Arddangosfa yn Y Bandstand, Aberystwyth (13 –15 Ebrill 2023)
Hon oedd yr arddangosfa gyntaf yn gysylltiedig â’n prosiect sy’n defnyddio ffotograffiaeth i ddeall sut mae pobl yn meddwl am annibyniaeth yng Nghymru, yr Alban a Chatalwnia.
I’r cenhedloedd hyn, byddai annibyniaeth yn golygu gadael y wladwriaeth maen nhw’n perthyn iddi ar hyn o bryd (y Deyrnas Unedig a Sbaen) a dod yn wladwriaeth annibynnol.
Mae gwaith blaenorol wedi canolbwyntio ar sut mae nodweddion pobl (fel oedran, rhywedd a dosbarth cymdeithasol) wedi effeithio ar eu barn am annibyniaeth.
Mae’r prosiect hwn yn wahanol gan ei fod yn ystyried meddyliau a theimladau pobl ynglŷn ag annibyniaeth. A sut mae eu profiadau yn dylanwadu ar eu barn.
Rydyn ni’n gweithio gyda chlybiau ffotograffiaeth a myfyrwyr i ymchwilio i’r cwestiwn yma. Gofynnwyd i gyfrannwyr dynnu lluniau yn ymwneud ag annibyniaeth. Fe fuon nhw’n trafod y delweddau ac yn cymryd rhan mewn cyfweliadau.
Clwb Camera Aberystwyth dynnodd y lluniau ar gyfer yr arddangosfa hon a ddenodd dros 600 i’w weld dros dri diwrnod. Rydyn ni’n ddiolchgar iddyn nhw am eu cyfraniad.
Roedd gwaith Cadeirydd y Clwb, Neil McGuff, yn cael ei ddangos yn yr arddangosfa ac fe anogodd glybiau eraill i gymryd rhan:
““Fe wnes i ac aelodau eraill o’r clwb ffotograffiaeth fwynhau cymryd rhan yn yr ymchwil yma’n fawr iawn. Drwy ddefnyddio ein creadigrwydd i archwilio’r syniad o annibyniaeth at sgyrsiau hynod ddiddorol ymhlith y grŵp. Fe wnaeth agor fy llygaid i’r ffordd y gall pob un ohonom fynd i’r afael â phwnc sy’n rhannu.
Byddwn yn argymell unrhyw glwb neu ddosbarth ffotograffiaeth i gymryd rhan gan ei fod yn cynnig cyfle gwych i ddilyn eich creadigrwydd ac i arddangos eich ffotograffiaeth, o bosib, mewn lleoliad fel Barcelona.”
Mae’r prosiect yn amhleidiol, nid yw’n cefnogi’r un blaid wleidyddol, ac nid yw’n hyrwyddo safbwynt penodol am annibyniaeth. Mae’n cael ei ariannu gan y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol, yn rhan o Ganolfan Ymchwil Cymdeithas Sifil yr ESRC/WISERD. I gael rhagor o wybodaeth am yr arddangosfa hon, cliciwch ar y botymau isod i fynd i dudalennau gwybodaeth y prosiect:
Yr ymchwilwyr o Brifysgol Aberystwyth sy’n arwain y prosiec yma ywt: Anwen Elias, Elin Royles, Núria Franco-Guillén a Rhys Jones.