Creu Senedd i Gymru – Cyfle i ddweud eich dweud fel rhan o’n hymgynghoriad Diwygio Etholiadol

Fel rhan o ymgynghoriad Comisiwn y Cynulliad ar ddiwygio etholiadol, caiff tri digwyddiad eu cynnal ledled Cymru ym mis Mawrth er mwyn codi ymwybyddiaeth o’r ymgynghoriad a rhoi’r cyd-destun i waith y Panel Arbenigol ar Ddiwygio Etholiadol.

Trefnwyd y digwyddiadau gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru mewn partneriaeth â Sefydliad Ymchwil, Data a Methodoleg Gymdeithasol ac Economaidd Cymru, y Sefydliad Materion Cymreig, ac Academi Morgan.

Bydd cyflwyniad gan banel ac yna sesiwn holi ac ateb, lle ceir cyfle i holi Elin Jones AC, Llywydd y Cynulliad.

Lluniwyd yr ymgynghoriad yn sgîl y pwerau newydd a roddwyd i’r Cynulliad yn Neddf Cymru 2017.

Mae’r Ddeddf yn rhoi’r pŵer i’r Cynulliad wneud penderfyniadau mewn perthynas â maint y sefydliad a sut mae Aelodau’n cael eu hethol. 

Yn gynharach y mis hwn, pleidleisiodd y Cynulliad o blaid penderfyniad y Comisiwn i ymgynghori ar argymhellion adroddiad y Panel Arbenigol ar Ddiwygio Etholiadol y Cynulliad, sef “Senedd sy’n Gweithio i Gymru”.

Ar ôl dadansoddi’r dystiolaeth yn ofalus, roedd y Panel yn argymell bod angen rhwng 20 a 30 o Aelodau Cynulliad ychwanegol ac y dylid eu hethol drwy system etholiadol fwy cyfrannol sy’n rhoi lle canolog i amrywiaeth. Roedd hefyd yn argymell y dylid gostwng yr oedran pleidleisio isaf ar gyfer etholiadau’r Cynulliad Cenedlaethol, i gynnwys pobl ifanc un ar bymtheg a dwy ar bymtheg mlwydd oed.

Bydd yr ymgynghoriad yn diweddu ar 6 Ebrill.

Yn ogystal ag argymhellion y Panel Arbenigol ar Ddiwygio Etholiadol y Cynulliad mae’r ymgynghoriad hefyd yn cynnwys newidiadau posibl eraill o ran pwy all bleidleisio yn etholiadau’r Cynulliad, a phwy all fod yn Aelod o’r Cynulliad, ynghyd â newidiadau i’r gyfraith yn ymwneud â gweinyddiaeth etholiadol a threfniadau mewnol y Cynulliad.

Mae’r Comisiwn eisoes wedi ymgynghori ynghylch newid enw’r Cynulliad, ac o ganlyniad i’r ymgynghoriad hwnnw bydd yr enw’n cael ei newid i Senedd Cymru.

Dywedodd Elin Jones AC, y Llywydd:

“Mae Deddf Cymru 2017 yn nodi dechrau cyfnod newydd o ddatganoli yng Nghymru, gan roi cyfle inni wneud newidiadau pellgyrhaeddol i’n deddfwrfa. Mae gennym gyfle nawr i greu’r senedd genedlaethol y mae pobl Cymru’n ei haeddu i hyrwyddo eu buddiannau.

Mae’r ymgynghoriad hwn yn dechrau’r sgwrs gyda phobl a chymunedau Cymru am y math o sefydliad y maen nhw am i’w Senedd Cymru fod. Edrychaf ymlaen at glywed eu barn.”

 Manylion y digwyddiadau


Abertawe

Dyddiad: Dydd Llun 12/03/18 
Amser: 18:00 – 19:30
Lleoliad: Adeilad Ysgol Rheolaeth, Prifysgol Abertawe, Campws Bae Abertawe. SA1 8EN 

Manylion y digwyddiadau>

 


Dyddiad: Dydd Iau 15/03/18
Amser: 18:30 – 20:00
Lleoliad: Y Brif Neuadd, Adeilad Gwleidyddiaeth Ryngwladol, Prifysgol Aberystwyth, Ceredigion. SY23 3FE

Manylion y digwyddiadau>


Dyddiad: Dydd Iau 22/03/18
Amser: 18:30 – 20:00
Lleoliad: Darlithfa Eric Sunderland, Prifysgol Bangor, Bangor LL57 2DG

Manylion y digwyddiadau> 

I gael rhagor o wybodaeth am y digwyddiadau rhanbarthol, gan gynnwys sut i fod yn bresennol, ewch i’r ficrowefan ymgynghori ar ddiwygio etholiadolwww.seneddydyfodol.cymru/hafan/.

Mae nifer o ffyrdd y gall pobl roi gwybod i Gomisiwn y Cynulliad beth maent yn ei feddwl am y diwygiadau posibl:

  • Mynd i wefan yr ymgynghoriad, lle ceir y ddogfen ymgynghori lawn a fersiwn hawdd ei darllen o’r ddogfen ymgynghori. Ar ôl llenwi’r ffurflen ymateb i’r ymgynghoriad, gellir ei hanfon at ComisiwnyCynulliad.Ymgynghori@cynulliad.cymru neu gallwch ei hanfon atom yn y post at Rhadbost [Freepost], Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
  • Mynd i ficrowefan yr ymgynghoriad a llenwi arolwg ar-lein. Gallwch ddewis ateb y cwestiynau am bob cynnig, ynteu dim ond y rhai sydd o ddiddordeb i chi.