyriaethau iaith i’r amlwg yma hefyd: a allai Cymru annibynnol arwain at gyfleoedd newydd i hybu defnyddio’r iaith? I eraill, mae Cymreictod yn rhan o hunaniaeth sydd hefyd yn cynnwys teimlo’n Brydeinig ac mae’n well ganddyn nhw aros yn rhan o’r Deyrnas Unedig.

Ein Dyfodol 

Mae ein hymchwil ni yn y tri achos yn dangos bod pobl yn meddwl am annibyniaeth drwy eu profiad nhw o wleidyddiaeth a’r sefyllfa economaidd ar hyn o bryd. Ond mae hyn yn arwain pobl i feddwl yn wahanol iawn am annibyniaeth.

Mae rhai yn credu y bydd annibyniaeth yn trawsnewid cymdeithas ac yn creu dyfodol gwahanol a gwell. Yng Nghymru, mae rhai pobl yn credu mai annibyniaeth yw’r unig ffordd o wneud penderfyniadau sy’n ateb anghenion y wlad, lle nad yw San Steffan yn ymyrryd yn sut mae Cymru yn cael ei rhedeg.  Mae’r safbwyntiau hyn yn adlewyrchu rhwystredigaeth rhai cyfranogwyr gyda’r trefniadau datganoli presennol, ac ymdrechion llywodraeth y Deyrnas Unedig i wrthdroi penderfyniadau polisi a wneir yng Nghymru. Mae yna ymdeimlad hefyd o ddadrithiad gyda gwleidyddiaeth a gwleidyddion nad ydynt yn deall Cymru, ac yn enwedig gyda’r ffordd mae Brexit wedi’i reoli – ac effeithio’n negyddol ar Gymru. Soniodd rhai am botensial economaidd Cymru annibynnol – a’r cyfle a ddeuai yn ei sgil i ymagwedd wahanol a mwy rhagweithiol at gyflawni twf economaidd.

I eraill, mae annibyniaeth yn risg enfawr. Yng Nghymru, roedd pobl yn pryderu a fyddai Cymru’n rhy fach neu’n rhy dlawd i sefyll ar ei thraed ei hun.  Roedd un pryder penodol yn ymwneud â sut y byddai Cymru’n ymdopi heb y trosglwyddiadau ariannol sy’n dod ar hyn o bryd gan lywodraeth y Deyrnas Unedig; a allai Cymru gynhyrchu digon o gyfoeth i gynnal ei systemau lles ac addysg ei hun? Roedd rhai hefyd yn amau a fyddai gwleidyddiaeth wahanol yn bosib mewn Cymru annibynnol, ac a allai Cymru ail-ymuno â’r Undeb Ewropeaidd.

Teimlai llawer hefyd ei bod yn anodd cael dadl onest am annibyniaeth, yn enwedig gan ei fod yn fater cymhleth sy’n agored i gael ei gyfleu’n anghywir gan y cyfryngau. Un broblem yw’r diffyg gwybodaeth am annibyniaeth, gan gynnwys manteision ac anfanteision posib. Roedd rhai hefyd yn pryderu bod hwn yn bwnc anodd ei drafod mewn ffordd ddiduedd: pwy y gellir ymddiried ynddo i roi gwybodaeth ddiduedd am yr hyn y byddai’n ei olygu i Gymru yn y dyfodol?

Pen/Calon

Wrth i’r bobl a fu’n rhan o’r tri achos bwyso a mesur eu teimladau am annibyniaeth, soniodd rhai am eu hamheuon neu eu hofnau am beth fyddai hyn yn ei olygu i ddyfodol eu gwlad. Soniodd eraill am eu hymdeimlad cryf o hunaniaeth a sut roedd hyn yn eu gwneud yn fwy cefnogol o annibyniaeth.

Yng Nghymru, roedd tensiwn yn aml rhwng y ddwy farn yma, a’r pen a’r galon yn gwthio yn erbyn ei gilydd.  Cafodd y tensiwn hwn ei gyfleu yn glir iawn gan un cyfranogwr a nododd, wrth drafod y ffotograffau yr oedd wedi’u tynnu: “Roedd yn fwy o daith drwy’r emosiynau a…dynnwyd allan ohonof gan y cwestiwn, rwy’n meddwl. Rwy’n meddwl ei fod fwy na thebyg yn portreadu fy safbwynt ar bethau yn fy nghalon, nid yw o reidrwydd yn golygu fy safbwynt ar bethau yn fy mhen…”. Mae’r tensiwn hwn yn creu llawer o ansicrwydd mewn trafodaethau am annibyniaeth, ei oblygiadau gwleidyddol ac economaidd-gymdeithasol a’r anhawster o allu rhagweld ei ôl-effeithiau yn yr hirdymor. Mae’n aml yn gwneud i bobl feddwl nad annibyniaeth yw’r ateb.