Gwobr Cyflawniad Arbennig i academydd o Aberystwyth

Mae academydd blaenllaw o Gymru sydd yn gweithio ym maes gwleidyddiaeth iechyd byd wedi derbyn cydnabyddiaeth am gyfraniad oes i ymchwil gwyddor gymdeithasol yng Nghymru.

Cyflwynwyd Gwobr Cyflawniad Arbennig i’r Athro Colin McInnes, Athro UNESCO Addysg a Diogelwch Iechyd HIV/AIDS yn Affrica ym Mhrifysgol Aberystwyth, yng Ngwobrau Ymchwil Cymdeithasol Cymru 2017 gafodd eu cynnal yn y Senedd yng Nghaerdydd ddydd Iau 7 Rhagfyr.

Wrth longyfarch yr Athro McInnes ar ei lwyddiant, dywedodd yr Athro Elizabeth Treasure, Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth: “Ar ran pawb yma ym Mhrifysgol Aberystwyth, hoffwn estyn ein llongyfarchiadau mwyaf gwresog i’r Athro McInnes ar dderbyn y wobr hon. Mae wedi cynorthwyo i ail-ddiffinio a mireinio ein dealltwriaeth o iechyd fel ffenomenon wleidyddol yn oes globaleiddio, ac nid yw’n or-ddweud ei fod wedi bod yn gyfrifol am sefydlu’r maes hwn yn y DU ac yn rhyngwladol.

Mewn datganiad o gefnogaeth, disgrifiodd yr Athro Kelley Lee o Brifysgol Simon Fraser, Vancouver, Canada, yr Athro McInnes fel “ysgolhaig rhagorol o enw da rhyngwladol”.

Ychwanegodd yr Athro Lee: “Mae’r Athro McInnes yn ysgolhaig uchel iawn ei barch sydd wedi cyfrannu dadansoddiadau arloesol a gwreiddiol sy’n pontio meysydd Cysylltiadau Rhyngwladol ac Iechyd Cyhoeddus. Mae wedi cyflawni hyn trwy chwarae rôl arweiniol wrth ddyfnhau’r dadansoddiad o faterion iechyd byd-eang gan ddefnyddio lensys polisi tramor, diogelwch a llywodraethiant/diplomyddiaeth. Mae ei gyfraniadau damcaniaethol ac empirig yn ychwanegol at ei gyfraniadau cyson at drafodaethau polisi lefel uchel yn y DU ac yn rhyngwladol.”

Noddwyd gwobrau Cymdeithas Ymchwil Cymdeithasol eleni gan yr Ysgrifennydd Cyllid Llywodraeth Cymru Mark Drakeford AC, ac maent yn cydnabod a dathlu ymchwil ragorol gan ymchwilwyr gwyddoniaeth gymdeithasol yng Nghymru.

Eleni gwelwyd academyddion o Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol Prifysgol ar restr fer pob un o bedwar categori’r Gwobrau.

Yn ogystal â’r Athro McInnes, cafodd y canlynol eu cynnwys ar y rhestr fer.

Dr Catrin Wyn Edwards (Ymchwilydd Gyrfa Cynnar y Flwyddyn). Mae Dr Edwards wedi bod yn ymchwilio i integreiddio ieithyddol ymfudwyr i is-wladwriaethau, yn benodol yng Nghatalwnia a Chymru, a Quebec a New Brunswick yng Nghanada.

Dr Huw Lewis, Dr Elin Royles a Dr Catrin Wyn Edwards (Gwobr Effaith Ymchwil). Cafodd Dr Huw Lewis, Dr Elin Royles a Dr Catrin Wyn Edwards, sy’n gweithio i Ganolfan Gwleidyddiaeth a Chymdeithas Cymru WISERD ym Mhrifysgol Aberystwyth, eu cynnwys ar y rhestr fer am eu gwaith hysbysu a dylanwadu ar y drafodaeth bolisi fu’n bwydo mewn i baratoi strategaeth iaith newydd Llywodraeth Cymru, Cymraeg 2050, Strategaeth y Gymraeg, gafodd ei chyhoeddi yng Ngorffennaf 2017.

Dr Berit Bliesemann de Guevara (Gwobr Arloesedd Ymchwil). Enwebwyd Dr Bliesmann de Guevara am ei gwaith ar y cyd gydag ymchwilwyr o Brifysgol Caerdydd ar y prosiect “Defnyddio gweithdy arlunio i archwilio profiadau anffrwythlondeb menywod Croenddu a Lleiafrifoedd Ethnig yng Nghymru”.

Yn ôl yr adolygiad diweddaraf o ansawdd ymchwil y DU, Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil 2014, roedd 95% o’r gweithgaredd ymchwil a gyflwynwyd gan Brifysgol Aberystwyth yn cyrraedd safon gydnabyddedig ryngwladol neu uwch na hynny, gydag ymchwil sy’n arwain y byd (4*) yn cael ei nodi ym mhob un o 17 o’r Unedau Asesu a gyflwynwyd.

Roedd yr Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol ar y brig yng Nghymru, gyda dros 75% o’i ymchwil o safon gydnabyddedig ryngwladol neu yn neu’n rhagorol yn rhyngwladol (FfRhY2014).